Skip to main content Skip to footer

Polisi Amgylchiadau Eithriadol Ysgoloriaethau

Dyfarnu Ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Mae’r Coleg yn cydnabod y gall amrywiaeth eang o anawsterau ac amgylchiadau effeithio ar fyfyrwyr unigol, a all eu rhwystro rhag cyflwyno ffurflen gais am Ysgoloriaeth ar amser. Nid oes modd i’r Coleg ddyfarnu ysgoloriaethau i fyfyrwyr sydd heb gyflwyno cais neu sy’n cyflwyno cais hwyr, oni bai bod amgylchiadau eithriadol y dylid eu hystyried.

Beth yw amgylchiadau eithriadol?
Amgylchiadau sydd y tu hwnt i reolaeth y myfyriwr/disgybl sydd wedi eu hatal rhag cyflwyno cais erbyn y dyddiad cau. Gallai hyn gynnwys (ond heb fod yn gyfyngedig i);

  • Problemau meddygol tymor byr difrifol neu gyflwr iechyd parhaus sydd wedi gwaethygu’n sylweddol (gan gynnwys iechyd meddwl/lles)Marwolaeth perthynas neu ffrind agos
  • Damwain
  • Problemau personol
  • Problemau teuluol, megis ysgariad
  • Ymosodiad/trais rhywiol
  • Cyfnod o hunan ynysu/cwarantin
  • Cyfrifoldebau gofalu ac anawsterau domestig

Nid fydd y canlynol yn cael eu hystyried fel amgylchiadau eithriadol:

  • Ddim wedi clywed am y dyddiad cau / wedi camddarllen manylion
  • Problemau technegol gyda dyfais bersonol wrth gyflwyno cais
  • Digwyddiadau yn gwrthdaro gyda’r dyddiad cau, e.e. gwyliau, priodas, gwasanaeth rheithgor
  • Mwy nag un dyddiad cau ar yr un diwrnod
  • Rheolaeth amser gwael
  • Amgylchiadau meddygol tu allan i'r cyfnod ymgeisio perthnasol
  • Wedi trosglwyddo sefydliad / cwrs gradd

Proses Apêl
Rhaid i’r myfyriwr/darpar fyfyriwr gyflwyno cais am apêl o fewn 30 diwrnod i’r dyddiad cau. Rhaid cyflwyno’r cais yn ysgrifenedig (e-bost/lythyr) i’r Coleg, gan gynnwys unrhyw dystiolaeth perthnasol o amgylchiadau eithriadol. Bydd y Coleg yn rhoi ystyriaeth fanwl i unrhyw apêl sy’n cael ei gyflwyno gan fyfyrwyr/darpar fyfyrwyr. Cedwir yr hawl i gysylltu â Swyddogion Cangen a’r prifysgolion i wirio manylion.
Bydd y myfyriwr/darpar fyfyriwr yn cael ei hysbysu am ganlyniad yr apêl o fewn 10 diwrnod gwaith. Efallai bydd rhaid ymateb i ymholiadau pellach gan y Coleg o fewn y 10 diwrnod hyn.

Mathau o dystiolaeth
Mae’r rhestr ganlynol yn rhoi syniad i chi o’r mathau o dystiolaeth y bydd angen i chi ei darparu er mwyn cefnogi eich apêl. Dylech ddarparu’r dystiolaeth fwyaf perthnasol i gefnogi’ch apêl. 

  • Llythyr gan weithiwr iechyd meddygol neu gwnselydd proffesiynol 
  • Llythyr / tystiolaeth gan weithiwr proffesiynol annibynnol 
  • Tystysgrif marwolaeth
  • Ysgrif goffa / trefn gwasanaeth
  • Adroddiad newyddion / cyfryngau
  • Adroddiad tyst swyddogol / adroddiad heddlu sy’n rhoi gwybodaeth yn ymwneud gyda throsedd 
  • Llythyr gan fanc / llythyrau dyled