Y Gymraeg yn y byd gwaith
Pam mae defnyddio’r Gymraeg yn y byd gwaith yn bwysig?
Mae’r Gymraeg yn perthyn i bawb yng Nghymru - os wyt ti’n rhugl neu os mai dim ond gair neu ddau sydd gen ti.
Bydd gallu siarad Cymraeg a Saesneg o help mawr i ti yn y dyfodol.
Mae siarad Cymraeg yn agor drysau i ti;
- Bydd mwy o gyfleoedd i ti wneud ffrindiau ac i gymdeithasu os wnei di siarad Cymraeg
- Wrth siarad Cymraeg a Saesneg, fe alli di fod yn rhan o ddau ddiwylliant
- Wrth siarad Cymraeg, bydd mwy o swyddi ar gael i ti
- Dwy iaith – dwywaith y dewis
Mae gen ti fantais – defnyddia dy Gymraeg
Wyt ti eisiau darganfod pwy sy’n cynnig prentisiaethau yn dy ardal di? Chwilia yma er mwyn dod o hyd iddyn nhw.
Dysga am brofiadau prentisiaid Cymru wrth iddyn nhw ddysgu a gweithio yn y Gymraeg
Mae Poppy yn annog eraill i ddilyn llwybr prentisiaeth
“Fel prentis Cymraeg, dwi wedi derbyn nifer o gyfleoedd, ac wedi bod yn agored i brofiadau sydd wedi bod o gymorth i mi. Mae hynny wedi fy helpu i gael swydd amser llawn gyda fy nghyflogwr, Cyngor Sir Gâr. Dwi nawr yn gweithio'n llawn amser fel cydlynydd digidol ar gyfer gwasanaeth plant a theuluoedd y cyngor.”
Dere i gwrdd â Ceris, prentis Peirianneg Sifil Priffyrdd a Bwrdeistrefol
“Ar ôl gadael yr ysgol uwchradd, es i i astudio Dylunio a Thechnoleg ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd. Roeddwn yn fanna am flwyddyn, ond penderfynais tuag at ddiwedd y flwyddyn nad hyn oedd y peth i mi. Felly, mi ddes i adref, a gwelais bod Cyngor Gwynedd yn cynnig cynllun prentisiaethau newydd, ac mi wnes i gais. Roedd hyn yn mynd i fod yn siawns wych i mi ail-ddechrau fy llwybr gyrfaol eto, ac rydw i wrth fy modd yma.”
Ti... a ni
Wyt ti’n ein dilyn ni ar ein cyfryngau cymdeithasol? Eisiau clywed mwy am waith y Coleg Cymraeg a beth mae’n gallu ei gynnig i ti? Dere i ymuno ‘da ni!