Skip to main content Skip to footer

Deiliaid Ysgoloriaethau Ymchwil y Coleg

Bio
Marian Brosschot
Marian Brosschot

Pwnc: Ieithyddiaeth

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2024

Teitl yr ymchwil: Hyder wrth (a)ddysgu ynganu: datblygu hyfforddiant ynganu ym maes Cymraeg i Oedolion

Mwy o fanylion: Mae dysgwyr iaith yn medru wynebu heriau cyfathrebu a chymhathu yn y gymuned wrth fod siaradwyr iaith gyntaf yn cywiro eu hynganu, ddim yn eu deall neu yn troi i’r Saesneg. Dyma brosiect sy’n ymchwilio i effaith hyfforddiant ynganu a seineg i diwtoriaid a dysgwyr yn y maes Cymraeg i Oedolion. Bydd y prosiect yn defnyddio dulliau meintiol ac ansoddol i ymchwilio i anghenion tiwtoriaid o ran hyfforddiant seineg ac yn edrych ar ba fath o hyfforddiant seinegol sy’n medru gwella cynhyrchiad dysgwyr, gan gymryd i ystyriaeth gefndir yr unigolyn o ran iaith gyntaf neu dafodiaith yr iaith.

Steffan Phillips
Steffan Phillips

Pwnc: Cymraeg

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 7 Mai 2024

Teitl yr ymchwil: Gyda’i gilydd yn gryfach? Pŵer y ffilm farddoniaeth

Mwy o fanylion: Disgrifiodd William Wees y ffilm farddoniaeth fel ‘a synthesis of poetry and film that generates associations, connotations and metaphors neither the verbal nor visual text would produce on its own’ (1999). Bydd y prosiect ymchwil hwn yn gofyn sut mae cyfuno barddoniaeth a ffilm yn effeithio ar y darlleniad o’r naill elfen a’r llall, ac i ba raddau y mae’r ddwy elfen yn cyfoethogi neu yn cyfyngu’r broses greadigol. Bydd dwy ran i’r prosiect, sef traethawd beirniadol ac archwiliad creadigol (corff o ffilmiau barddoniaeth yn yr iaith Gymraeg).

Guto Rhys Hughes
Guto Rhys Hughes

Pwnc: Busnes 

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Chwefror 2024

Teitl yr ymchwil: Benthyca Rhyngwladol i Gymru

Mwy o fanylion: Bydd yr ymchwil yn archwilio nodweddion benthyca Is-Sofran ledled y D.U. ac Ewrop. Ar hyn o bryd, dulliau benthyca cyfyngedig sydd gan Gymru, ond gallai datganoli pwerau arwain at fwy o gapasiti yn y dyfodol. 

Mae gan lawer o ranbarthau Is-Sofran yn Ewrop flynyddoedd o brofiad o fenthyca yn y marchnadoedd bondiau rhyngwladol ac mae Statws Credyd yn chwarae rhan allweddol yn y broses hon. Yn y D.U., dim ond datblygiad diweddar ydyw y gall rhanbarthau Is-Sofran fenthyg yn y marchnadoedd bondiau. Amcan yr ymchwil hwn yw ceisio gwell dealltwriaeth o fenthyciadau is-sofran i Gymru drwy ddadansoddi benthyca mewn rhanbarthau profiadol o Ewrop.

Maisie Edwards
Maisie Edwards

Pwnc: Astudiaethau Iechyd a Gofal

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Ionawr 2024

Teitl yr ymchwil: Effaith iaith ar ddangosyddion iechyd mewn gofal iechyd sylfaenol a chartrefi gofal

Mwy o fanylion: Yng Nghymru, nid yw’n ofynnol i gontractwyr annibynnol fel nifer fawr o feddygfeydd yng Nghymru ddarparu ymgynghoriadau trwy’r Gymraeg. Gall ddiffygion yn nefnydd iaith briodol gyfaddawdu ar gyfleoedd iechyd claf, cam-ddiagnosis a chamddealltwriaeth. Ymchwil dull cymysg sy’n archwilio effaith gofal trwy gyfrwng iaith ddewisol cleifion gyda chyflwr/au cronig o fewn darpariaeth gofal sylfaenol a chartrefi gofal yw hwn. Byddwn yn edrych yn benodol ar ddangosyddion biolegol ac iechyd pwysedd gwaed a HbA1c. Yn ogystal, byddwn yn casglu profiadau defnyddwyr a darparwyr y gwasanaethau, sef y data ansoddol, drwy holiaduron a chyfweliadau.

Cerys Marie Reynolds
Cerys Marie Reynolds

Pwnc: Addysg

Prifysgol: Prifysgol Met Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2023

Teitl yr ymchwil: Datblygu adnodd mesur a dull gweithredu newydd o hunanasesu lles pobl ifanc yn eu harddegau (14-16 oed)

Mwy o fanylion: Mae Iechyd Meddwl a Lles (IMaLl) gwael yn broblem ddigynsail ymhlith y glasoed, lle mae hanner yr holl gyflyrau iechyd meddwl wedi dechrau erbyn 14 oed a 75% erbyn 24 oed, ond nid yw’r rhan fwyaf ohonynt wedi’u canfod. Gall disgyblion wynebu heriau sy’n effeithio ar eu IMaLl, yn enwedig yn y cyfnod o gychwyn ar gyrsiau arholiadau allanol (e.e. TGAU) ac yn ystod blaen lencyndod, ac mae pandemig COVID-19 wedi gwaethygu hyn. Nid oes adnodd i ysgolion uwchradd fesur lefelau IMaLl ymhlith disgyblion yn rheolaidd (a argymhellir gan Gymdeithas y Plant) er mwyn nodi’r rhai sydd fwyaf mewn perygl, a galluogi mesurau ataliol. Nod yr ymchwil yw datblygu adnodd mesur a dull gweithredu newydd a chynhwysfawr o hunanasesu lles dysgwyr Cymraeg eu hiaith yn eu harddegau (14-16 oed). Wrth weithio ac astudio tuag at radd PhD yn y maes hwn, rwy’n bwriadu golygu a chyhoeddi’r gwaith er mwyn ychwanegu at ymchwil i mewn i iechyd meddwl a lles. 

Ellis Evan Jones
Ellis Evan Jones

Pwnc: Biofeddygaeth

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2023

Teitl yr ymchwil: Darganfod triniaethau ar gyfer clefydau niwrolegol trwy ddulliau bioffiseg a chrisialograffaeth

Mwy o fanylion: Mae clefyd Krabbe yn gyflwr niwrolegol prin sy’n effeithio 1 ym mhob 100,000 o enedigaethau, gyda disgwyliad oes byr o tua 2-4 mlwydd oed. Mae’n ganlyniad o etifeddiaeth genetig, a’i brif nodwedd yw molecylau tocsig sy’n cronni o fewn celloedd. Canolbwyntiwn ar brotein o’r enw Acid Ceramidase, sy’n cynhyrchu molecylau tocsig ychwanegol. Rydym ni’n ceisio trin y clefyd difrifol yma trwy grisialu acid ceramidase, a’i ddelweddu gan ddefnyddio cyfarpar cymhleth. Wrth ddadansoddi’r data yma medrwn ddatgelu ei  strwythur moleciwlaidd, a fydd yn ein galluogi i ddarganfod pa gyffuriau sy’n medru atal y protein rhag cynhyrchu molecylau niweidiol.

