Skip to main content Skip to footer

Bywyd Myfyriwr

LLYSGENHADON PRIFYSGOL 2026 Y COLEG CYMRAEG CENEDLAETHOL

Bio
Carys Balfour
Carys Balfour

Pwnc: Nyrsio Plant

Prifysgol: De Cymru

O ble wyt ti'n dod: Sir Benfro

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Mynd ar wylie!

Hoff fand neu artist: Bronwen Lewis

Mwynhau yn y brifysgol: Teimlad o fod yn rhan o gymuned

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Manonmai8

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Cyfle i barhau i ddefnyddio'r Gymraeg

Uchelgais: Gweithio fel nyrs plant i'r GIG

Pam bod yn llysgennad: Gweithio yn Eisteddfod Sir Benfro

Pam dewis y pwnc: Wastad wedi eisiau gweithio gyda plant ac yn y maes iechyd. Cyfle i neud y ddau!

Diddordebau: Pêl-rwyd, darllen a gwylio ffilmiau

Caitlin Brunt
Caitlin Brunt

Pwnc: Cymraeg Proffesiynol

Prifysgol: Aberystwyth

O ble wyt ti'n dod: Y Drenewydd

Pam dewis y pwnc: Roedd astudio Cymraeg yn yr ysgol yn hwyl ac eisiau parhau i astudio'r iaith.

Hoff le yn Aberystwyth: Consti

Pam bod yn llysgennad: Mynychu digwyddiadau fel Eisteddfodau a gwneud ffrindiau newydd.

Ffaith diddorol: Dwi'n gallu siarad pedair iaith ac yn dysgu un newydd rŵan!

Arwr: Elidyr Glyn

Diddordebau: Canu mewn aelwyd, dysgu ieithoedd, Girlguiding, mynd am dro hefo ffrindiau

Uchelgais: Efallai bod yn gyfieithydd

Hoff raglen deledu: C'mon Midffild

Mwynhau yn y brifysgol: Dwi'n gallu byw mewn lle mor brydferth a hynny mewn cymuned Gymreig.

Erin Pennant Davies
Erin Pennant Davies

Pwnc: Theatr Gerddorol

Prifysgol: Y Drindod Dewi Sant

O ble wyt ti'n dod: Porthmadog

Pam bod yn lysgennad: Hybu cyrsiau cyfrwng Cymraeg a'r manteision

Hoff fand neu artist: Mared

Uchelgais: Bod yn aelod o Welsh of the West End

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Gwersi mwy perthnasol i fi a creu cysylltiadau yn y diwydiant.

Ffaith diddorol: Dwi'n gallu gwneud 'impressions'

Diddordebau: Theatr, canu, F1

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Cymryd rhan mewn gweithgareddau na fyswn wedi gallu talu amdanynt heb yr arian. A helpu gyda cymdeithasu a creu ffrindiau newydd.

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Hansh

Pam dewis y pwnc: Mae'n bwnc dwi'n angerddol amdan, sydd hefyd yn cynnwys addysg bydd yn fy helpu yn y dyfodol.

Aimee Evans
Aimee Evans

Pwnc: Daearyddiaeth Ddynol

Prifysgol: Abertawe

O ble wyt ti'n dod: Ystalyfera

Pam wnes di ddewis astudio'r pwnc: Mae Daearyddiaeth Ddynol yn cysylltu pobl, lleoedd a'r byd.

Pam llysgennad: Hyrwyddo'r Gymraeg o fewn meysydd gwyddonol, dathlu'r diwylliant ac ysbrydoli eraill i astudio trwy'r Gymraeg

Uchelgais: Gweithio yn y maes cynllunio trefol

Diddordebau: Chwarae pêl-rwyd a mynd i weld y machlud

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Mwynhau a cynilo

Hoff le yn Abertawe: Traeth Abertawe

Hoff fand neu artist: Gwilym neu Bronwen Lewis

Hoff raglen deledu: Y Llais

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Agor drysau a dysgu trwy safbwynt unigryw

Gwawr Evans
Gwawr Evans

Pwnc: Cerddoriaeth

Prifysgol: Bangor

O ble wyt ti'n dod: Castell Newydd Emlyn

Uchelgais: Athrawes Cerddoriaeth mewn ysgol uwchradd

Hoff fand: Bwncath, wrth gwrs!

