Wyt ti’n mynd i'r brifysgol yng Nghymru? Wyt ti am astudio dy gwrs yn Gymraeg?
Arian yn dy boced di!
Oeddet ti’n gwybod bod arian ar gael drwy nifer o ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg os wyt ti’n astudio rhan o dy gwrs yn Gymraeg?
Nid benthyciad yw’r arian, a does dim rhaid ei dalu yn ôl!
Mae mwy o wybodaeth am bob ysgoloriaeth ar waelod y dudalen.
Prif Ysgoloriaeth
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg ac yn cychwyn yn y Brifysgol ym Medi 2024.
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Cyfnod ymgeisio: 11 Medi - 24 Ionawr
Sut i ymgeisio: Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer Medi 2024 bellach ar gau
Ysgoloriaeth Cymhelliant
Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd (cyfanswm o £1,500)
Pwy: Myfyrwyr sydd yn cychwyn yn y brifysgol yn Medi/Hydref 2024 ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs yn Gymraeg mewn UNRHYW BWNC
Cyrsiau: Unrhyw gwrs sy'n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer yr Ysgoloriaeth Cymhelliant bellach wedi cau.
Bydd ail ffenest ymgeisio ar gyfer yr Ysgoloriaeth Cymhelliant yn agor ym mis Medi 2024.
Ysgoloriaeth Meddygaeth
Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd cyntaf y cwrs
Pwy: Myfyrwyr sy'n astudio cwrs Meddygaeth mewn prifysgol yng Nghymru, ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o'u cwrs yn Gymraeg
Dyddiad cau: Mae'r dyddiad cau bellach wedi bod ar gyfer ceisiadau 2024.
Ysgoloriaeth Milfeddygaeth 'Defi Fet'
Faint: £500 y flwyddyn dros 5 mlynedd (cyfanswm o £2,500)
Pwy: Myfyrwyr Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol (RVC). Yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i'r myfyrwyr ddilyn o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg. Disgwylir i'r myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, cynorthwyo â dysgu Cymraeg i’w cyd-fyfyrwyr, cwblhau asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg ac ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) ar leoliadau a ffermydd Cymraeg. Yn ystod eu hamser yn yr RVC, rhaid i'r myfyrwyr ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Clinigol (CEMS) yng Nghymru mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg.
Dyddiad cau: Mae'r dyddiad cau ar gyfer mynediad 2024 bellach wedi cau.
Bwrsariaeth Gareth Pierce
Er cof am ei gyn Brif Weithredwr, mae CBAC wedi creu Bwrsariaeth Gareth Pierce i gefnogi myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y Coleg Cymraeg sy'n gweinyddu’r bwrsariaethau ar ran CBAC.
Faint: £3,000 am y flwyddyn gyntaf yn unig
Pwy: Myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd Mathemateg ac am astudio o leiaf 33% o’u cwrs yn Gymraeg
Dyddiad cau: Mae'r cyfnod ymgeisio AR AGOR hyd at 1 Hydref 2024
Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sy'n byw yn ardal Gwynedd sy’n astudio eu cwrs cyfan (100%) yn Gymraeg
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Sut i ymgeisio: Bydd enwebiadau ar gyfer 2024/25 yn cael eu dewis o blith y ceisiadau am Brif Ysgoloriaeth y Coleg.
Ysgoloriaeth Cyngor Môn
Faint: £500 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £1,500)
Pwy: Myfyrwyr sy’n byw yn ardal Ynys Môn, sy’n astudio o leiaf 33%/40 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: Mae'r ffurflen gais AR AGOR hyd at 1 Hydref 2024
Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sydd am astudio’r Gyfraith, sy’n byw yn ardaloedd Meirionydd neu Rhondda Cynon Taf ac sydd am astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr. Dim ond yn weithredol ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor.
Dyddiad cau: Bydd enwebiadau ar gyfer 2024/25 yn cael eu dewis o blith y ceisiadau am Brif Ysgoloriaeth y Coleg
Ysgoloriaeth Nyrsio Gwanwyn
Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd (cyfanswm o £1,500)
Pwy: Myfyrwyr Nyrsio sydd yn cychwyn yn y brifysgol yng Ngwanwyn 2024 ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs Nyrsio yn Gymraeg
Cyrsiau: Cwrs Nyrsio sy'n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: Mae'r cyfnod ymgeisio AR AGOR hyd at 10 Mai 2024
Os nad ydych wedi llwyddo i gyflwyno cais am Ysgoloriaeth i'r Coleg oherwydd amgylchiadau eithriadol, mae modd gwneud cais am apêl. Gweler y Polisi Amgylchiadau Eithriadol am fwy o fanylion.