Olivia Bear
Olivia Bear

Pwnc: Gwyddorau Chwaraeon

Prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2023

Teitl yr ymchwil: Twristiaeth Chwaraeon Antur (TChA) yng Nghymru: Asesu rôl, effaith a datblygiad defnydd o’r Gymraeg 

Mwy o fanylion: Nod y prosiect yw adnabod a gwerthuso sut mae’r Gymraeg yn cael ei defnyddio ar hyn o bryd, a bydd yn archwilio’r cyfraniad cymdeithasol, diwylliannol a phroffesiynol posibl y gall yr iaith ei wneud yn y maes hwn. Bydd y prosiect hwn o fudd i strategaethau cynllunio a gweithredu sy’n ymwneud ag integreiddio diwylliant, hunaniaeth a’r iaith Gymraeg o fewn cymuned TChA. Byddaf yn ymchwilio i gyfleoedd i ddatblygu defnydd o’r Gymraeg yng ngweithleoedd a phroffesiynau TChA a sut y gall amgylchedd TChA feithrin naws o ddiwylliant Cymreig orau. Byddaf yn gwneud hyn drwy ddatblygu dealltwriaeth feirniadol o sut mae / na ddefnyddir y Gymraeg ymhlith rhanddeiliaid TChA (darparwyr, cyflogwyr, gweithwyr, cleientiaid a chwsmeriaid). Felly, y gobaith a fwriedir yw llenwi’r bwlch mewn maes mor ddiddorol â hyn. 

Niamh McNally
Niamh McNally

Pwnc: Troseddeg

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2023

Teitl yr ymchwil: O Aberfan i Tylorstown: Astudiaeth Achos Troseddeg Werdd ar Drychinebau Tomennydd Glo, ei Ddioddefwyr a Diogelu yng Nghymru.

Mwy o fanylion: Mae newid hinsawdd wedi cael effaith ddifrifol ar sefydlogrwydd tomennydd glo yng Nghymru drwy gynyddu eu risg o ddisgyn. Gallai hyn beryglu bywydau pobl, niweidio cymunedau ac effeithio ar fywyd gwyllt lleol. Nod yr ymchwil yw defnyddio persbectif troseddeg werdd i edrych ar drychineb Aberfan a thirlithriad Tylorstown. Trwy ymchwilio i'r astudiaethau achos hyn, gellir darparu mewnwelediadau ar ddioddefwyr o'r math hwn o niwed ac i'r diogelwch tomennydd glo presennol yng Nghymru. Credaf y gallai'r ymchwil hwn gyfrannu at ddeall a datblygu deddfwriaeth gyfredol ac archwilio pwy sy'n gyfrifol, yn foesol, yn gyfreithiol ac yn ariannol am adfer y tomennydd glo.

Sioned Mai Rowe
Sioned Mai Rowe

Pwnc: Seicoleg

Prifysgol: Prifysgol Met Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2023

Teitl yr ymchwil: Datblygu sgiliau ieithyddol ym maes Addysg Bellach: deall dewis iaith myfyrwyr ôl-16 yng Nghymru 

Mwy o fanylion: Mae tystiolaeth yn awgrymu bod nifer y disgyblion sy'n gadael addysg cyfrwng Cymraeg i gwblhau eu hastudiaethau trwy gyfrwng y Saesneg mewn Colegau Addysg Bellach ar gynnydd. Mae’r dystiolaeth ynglŷn â sgil-effaith dewis addysg bellach cyfrwng Saesneg ar gyfrwng iaith o fewn Addysg Uwch yn gyfyngedig, a’r effaith a geir hyn yn y pendraw ar ddefnydd iaith gweithlu’r dyfodol. Nod y gwaith ymchwil fydd ennyn gwell dealltwriaeth o'r broses gwneud penderfyniad i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg ai peidio yn y sector cyn ac ôl-16, a defnyddio'r wybodaeth hon i ddatblygu pecyn cymorth y gall addysgwyr a dysgwyr ei ddefnyddio i ddeall dwyieithrwydd a buddion addysg cyfrwng Cymraeg ar lefel uwch yn unol ag amcanion polisïau Llywodraeth Cymru at 'Cymraeg 2050'. Gobeithir y bydd y prosiect yn cynorthwyo i gynyddu nifer y myfyrwyr sy'n dewis parhau i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg ar lefel addysg ôl-orfodol, a thrwy hynny, cyfrannu tuag at nod Llywodraeth Cymru i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050. 

Anne Uruska
Anne Uruska

Pwnc: Addysg

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Profiadau, cymhelliant a dilyniant dysgwyr Cymraeg rhwng 16 a 20 mlwydd oed. Sut mae cryfhau'r dilyniant ieithyddol ar gyfer dysgwyr 16-18 mlwydd oed a dysgwyr dros 18 mlwydd oed?

Mwy o fanylion: Mae Llywodraeth Cymru yn amcanu at sicrhau miliwn o siaradwyr Cymraeg yng Nghymru erbyn y flwyddyn 2050. Hyrwyddir y Gymraeg trwy’r system addysg orfodol (h.y. hyd at 16 oed) ond, er y llwyddiannau, mae nifer helaeth o bobl ifanc yn symud ymlaen at gyfnod addysg ôl-orfodol heb yr hyder i siarad Cymraeg. Maes y prosiect ymchwil yw’r Gymraeg fel ail iaith ymhlith pobl ifanc 16-20 oed. Y gobaith yw cyrchu data gan gyfranogwyr yn yr oedran arbennig hwn fydd o gymorth i gryfhau eu dilyniant ieithyddol - a dilyniant ieithyddol cenedlaethau’r dyfodol.

Bethan David
Bethan David

Pwnc: Biofeddygaeth

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Ionawr 2023

Teitl yr ymchwil: A yw gweithredu'r llwybr ghrelin yn rheoleiddio proffiliau cytocinau pro a gwrthlidiol?

Mwy o fanylion: Mae'r hormon stumog ghrelin sy'n cael ei ryddhau yn ystod cyfyngiad bwyd yn ysgogi cymeriant bwyd, rhyddhau hormon twf a hyrwyddo dyddodiad braster. Mae'r berthynas agos rhwng statws maethol a pherfformiad gwybyddol wedi'i harchwilio ers blynyddoedd lawer, gan amlygu'n ddiweddar bwysigrwydd yr hormon ghrelin ar niwrogenesis trwy fecanweithiau megis cyfyngu ar galorïau. Yn wir, mae lefelau cylchredeg y ddau fath o ghrelin, acyl-ghrelin (AG) a ghrelin heb ei acyleiddio (UAG), yn gweithredu'n groes i niwrogenesis hippocampal a gwybyddiaeth. Gan adeiladu ar hyn, byddwn yn archwilio pa effaith y mae'r hormon ghrelin yn ei chael ar broffiliau cytocinau pro a gwrthlidiol celloedd T-lymffosyt CD4+ sy'n cylchredeg ac sy'n byw mewn meinwe mewn unigolion â dementia.

