Skip to main content Skip to footer

Bywyd Myfyriwr Ôl-raddedig

Bywyd myfyriwr ôl-raddedig

Sut brofiad yw bod yn fyfyriwr ôl-raddedig? 

Mae myfyrwyr ôl-raddedig yn gallu cael profiadau o astudio a chymdeithasu yn Gymraeg, hyd yn oed os ydyn nhw’n astudio mewn gwlad arall. Yn y rhan hon, fe gei di wybod am brofiadau rhai o’n llysgenhadon ôl-raddedig. Mae rhai yn byw ac yn astudio yng Nghymru, ac eraill y tu hwnt i Gymru! 

Swydd Ddisgrifiad Llysgennad Ôl-raddedig Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr ôl-raddedig brwdfrydig i rannu eu profiadau, o’r astudio a phwysigrwydd y Gymraeg i’r cymdeithasu, a cheisio denu mwy i astudio drwy gyfrwng y Gymraeg!

Rydym eisiau eich cefnogi i ddatblygu sgiliau gwerthfawr all fod o fudd i chi wrth chwilio am waith yn y dyfodol, yn ogystal â chael y cyfle i rannu eich gwahanol brofiadau, ar ein gwefan, ein hadnoddau ac ar ein cyfryngau cymdeithasol.

Gallwch fod yn rhan o ddigwyddiadau marchnata a hyrwyddo’r Coleg rhwng Ionawr a Rhagfyr 2025, yn ogystal â cynrychioli’r Coleg o fewn eich prifysgol.

Mae’r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac felly’n annog ymgeiswyr o unrhyw rhyw, oedran, anabledd, cefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd i ymgeisio ar gyfer y rôl o fod yn llysgennad.

Cyfnod gwaith

1 Ionawr 2025 – 31 Rhagfyr 2025

Bydd bod yn llysgennad yn ehangu eich CV a’ch datblygiad fel academyddion, ac yn cynnig cyfleoedd cymdeithasol i chi.

Dyma restr o’r dyletswyddau:

  • Datblygu’r ymdeimlad o gymuned ôl-radd cyfrwng Cymraeg (gyda chefnogaeth y CCC).
  • Perchnogi’r cynllun llysgenhadon ôl-radd a dweud eich dweud dros gyfeiriad y gwaith yn sgil anghenion myfyrwyr ôl-radd.
  • Creu deunydd i’r cyfryngau cymdeithasol e.e blog/flog/ takeover ar Instagrm  am fywyd myfyriwr ôl-radd
  • Dilyn a rhannu negeseuon cyfryngau cymdeithasol ôl-radd y Coleg – X @OlraddCCC ac Instagram @cccolradd, a rhannu’n gyson a pherchnogi’r grŵp Facebook Cymuned Ôl-radd.Cefnogi’r gwaith o farchnata a hyrwyddo’r  Rhaglen Sgiliau Ymchwil
  • Trefnu digwyddiadau ôl-radd, ar-lein neu wyneb yn wyneb, gyda chefnogaeth y CCC
  • Cynnig awgrymiadau ar gyfer gweithdai hyfforddiant fel rhan o’r Rhaglen Sgiliau Ymchwil
  • Cyflwyno o leiaf un erthygl academaidd i Gwerddon Fach, gyda chefnogaeth y CCC.
  • Sicrhau bod myfyrwyr ôl-radd Cymraeg yn cael gwybod am ddarpariaeth y Coleg, e.e. drwy’r Ysgol Ddoethurol a chymdeithasau ôl-radd (ar arweiniad y CCC)
  • Darparu cymorth ar y Cyrsiau Sgiliau Ymchwil
Pecyn Gwybodaeth Llysgennad Ôlradd 2025 Ffurflen gofrestru

Llysgenhadon Ôl-raddedig

Sut byddai’r rôl llysgennad ôl-raddedig yn fy helpu i? Wel, fe allai fod o fudd i dy CV, rhoi cyfle i ti gael dy weld, a helpu dy ddatblygiad fel academydd. Ry’n ni eisiau i'r criw sy’n dod yn lysgenhadon ddatblygu ‘cymuned ôl-raddedig’ cyfrwng Cymraeg (gyda chefnogaeth y CCC). 

Nid ni fydd yn dweud beth ddylai’r llysgenhadon fod yn ei wneud. Mae hwn yn gyfle i chi ddweud beth y mae myfyrwyr ôl-raddedig wir ei angen, ac i rannu gwybodaeth am y math o gefnogaeth sydd eisoes ar gael (e.e. Rhaglen Sgiliau Ymchwil ac ati).  

Mae llawer o gyfleoedd fel ysgrifennu erthygl Gymraeg i Gwerddon Fach, gweithio ar ein stondin mewn Eisteddfodau neu ddigwyddiadau, a chael hyrwyddo'r Gymraeg. Hyn i gyd a mwy... a chael dy dalu!