Wedi drysu? Dy ben yn troi gyda’r holl ddewis?
Dysga fwy am beth yn union yw ystyr Astudio yn Gymraeg. Mae ateb i'r cwestiynau mwyaf cyffredin islaw!
Credydau yw’r unedau y mae prifysgolion yn eu defnyddio i ddangos maint y modiwl sy’n cael ei astudio. Mae’r unedau hyn yn amrywio mewn maint, ac maen nhw’n ystyried faint o ddarlithoedd sydd gen ti a beth fydd yr asesiad ar y diwedd.
1 credyd = 10 awr o waith, sy’n cynnwys darlithoedd, seminarau, tiwtorialau a’r gwaith o baratoi asesiadau neu baratoi at arholiadau. Felly, byddai 200 awr o waith yn cael ei wneud mewn modiwl 20 credyd.
Dros flwyddyn lawn arferol, mae disgwyl i fyfyrwyr israddedig gwblhau 120 o gredydau.
Felly, mae 40 credyd yn tua 33% o’r holl waith allet ti ei wneud mewn un flwyddyn, ac mae 80 credyd yn 66% o’r cyfanswm.
Nac oes. Os nad wyt ti’n teimlo’n ddigon hyderus i astudio cwrs yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, falle bydd opsiwn arall ar gael i ti astudio rhan o dy gwrs yn Gymraeg. Mae cefnogaeth ar gael i ti hefyd, er mwyn dy helpu di i wella dy sgiliau siarad ac ysgrifennu yn Gymraeg.
Ysgoloriaeth yw arian sy'n cael ei gynnig i fyfyrwyr os ydyn nhw'n astudio rhan o’u cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg. Nid benthyciad yw’r arian - does dim rhaid ei dalu yn ôl!
Bydd grwpiau dysgu llai, gelli di wneud cais am ysgoloriaeth y Coleg Cymraeg, ac fe wnei di ddysgu terminoleg arbenigol mewn dwy iaith, a datblygu sgiliau dwyieithog, fydd o help i ti yn y dyfodol.