Dafydd Apolloni
Dafydd Apolloni

Pwnc: Cymraeg i Oedolion

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Ffactorau sy’n dylanwadu ar lwyddiant caffael iaith yn y gweithle

Mwy o fanylion: Mae Llywodraeth Cymru, gan osod nod o gyrraedd miliwn o siaradwyr erbyn 2050, yn rhoi pwyslais cynyddol ar ddefnydd y Gymraeg yn y gweithle. Mae nifer o ffactorau yn dylanwadu ar lwyddiant rhai unigolion a methiant eraill i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg yn eu gwaith, naill ai gyda’r cyhoedd a chwsmeriaid neu gyda chydweithwyr. Mae’r ymchwil yma yn ceisio canfod beth yw’r ffactorau hynny, gan ystyried rhesymau megis cefndir yn y Gymraeg, amgylchedd ieithyddol y gweithle, cymhelliant personol neu broffesiynol, agweddau, ymddygiad siaradwyr Cymraeg tuag at siaradwyr newydd, ac eraill.

Elin Hywel
Elin Hywel

Pwnc: Busnes

Prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Beth yw Busnes Cymunedol Cymreig : Ymagwedd Ffenomenograffeg

Mwy o fanylion: Nod yr ymchwil fydd i alluogi cydnabyddiaeth o fusnes cymunedol fel ffurf busnes cyfreithlon o fewn economi Cymru, fel y’i diffinnir gan y busnesau hynny sy’n blaenoriaethu eu perthynas â’u cymuned, ac sy’n uniaethu fel busnes cymunedol. Bydd yr ymchwil hwn yn defnyddio, ac yn gweithio i normaleiddio, dulliau ymchwil ffenomenograffig wrth ymdrechu i ddatblygu ein dealltwriaeth o pwy a beth yw Cymru gyfoes, ein cymunedau a’u heconomïau.

Emily Evans
Emily Evans

Pwnc: Cymraeg

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Llais y ferch ar ein llwyfannau llenyddol: astudiaeth o werth amrywiaeth a chynwysoldeb i ddyfodol llenyddiaeth Gymraeg

Mwy o fanylion: Yn 1986, roedd ysbryd a neges radical yn perthyn i rifyn arbennig o’r cyfnodolyn Y Traethodydd a oedd yn datgan yn blwmp ac yn blaen mai traddodiad gwrywaidd yw’r traddodiad llenyddol Cymraeg. Yn fwy diweddar yn y flwyddyn 2020, adeg galwadau cynyddol i ddadgoloneiddio meysydd llafur a sicrhau eu bod yn fwy cynrychioliadol ac amrywiol, gresynwyd o’r newydd at ddiffyg amrywiaeth barddoniaeth TGAU a’r hyn sydd i’w weld ar feysydd llafur llenyddiaeth Gymraeg. Felly, nod yr ymchwil hwn yw edrych ar werth amrywiaeth, cynwysoldeb a chynrychiolaeth ar lwyfannau llenyddol ac ystyried sut y gallant ymestyn gorwelion y maes yng Nghymru

Gwenllian Jenkins
Gwenllian Jenkins

Pwnc: Gwyddorau Amaethyddol

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Strategaethau amaethyddol y dyfodol yng Nghymru: arweinir gan y farchnad, darparwyr gwasanaethau ecosystem neu arloeswyr arbenigol?

Mwy o fanylion: Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar oroesiad ffermydd Cymru dros yr adeg o newidiadau anferthol mae’r diwydiant yn profi yn bresennol o ran cymorth ariannol, gofynion y farchnad, a newidiadau hinsoddol, a sut mae sicrhau llwyddiant ffermydd Cymreig yn y dyfodol. Mi fyddaf yn archwilio y mathau o wahanol strategaethau a’u amlder o fewn y diwydiant yn ogystal ag archwilio sut mae deinameg pherthnasau teuluol yn dylanwadu ar benderfyniadau o fewn y busnes. Ceir pwyslais ecolegol ar y prosiect wrth archwilio i’r ddefnydd o nodweddion daearyddol a hinsoddol a cheir ar y fferm wrth wneud penderfyniadau ar ran strategaethau llwyddiannus.

Gosia Rutecka
Gosia Rutecka

Pwnc: Cymraeg i Oedolion

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Tuag at eiriadur dwyieithog o gydleoliadau arddodiadol Cymraeg

Mwy o fanylion: Mae cydleoliadau arddodiadol yn un o’r mathau o gydleoliadau y mae dysgwyr Cymraeg yn dod ar eu traws amlaf yn ystod eu proses ddysgu. Ond mae diffyg adnoddau addas ar gyfer dysgwyr Cymraeg, yn enwedig o ran tueddiad geiriau Cymraeg i gydleoli. Mewn ymgais i lenwi bwlch yn y ddarpariaeth adnoddau ar gyfer y Gymraeg, penderfynais fynd ati i geisio dod o hyd i ddull priodol o greu geiriadur dwyieithog o gydleoliadau arddodiadol Cymraeg. Mae fy mhrosiect yn gobeithio cynnig adnodd defnyddiol a hygyrch i gynorthwyo dysgwyr a siaradwyr ar eu taith gyda’r Gymraeg.

Megan Sass
Megan Sass

Pwnc: Cymraeg

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Creadigrwydd a’r cwricwlwm

Mwy o fanylion: Gyda’r cwricwlwm newydd, Cwricwlwm i Gymru, yn dod i rym, mae’n adeg gyffrous ym myd addysg yng Nghymru. Mae’r cwricwlwm am sicrhau bod disgyblion Cymru yn datblygu i fod yn ‘gyfranwyr mentrus a chreadigol’ wrth iddynt feithrin creadigrwydd fel sgil yn y dosbarth. Wrth wraidd y prosiect hwn yw archwilio ‘creadigrwydd’ fel cysyniad cyn ystyried ei oblygiadau i’r byd addysg yng Nghymru. Mae’r prosiect rhyngddisgyblaethol hwn yn cyflwyno elfen ddamcaniaethol gref wrth ystyried theorïau rhyngwladol yn ymwneud â chreadigrwydd yn ogystal â chynnig diffiniad gweithiol. Bydd cyfle hefyd i roi’r ymchwil ar waith er mwyn cynnig gweithgareddau newydd sy’n datblygu sgiliau creadigol disgyblion.

Teleri Marie Owen
Teleri Marie Owen

Pwnc: Hanes

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2022

Teitl yr ymchwil: Yn Ddirgel ac yn Gyhoeddus: Rôl, Effaith, a Phortreadu Menywod yn ystod Streic Fawr y Penrhyn 1900–1903

Mwy o fanylion: Mae fy ymchwil yn canolbwyntio ar rôl ddeinamig a phwysig merched yn ystod Streic Fawr y Penrhyn rhwng 1900 a 1903. Rwy'n awyddus i ddod â straeon ysbrydoledig ac anghofiedig am y merched a safai ochr yn ochr â'r chwarelwyr ar flaen y gad, a datgelu eu cyfraniadau i'r streic. Mae merched yn hanes Streic Fawr y Penrhyn wedi cael eu gwthio i'r cyrion yn hanesyddol ac esgeuluswyd eu straeon. Drwy’r astudiaeth hon, mae cyfle i gynyddu eu lleisiau, cydnabod eu brwydrau, a rhoi cydnabyddiaeth briodol i'w gwytnwch a'u cyfraniadau, yn ogystal â dadansoddi effaith y streic ar y merched.

Alpha Evans
Alpha Evans

Pwnc: Cymraeg

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Diwylliant, Iaith a Gweithrediadau Cyfreithiol: Abertawe 1870-1914

Mwy o fanylion: Mae’r cyfnod dan sylw yn arwyddocaol yn natblygiad porthladd Abertawe fel canolfan ddiwydiannol welodd dwf sylweddol yn ei phoblogaeth a newidiadau cymdeithasol-ieithyddol. Yn 1891, roedd traean o boblogaeth Abertawe a’r cylch yn siarad Cymraeg, ond roedd hwn yn gyfnod o newid diwylliannol-ieithyddol a bwriad yr ymchwil yw archwilio’r newid hwn trwy gyfrwng ffynonellau cyfreithiol. Gan ddefnyddio ffynonellau cyfreithiol megis cofnodion llysoedd barn Abertawe, bydd yr ymchwil yn casglu data ac yn adrodd profiadau o’r defnydd o’r Gymraeg ac agweddau tuag at y Gymraeg a’i siaradwyr yn y llysoedd barn a sefydliadau cyfreithiol eraill yn ardal Abertawe a’r cyffiniau. 

Ben Tomos Walkling
Ben Tomos Walkling

Pwnc: Daearyddiaeth Ffisegol

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Tomenni Glo Cymreig: Hen Wastraff neu Risg Newydd?

Mwy o fanylion: Nod y prosiect yw cynyddu ein dealltwriaeth o sut y rheolir ac y canfyddir y risg o drychinebau sy’n effeithio ar gymunedau ôl-ddiwydiannol yng Nghymru. Gwneir hyn drwy astudio’r ffyrdd y mae’r cymunedau yn cofio trychinebau’r gorffennol, a gobeithir y bydd yr ymchwil yn ein paratoi ar gyfer peryglon y presennol a’r dyfodol. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar beryglon naturiol a dynol, megis tirlithriadau tomennydd glo a llifogydd. Ceir ymagwedd ryngddisgyblaethol greiddiol i'r prosiect, gyda nod a phwnc sy'n pontio'r Gwyddorau a'r Gwyddorau Cymdeithasol trwy wneud defnydd o gyfweliadau, ymchwil archifol a meddalwedd GIS (Geographic Information Systems) er mwyn creu mapiau risg. 

Carwyn Sion Hughes
Carwyn Sion Hughes

Pwnc: Fferylliaeth

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd 

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Datblygu nanogronynnau sydd wedi eu haddurno gyda ligandau er mwyn targedu canser y fron. 

Mwy o fanylion: Er gwaethaf datblygiadau a chyffuriau newydd i adnabod a thrin canser y fron, mae dros 10,000 o fenywod (yn bennaf) yn marw o’r afiechyd yn flynyddol yn y DU. Mae angen triniaethau newydd. Prif amcan yr astudiaeth hon yw defnyddio gronynnau nano sydd wedi’u haddurno â gwrthgyrff neu broteinau eraill i dargedu derbynwyr ar wyneb celloedd canser y fron a’u defnyddio fel modd i alluogi i gyffuriau gwrth-ganser traddodiadol a newydd gael mynediad i’w lladd. Y gobaith yw y bydd y meddyginiaethau nano hyn yn lladd celloedd canser yn unig ac yn lleihau effeithiau ar weddill y corff.  

Catrin Llwyd
Catrin Llwyd

Pwnc: Gwaith ieuenctid

Prifysgol: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant 

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Archwilio agweddau strategol ar ddatblygu arweinyddiaeth ieithyddol gymunedol: Y boblogaeth ifanc 

Mwy o fanylion: Bydd yr ymchwil yn archwilio agweddau strategol ar ddatblygu arweinyddiaeth ieithyddol gymunedol, gan ganolbwyntio ar y boblogaeth ifanc (o dan 25 oed), gwaith ieuenctid, datblygu cymunedol, cyfathrebu digidol a’r celfyddydau mynegiannol. Defnyddir methodolegau ymchwil gweithredol a chyfranogol, gan fynd i’r afael â’r cwestiynau ymchwil drwy gyfres o astudiaethau achos a gaiff eu cynllunio a’u rhoi ar waith mewn partneriaeth ffurfiol â’r Urdd a Chanolfan S4C yr Egin. Bydd yr ymchwil ar waith yn y De Orllewin yn bennaf. Gobeithir y bydd ffrwyth yr ymchwil yn cynnig model i’w weithredu mewn ardaloedd eraill yng Nghymru ac yn rhyngwladol. 

Charles Roberts
Charles Roberts

Pwnc: Hanes

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Astudiaeth o Bandemig Y Ffliw yng Nghymru, 1918-20 

Mwy o fanylion: Mae Covid-19 wedi taflu goleuni ar sut mae pandemigion y gorffennol wedi eu trin, yn enwedig o dan ymbarél cyfryngol a chyd-destun polisïau cymdeithasol. Dros ganrif yn ôl profwyd un o erchyllterau mwyaf yr ugeinfed ganrif ond prin iawn oedd y sylw amdano. Ni chafwyd i raddau strwythur pendant i orchfygu’r feirws, ac yn dilyn cysgod y Rhyfel Mawr bu effaith y ‘Ffliw Sbaeneg’, fel y’i gelwir, yn bellgyrhaeddol ar gymunedau gwahanol yng Nghymru. Felly, yn y prosiect ymchwil yma bwriedir llenwi’r bwlch yn y maes diddorol ac amserol hwn. 

Llinos Honeybun
Llinos Honeybun

Pwnc: Biowyddorau

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd 

Dyddiad cychwyn: 1 Gorffennaf 2021

Teitl yr ymchwil: Darganfod meddyginiaethau newydd ar gyfer trin epilepsi niwroddirywiol mewn plant

Mwy o fanylion: Nod y prosiect yw ymchwilio triniaethau am glefyd CLN3 sef y clefyd niwroddirywiol mwyaf cyffredin mewn plant. Wrth astudio yn labordy Emyr Lloyd-Evans yn yr ysgol biowyddorau rydw i’n ceisio deall mwy am beth sy’n digwydd yng nghelloedd CLN3 fel newidiadau mewn lefelau proteinau neu siwgrau. Ar ôl darganfod effeithiau CLN3 ar y gell byddaf yn sgrinio am gyffuriau sy’n gwella’r clefyd.  Y gobaith yw darganfod triniaeth sy’n addasu’r clefyd yn lle trin symptomau. 

Elain Rhys Jones
Elain Rhys Jones

Pwnc: Cerddoriaeth

Prifysgol: Prifysgol Bangor 

Dyddiad cychwyn: 1 Ionawr 2022

Teitl yr ymchwil: Y gyfansoddwraig Grace Williams (1906-1977) a’i hopera ‘The Parlour’ 

Mwy o fanylion: Bydd yr astudiaeth yn canolbwyntio ar yr opera gomig ‘The Parlour’ (1961) sy’n seiliedig ar stori En Famille gan Maupassant. Bu cyfraniad Grace Williams i dwf a datblygiad cerddoriaeth yng Nghymru yn arwyddocaol ond gwelir iddi gael ei hesgeuluso fel cyfansoddwraig ac o ganlyniad, prin yw ei gweithiau sydd wedi eu cyhoeddi, eu recordio a’u darlledu. Wrth weithio ac astudio at radd PhD yn y maes hwn, rwy’n bwriadu golygu a chyhoeddi’r gwaith er mwyn ychwanegu at repertoire yr opera yng Nghymru a dwyn sylw i’r gwaith sydd mor unigryw yn allbwn y gyfansoddwraig arbennig hon. 

Llinos Haf Stone
Llinos Haf Stone

Pwnc: Cymraeg

Prifysgol: Prifysgol Bangor 

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Astudiaeth feirniadol o addysgeg barddoniaeth Gymraeg yng Nghyfnod Allweddol 3

Mwy o fanylion: Astudiaeth feirniadol o addysgeg barddoniaeth Gymraeg yw fy mhrosiect ymchwil. Bwriad y prosiect yw cyflawni gwaith ymchwil pedagogaidd sy’n holi ynghylch dulliau amgen o gyflwyno barddoniaeth Gymraeg i ddisgyblion ysgol uwchradd. Rwy’n edrych ymlaen at y cyfle i gyfuno dulliau ymchwil traddodiadol a theoretig ynghyd â gwaith maes ymhlith athrawon a disgyblion. Y nod yw datblygu adnoddau neu strategaethau sy’n ymarferol yng nghyd-destun y dosbarth, ac ennyn brwdfrydedd a diddordeb ymysg disgyblion blwyddyn 7 i 11 yng nghyfoeth llenyddol Cymru. 

Marjorie Thomas
Marjorie Thomas

Pwnc: Addysg

Prifysgol: Prifysgol Metropolitan Caerdydd 

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Datblygu profion llythrennedd yn Gymraeg

Mwy o fanylion: Gall dyslecsia effeithio’n sylweddol ar gynnydd academaidd unigolyn oherwydd mae’r byd addysg yn rhoi cryn bwyslais ar ddatblygu sgiliau llythrennedd. Nid yw plant sy’n mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg yn derbyn cyfarwyddyd ffurfiol yn Saesneg tan Flwyddyn 3 yn yr ysgol gynradd. Golyga hyn fod yna oedi gyda’r broses o ddiagnosis ar gyfer plant mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg gan fod yr holl brofion asesu diagnostig yn Saesneg. Nod y gwaith ymchwil hwn yw cynllunio asesiad y gellir ei ddefnyddio i roi diagnosis ffurfiol o ddyslecsia ar gyfer unigolion rhwng 7 a 18 oed, gan ystyried lefel cysylltiad y plant â’r Gymraeg. 

Mari Fflur Davies
Mari Fflur Davies

Pwnc: Biofeddygaeth

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd 

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2021

Teitl yr ymchwil: Atal Seramidas asid fel modd i drin clefydau storio lysosomal

Mwy o fanylion: Mae clefydau storio lysosomal (e.e., clefyd Gaucher, Fabry, Krabbe) yn glefydau prin ond creulon sydd gan amlaf yn effeithio ar blant ifanc. Nid oes triniaethau dichonadwy ac ymarferol ar gael i drin y clefydau yma ar hyn o bryd. Bydd yr ymchwil yma yn defnyddio dulliau biolegol a chemegol i geisio datblygu cemegyn fydd yn targedu’r protein asid ceramidase, protein sydd yn chwarae rhan bwysig yn natblygiad clefydau storio lysosomal. Gobeithiaf y bydd yr ymchwil yma yn helpu i ddarganfod cyffur addas i drin a brwydro yn erbyn y clefydau yma. 

Alanna Thomas
Alanna Thomas

Pwnc: Biofeddygaeth

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2020

Teitl yr ymchwil: Dadansoddiad rhywogaethau ghrelin gan Sbectrometreg Màs, biofarcwyr newydd ar gyfer gwneud diagnosis o ddementia?

Mwy o fanylion: Mae 50 miliwn o bobl yn dioddef o ddementia yn fyd-eang, sef dirywiad yn y cof a'r gallu i berfformio gweithgareddau bob dydd. Ar hyn o bryd, nid oes biofarcwyr ar gyfer diagnosis dementia. Gan fod ghrelin (secretiad y stumog) a chyfyngiadau calorïau (CC) wedi ei gysylltu ag amddifyn celloedd nerfol mewn modelau dementia, rydyn yn ymchwilio ydy ghrelin yn cyfyngu effeithiau buddiol CC. Ar hyn o bryd, mae mesur rhywogaethau ghrelin yn ddibynnol ar dechnegau sydd yn gyfyngedig yn eu sensitifrwydd. Er mwyn datrys hyn rydym eisiau datblygu dull sbectrometreg mas ar gyfer canfod ghrelin.

Becca Roberts
Becca Roberts

Pwnc: Milfeddygaeth

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2020

Teitl yr ymchwil: Meintioli ymddygiad da byw ar gyfer canfod clefydau gan ddefnyddio technolegau monitro da byw manwl gywir

Mwy o fanylion: Mae canfod afiechydon yn gynnar yn hanfodol i wella lles ac iechyd anifeiliaid ac i gynyddu cynhyrchiant. Mae gan dechnolegau manwl gywir y potensial i newid y ffordd mae ffermwyr, gwyddonwyr a milfeddygon yn canfod a thrin afiechydon yn y dyfodol.

Demi John
Demi John

Pwnc: Troseddeg

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2020

Teitl yr ymchwil: Heddlua pobl sy’n agored i niwed

Mwy o fanylion: Byddaf yn edrych ar heddlua pobl sy’n agored i niwed, a’r heriau mae heddlua pobl sydd â phroblemau iechyd meddwl, ail droseddwyr ac unigolion sy’n cam-ddefnyddio sylweddau, yn cael ar heddlua. Bydd y prosiect ymchwil yn ymgymryd ag astudiaeth achos o rôl yr heddlu yng Nghymru mewn perthynas â heddlua pobl sy’n agored i niwed.

Elen Bonner
Elen Bonner

Pwnc: Busnes

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2020

Teitl yr ymchwil: Rôl entrepreneriaeth mewn adfer ieithoedd lleiafrifol: Astudiaeth o Gymru a’r Gymraeg

Mwy o fanylion: Nod y ddoethuriaeth yw adnabod y ffactorau sy’n cynorthwyo neu’n rhwystro graddedigion entrepreneuriaid Cymraeg eu hiaith sy’n hannu o’r Bröydd Cymraeg i sefydlu, neu eu hatal rhag sefydlu, busnesau yn yr ardaloedd yma. Bydd y prosiect ymchwil yn amlygu goblygiadau economaidd, ieithyddol a chymunedol cysylltiedig, gyda’r nod o fod o ddefnydd i’r sawl sy’n creu polisïau, strategaethau a rhaglenni addysgiadol sy’n dylanwadu ar wytnwch y bröydd Gymraeg. Bydd y prosiect yn canolbwyntio ar dri sector; sef crefft, bwyd a diod, a’r sector ddigidol, gyda chymysgedd o unigolion hunangyflogedig a sylfaenwyr busnesau bach neu ganolig eu maint yn rhan o’r ymchwil

Gwenan Gibbard
Gwenan Gibbard

Pwnc: Cerddoriaeth

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2019

Teitl yr ymchwil: Archif Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney – Astudiaeth o gasgliadau a chaneuon gwerin anghyfarwydd ac anghyhoeddedig gogledd a chanolbarth Cymru yn y cyfnod 1850 – 1950

Mwy o fanylion: Yn yr ymchwil hon, canolbwyntir ar agweddau penodol ar archif helaeth Dr Meredydd Evans a Phyllis Kinney. Rhagwelir y bydd ffrwyth yr ymchwil yn sail i dri math gwahanol o gynnyrch, sef:  

1) astudiaeth ysgolheigaidd o gyfraniad y ddau i fyd cerddoriaeth werin Cymru,  

2) allbynnau cerddorol (e.e. casgliad o ganeuon gwerin anghyhoeddiedig) a fydd yn gyfrwng i ddwyn yr archif i sylw’r cyhoedd,  

3) gweithgaredd cyhoeddus (arddangosfeydd a pherfformiadau) a fydd yn hyrwyddo’r llawysgrifau hyn a chyfraniad neilltuol y ddau a fu’n ddyfal yn eu dwyn ynghyd.   

Meilyr Jones
Meilyr Jones

Pwnc: Gwyddorau chwaraeon

Prifysgol: Prifysgol Met Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2020

Teitl yr ymchwil: Astudiaeth feirniadol o ddefnydd y Gymraeg ar gyfryngau cymdeithasol chwaraeon

Mwy o fanylion: Nod y prosiect yma ydy dadansoddi sut mae gwahanol chwaraeon yn defnyddio’r Gymraeg ar eu cyfryngau cymdeithasol a beth allwn ddysgu o’r arfer yma. Mi fyddaf yn gwerthuso dylanwad buddion gwirioneddol a phosibl o ddefnyddio cyfryngau cymdeithasol Cymru mewn chwaraeon a thrwy hynny. Yn ogystal, bydd yn ddadansoddiad o ymddygiadau, canfyddiadau ac agweddau'r rhai sy'n ymwneud â'r cyfryngau cymdeithasol trwy'r Gymraeg. Gobeithiaf bydd yr ymchwil o fudd drwy ddangos effeithlonrwydd posib cyfryngau cymdeithasol chwaraeon i hybu’r iaith.

Rebecca Lavis
Rebecca Lavis

Pwnc: Ieithoedd Modern

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2019

Teitl yr ymchwil: Gwir Arwyddocâd yr Anghyfieithadwy parthed y Gymraeg: Ymagwedd Gyfannol o’r Theori i’r Gweithle

Mwy o fanylion: A yw’r pethau sy’n peri poendod i gyfieithwyr yn dangos bod pob iaith yn cynnig dehongliad unigryw o’r byd ac nad oes dewis gennym heblaw am ‘ildio i ddiffyg cyfatebiaeth’? Neu, yn hytrach, onid y nodweddion hynny sy’n dangos gwir gyfoeth, unigrywiaeth a hyblygrwydd iaith? Yn y traethawd ymchwil hwn, ystyrir y broses gyfieithu o safbwynt ymarferol yn anad dim, drwy erfyn adborth a sylwadau gan gyfieithwyr wrth eu gwaith. Dyma ymchwil gymharol a fydd yn ystyried y Gymraeg ochr yn ochr â’r Ffrangeg, gyda’r nod o ddarganfod a yw cyfieithwyr yn y ddwy iaith yn wynebu’r un math o heriau.

Samuel Parry
Samuel Parry

Pwnc: Busnes

Prifysgol: Prifysgol Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2020

Teitl yr ymchwil: Cymru, Tanddatblygiad a Damcaniaeth Systemau’r Byd

Mwy o fanylion: Nod fy nhraethawd hir yw archwilio dichonoldeb defnyddio Damcaniaeth Systemau’r Byd (World Systems Theory) a Damcaniaethau Dibyniaeth i esbonio safle cymharol economi Cymru o fewn economi’r DU a’r economi fyd-eang, ac yn gysylltiedig, p’un ai y gall y theorïau hyn ein helpu i ddeall rhanbarthau ymylol yn economaidd, yn ddaearyddol neu’n ddiwylliannol, o fewn gwladwriaethau datblygedig. Y cwestiwn allweddol sydd yn deillio o’r traethawd hir, felly, yw “Beth sydd wedi arwain at dlodi cymharol gwledydd fel Cymru?” Wrth ddefnyddio dull cymharol gyda gwledydd Ewropeaidd arall ac ysbrydoliaeth o waith ysgolheigion megis Andre Gunder Frank a Paul Baran, rwy’n archwilio i ba raddau mai proses wleidyddol yw hon neu i ba raddau mae’n deillio o swyddogaeth Cymru o fewn yr economi gyfalafol fel gwlad gyfoethog o ran adnoddau sydd ar drugaredd llif cyfalafiaeth fyd-eang sydd bellach wedi dod yn ffynhonnell llafur â chyflog isel.

Catrin Bradley
Catrin Bradley

Pwnc: Celf a Dylunio

Prifysgol: Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2019

Teitl yr ymchwil: Pa effaith y gallai realiti estynedig ei chael ar ddehongliad o dreftadaeth ddiwylliannol anniriaethol megis straeon sydd yn seiliedig ar le yng Nghymru.

Mwy o fanylion: Nod y prosiect ymchwil yw ystyried defnyddio Realiti Estynedig fel modd i ddehongli treftadaeth ddiwylliannol anghyffyrddadwy a'i phrofi fel dull i ddarparu delweddau sy'n seiliedig ar le a safle penodol, gyda'r nod o wneud yr anghyffyrddadwy yn ddiriaethol. Bydd defnyddio storïau naratif canoloesol Cymru, fel y Mabinogi, yn sail sylfaenol i ystyried y berthynas rhwng stori a safle, gan ganolbwyntio ar y lleoliadau a grybwyllir yn y storïau hyn er mwyn darparu cyfleoedd i ddatblygu delweddau estynedig y gellir eu troshaenu ar leoedd yng Nghymru fel ag y maent heddiw.

Catrin Roberts
Catrin Roberts

Pwnc: Bydwreigiaeth

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2019

Teitl yr ymchwil: Mamiaith yn yr ystafell geni: Profiad merched a bydwragedd 

Mwy o fanylion: Y ddelfryd yw bod pob merch yng Nghymru yn cael y cynnig i siarad ei mamiaith yn ystod genedigaeth ei phlentyn heb orfod gofyn nac ymddiheuro, a’i fod yn ddarpariaeth gyfartal ag unrhyw ddarpariaeth arall a gynigir trwy wasanaethau mamolaeth y GIG. Ymchwil ansoddol i brofiad merched sy’n siarad Cymraeg, o ran derbyn y Cynnig Rhagweithiol wrth roi genedigaeth yw hwn, ac edrychir ar sut y gall iaith ddylanwadu ar ansawdd y profiad. Rhagwelir buddion i’r bydwragedd sy’n siarad Cymraeg hefyd, gan fod boddhad yr alwedigaeth yn ddibynnol ar berthynas a chyfathrebu â’r fam.  

Dewi Thomas
Dewi Thomas

Pwnc: Meddygaeth

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Ionawr 2020

Teitl yr ymchwil: Datblygu dulliau haemorheolegol i flaenu diagnosis sepsis a’i thriniaeth

Mwy o fanylion: Mae sepsis yn cyfrannu’n helaeth at faich afiechydon byd-eang sy’n effeithio ar fwy na 30 miliwn o bobl ar draws y byd. Mae’r cyflwr yn achosi marwolaeth mwy o bobl yn flynyddol na chancr. Mae dulliau o wneud diagnosis wedi dyddio ac nid oes prawf cyflym ar gael er mwyn adnabod y cyflwr. Yn aml iawn, mae cleifion yn derbyn diagnosis cadarn yn rhy hwyr ac mae’r rhan fwyaf o gleifion yn marw cyn derbyn triniaeth benodol. Bwriad y prosiect yw ymchwilio i ddulliau newydd o wneud diagnosis yn gyflym a manwl, o fewn oriau yn hytrach na dyddiau. Yr amcan yw i ddefnyddio dulliau rheolegol a pheirianneg meddygol er mwyn sicrhau bod mwy o gleifion yn gwella o sepsis.

Dione Rose
Dione Rose

Pwnc: Addysg

Prifysgol: Prifysgol Met Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2019

Teitl yr ymchwil: Dehongli, gweithredu a chyd-destunoli 'iechyd a lles' yng Nghwricwlwm i Gymru mewn cyd-destun cyfrwng Cymraeg

Mwy o fanylion: Gwelir diwygiadau mawr yn nghwricwlwm addysg Cymru ymhen y blynyddoedd nesaf, lle y ffurfir chwe Maes Dysgu a Phrofiad (MDPh), gyda Iechyd a Lles fel yr un mwyaf anghyfarwydd. Nod yr ymchwil yw darganfod sut mae ysgolion yn gweithredu’r cwricwlwm, gyda phwyslais penodol ar Iechyd a Lles a'r dimensiwn Cymraeg. Bydd yr astudiaeth gyntaf yn archwilio ysgolion ledled Cymru a’r ail astudiaeth yn archwilio rôl Addysg Gychwynnol Athrawon er mwyn paratoi athrawon dan hyfforddiant i hwyluso’r cwricwlwm newydd. Rhagwelir y bydd canfyddiadau'r astudiaeth yn helpu ysgolion, consortia addysgol, llunwyr polisi ac academyddion wrth weithredu'r MDPh Iechyd a Lles.

Liam Edwards
Liam Edwards

Pwnc: Ffiseg

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2019

Teitl yr ymchwil: Offeryniaeth, arsylwadau, a dadansoddiad o gorona’r Haul mewn golau gweladwy band cul a band eang

Mwy o fanylion: Pwrpas yr ymchwil yw dylunio spectromedr sy’n rhan bwysig o’r cysyniad cyrch-ofod SULIS (Solar cUbesats for Linked Imagining Spectropolarimetry) a fydd yn arsylwi atmosffer yr haul. Bydd y data a gesglir yn bwysig er mwyn amcangyfrif priodweddau  atmosffer yr haul, megis tymheredd a dwysedd, gan helpu i ateb y cwestiwn dyrys: pam fod atmosffer yr haul yn llawer poethach na’i arwyneb? Dyma un o’r cwestiynau mwyaf mewn seryddiaeth.

Mari Davies
Mari Davies

Pwnc: Gwyddorau Amaethyddol

Prifysgol: Prifysgol Aberystwyth

Dyddiad cychwyn: 1 Ionawr 2020

Teitl yr ymchwil: Ffermio digidol yng Nghymru: Troi gwastraff Amaeth yn gyfoeth

Mwy o fanylion: Mae amaeth yn wynebu nifer o newidiadau nofel ac wrth weithio i ymdopi bydd rhaid i ffermwyr Cymru ddarganfod ffyrdd o gwrdd â thyfiant yn y galw am gynnyrch gan hefyd leihau eu heffaith ar yr amgylchedd. Bwriedir i’r prosiect hwn lenwi’r bwlch o safbwynt y ddealltwriaeth bresennol mewn perthynas â gwastraff amaethyddol. Wrth ddeall mwy am wastraff amaethyddol, bwriedir datblygu technolegau newydd all helpu ffermwyr i daclo eu gwastraff. Os all ffermwyr leihau/newid y ffordd maent yn cynhyrchu gwastraff, mae buddiannau deuol i’r economi amaeth ac i’r amgylchedd yn bosib.

Morgan Dafydd
Morgan Dafydd

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2019

Teitl yr ymchwil: Defnydd o lyfrau dwyieithog, cymysgu ieithoedd a rhestrau geirfa er mwyn cynorthwyo darllen yn y Gymraeg ymysg plant 9-11 oed mewn cyd-destun Ysgol cyfrwng Cymraeg.

Mwy o fanylion: Yn sgil ymgais y Llywodraeth i gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050, mae pwyslais cynyddol wedi bod ar ysgolion i geisio cynhyrchu disgyblion sydd yn hyderus ddwyieithog. Mae’r her honno ar ei chryfaf mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg, yn benodol mewn sefyllfa lle y mae’r rhan fwyaf o blant o gefndiroedd di-Gymraeg. Prin, felly, yw’r cyfleoedd mewn sefyllfaoedd o’r fath i ymarfer y Gymraeg gyda chyfoedion a rhieni. Y gobaith yw y gellid darganfod a datblygu strategaethau/adnoddau darllen dwyieithog a fydd yn codi hyder y plant, yn gwella eu dealltwriaeth o’r testun Cymraeg ac yn datblygu eu sgiliau llythrennedd deuol wrth feithrin eu diddordeb a’u mwynhad o lenyddiaeth Gymraeg. Mae hyn oll yn cefnogi nifer o amcanion polisi’r Llywodraeth.

Derith Rhisiart
Derith Rhisiart

Pwnc: Seicoleg

Prifysgol: Prifysgol Met Caerdydd

Dyddiad cychwyn: 1 Ionawr 2019

Teitl yr ymchwil: Rôl Defnydd Iaith Frodorol mewn Cyfweld Cymhellol ar gyfer Newid Ymddygiad

Mwy o fanylion: Awgrymir bod siaradwyr dwyieithog yn cynhyrchu mwy o emosiynau wrth drafod materion yn eu mamiaith. Nodir bod rôl iaith yn rhan bwysig o’r broses o gynrychioli emosiynau sydd yn rhwystr yn aml i gleientiaid dwyieithog sy’n derbyn therapi yn eu hail iaith. Yn ôl ‘Fy Iaith, Fy Iechyd’, ceir diffyg gwasanaethau ar gyfer cleifion dwyieithog oherwydd y diffyg hyfforddiant a’r anogaeth i ddefnyddio’r Gymraeg mewn sefyllfaoedd proffesiynol. Mae cyfweld ysgogiadol (CY) yn ddull person-ganolog o gwnsela sy’n annog cleientiaid i newid. Mae egwyddorion CY yn ymwneud â gwrando ac adlewyrchu er mwyn deall sefyllfa anodd unigolion, gan eu hannog i wrando arnynt eu hunain. Dau ffactor pwysig yn y broses hon yw'r berthynas therapiwtig ac emosiwn. Nod yr ymchwil hon yw llunio rhaglen hyfforddiant CY ar gyfer gweithwyr proffesiynol yn y maes iechyd.

Lois Nash
Lois Nash

Pwnc: Y Gyfraith

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2018

Teitl yr ymchwil: Lladdiad Trugarog: Newid y ffordd rydyn ni’n gweld lladdwyr trugaredd o fewn Cyfraith Dynladdiad

Mwy o fanylion: Mae angen diwygio Cyfraith Lladdiad, yn benodol diwygio'r amddiffyniadau i lofruddiaeth. Ar hyn o bryd nid yw Gorfodaeth, Rheidrwydd na Lladdiad Trugaredd a Chydsyniol yn amddiffyniadau i lofruddiaeth. Bwriad y prosiect yw gwerthuso’n feirniadol a oes lle i’r amddiffyniadau hyn ar gyfer llofruddiaeth yng nghyfraith fodern Cymru a Lloegr. Bydd yr ymchwil yn cyffwrdd ar foesau unigolion a moesau'r gyfraith mewn amgylchiadau cyffredin ac mewn cyd-destun meddygol. Canlyniad y prosiect, os yn addas, fydd tri awgrym o ddrafft bil deddfwriaethol a fydd yn amlinellu cynnwys yr amddiffyniadau ar gyfer ei basio i’r Senedd.

Meinir Williams
Meinir Williams

Pwnc: Ieithyddiaeth

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2018

Teitl yr ymchwil: Ynganiad y Gymraeg gan oedolion sydd yn dysgu’r iaith: Agweddau, Profiadau a Dyheadau

Mwy o fanylion: Un o’r prif anawsterau i bobl sy’n dysgu ieithoedd fel oedolion yw dysgu ynganu seiniau nad ydynt yn bodoli yn eu mamiaith. Gall hyn arwain at ansicrwydd a diffyg hyder wrth siarad, yn enwedig â siaradwyr brodorol. Bydd yr ymchwil hwn yn dadansoddi ynganiad oedolion sy’n dysgu Cymraeg ac yn ystyried pa ddulliau dysgu sydd fwyaf effeithiol o ran datblygu ynganiad naturiol.

Owain Rhys James
Owain Rhys James

Pwnc: Peirianneg

Prifysgol: Prifysgol De Cymru

Dyddiad cychwyn: 1 Mehefin 2018

Teitl yr ymchwil: Datrys Anghydfodau: Agwedd Gymreig i Gymru

Mwy o fanylion: Nod y gwaith ymchwil fydd, yn y lle cyntaf, deall pam fod nifer y Byrddau Datrys Anghydfod yn cynyddu, yn arbennig mewn prosiectau sydd yn ymwneud â’r sector gyhoeddus. Un amcan yr ochr gyfreithiol fydd dadansoddi sefyllfaoedd lle y mae’r llysoedd yn barod i ymyrryd yng ngwaith y Byrddau Datrys Anghydfod a goruchwylio’r ffordd y mae’r byrddau’n gweithredu. Edrychir ar y categorïau o achosion sydd yn dod gerbron y llys ac edrychir a oes dadl i greu sail i apelio mewn achosion sydd o ddiddordeb cyhoeddus. Yn olaf, bydd y gwaith ymchwil yn edrych ar sut y mae delio â materion drwy Fwrdd Datrys Anghydfod wedi effeithio ar ddatblygiad y Llys Technoleg ac Adeiladu yng Nghymru.

Siân Eynon-Jones
Siân Eynon-Jones

Pwnc: Gwaith cymdeithasol

Prifysgol: Prifysgol Abertawe

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2018

Teitl yr ymchwil: Trawma Dirprwyol a Throsiant Gweithwyr Cymdeithasol

Mwy o fanylion: Ceir tystiolaeth fyd-eang ac amlbroffesiwn fod bod yn dyst i drawma yn y gweithle yn gallu effeithio ar ymddygiad, credoau ac agweddau pobl yn y proffesiynau helpu. Mae’r term ‘trawma dirprwyol’ yn cynnwys newidiadau cysyniadol ynglŷn ag ymddiriedaeth, agosatrwydd a pharch.  Nid oes unrhyw ymchwil wedi tarddu o’r cyd-destun Cymreig; fodd bynnag, ceir tystiolaeth anecdotaidd i awgrymu bod gweithwyr cymdeithasol yn profi symptomau trawma dirprwyol fel canlyniad i’w gwaith. Cynyddodd cyfraddau trosiant i 48% yn 2018, felly nod yr ymchwil yw amcangyfrif mynychder trawma dirprwyol ac i sefydlu a oes cysylltiad rhwng trosiant a thrawma dirprwyol.         

David Parry
David Parry

Pwnc: Seicoleg

Prifysgol: Prifysgol Bangor

Dyddiad cychwyn: 1 Hydref 2016

Teitl yr ymchwil: Beth yw’r ffactorau sydd yn dylanwadu ar ddefnydd iaith siaradwyr goddefol, a sut y gellir eu newid yn siaradwyr gweithredol?

Mwy o fanylion: Mae’r llenyddiaeth ym maes dwyieithrwydd yn esbonio’r ffactorau sy’n dylanwadu ar ymddygiad dysgwyr iaith pan fo nifer o ddewisiadau ar gael. Gallai’r dewis gael ei annog neu ei rwystro gan ffactorau cymdeithasol, neu o achos bod cyd-destun awyrgylch, ymddygiad, profiadau a chymhelliant yn eu dylanwadu ar yr adeg honno. Mae’r theori Parodrwydd i Gyfathrebu wedi ymchwilio i’r ffactorau hyn, ynghyd â’u hamlygu, oherwydd eu bod yn gallu bod yn ffactorau sy’n achosi rhwystredigaeth i ddysgwyr yng nghyd-destun ieithoedd mwyafrifol. Dim ond ychydig o ymchwil flaenorol sydd yn canolbwyntio ar ddefnydd iaith leiafrifol, ac ar ddysgwyr yn unig hyd yma. Felly, bydd y gwaith ymchwil hwn yn ymchwilio i’r ffactorau sy’n rhwystr ac yn annog defnyddwyr y Gymraeg fel iaith gyntaf neu ail iaith o fewn sefyllfaoedd gwahanol. Y bwriad yw ymchwilio i’r gwahaniaethau rhwng siaradwyr anfoddog ac amharod yn benodol. Mae’r ymchwil yn canolbwyntio ar oedolion mewn gweithleoedd gwahanol. Canolbwyntir ar ysgolion a chanolfannau hamdden, y ddeinameg ieithyddol o fewn y sefydliadau hyn, a’r rhesymeg dros yr ymddygiad iaith. Cynhelir yr ymchwil mewn ardal sydd â phoblogaeth uchel o siaradwyr Cymraeg, ond lle nad yw’r siaradwyr hynny yn defnyddio’r iaith o ddydd i ddydd.