Hoff le ym Mangor: Astro Canolfan Brailsford

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Mae'n haws i mi, a dwi'n cael cyfleoedd ychwanegol oherwydd hynny.

Diddordebau: Ralio, Hoci, Canu, Ffotograffiaeth

Ffaith diddorol: Dwi'n gallu gwneud 'cartwheels' am oleuaf hanner milltir

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Parhau i wneud rhagor o ralio a cyd-yrru

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Hansh

Pam bod yn llysgennad: Gwneud mwy o gyflwyniadau mewn ysgolion ar draws Cymru a mynd i'r eisteddfodau.

Osian French
Osian French

Pwnc: Busnes a Rheoli

Prifysgol: Met Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Criccieth

Diddordebau: Pêl-droed, gym, rhedeg

Hoff le yng Nghaerdydd: Stadiwm Dinas Caerdydd neu Clwb Ifor Bach

Pam dewis y pwnc: Hoffi'r syniad o farchnata, ac eisiau deallt mwy am fusnes

Pam bod yn llysgennad: Eisiau profiadau defnyddiol a cyfarfod pobl newydd

Mwynhau yn y brifysgol: Digon o bobl sy'n siarad Cymraeg o gwmpas, sy'n neis!

Hoff fand: Bwncath

Uchelgais: Rwyf eisiau trafeilio'r byd

Hoff raglen deledu: Sgorio

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Wedi astudio trwy’r Gymraeg trwy gydol fy mywyd (TGAU a Lefel A), felly mae’n haws i fi astudio yn Gymraeg.

Seren Vaughan Gross
Seren Vaughan Gross

Pwnc: Athroniaeth, Moeseg a Chrefydd

Prifysgol: Bangor

O ble wyt ti'n dod: Bangor

Hoff le ym Mangor: Caffi Blue Sky

Pam dewis y pwnc: Joio astudio Addysg Grefyddol yn y chweched

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Teithio

Mwynhau yn y brifysgol: Astudio trwy'r Gymraeg ac aros yn agos i adra.

Diddordebau: Dawnsio, celf a darllen

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Wedi arfer drwy astudio TGAU a Lefel A yn Gymraeg, ac yn siawns i mi ennill mwy o bres.

Hoff fand neu artist: Lewys

Arwr: Maggi Noggi

Pam bod yn lysgennad: Denu mwy o unigolion i astudio trwy'r Gymraeg

Ieuan Merriman-Hamer
Ieuan Merriman-Hamer

Pwnc: Hyfforddi Pêl-droed a Pherfformiad

Prifysgol: De Cymru

O ble wyt ti'n dod: Penybont

Pam dewis y pwnc: Mwynhau chwaraeon a hyfforddi

Arwr: Ben Davies

Mwynhau yn y brifysgol: Cysylltiadau gyda'r iaith a teimlad o fod yn agos i adref

Hoff raglen deledu: Sgorio

Uchelgais: Mwynhau yn ble rwy'n gweithio a byw yn y dyfodol

Hoff fand neu artist: Dafydd Iwan

Pam bod yn llysgennad: Edrych ymlaen at hybu hyder personol ac hefyd i weld pa effaith allaf gael ar yr ochr dysgu chwaraeon trwy’r iaith Gymraeg.

Diddordebau: Chwaraeon, rhedeg, ffotograffiaeth a gwario amser lawr yng Nghorllewin Cymru

Ffaith diddorol: Fy hen ewythr ydy'r unig ddyn o Gymru i ennill cystadleuaeth 'Dyn cryfa'r byd' yn 1993 - Gary Taylor.

Evie Harris
Evie Harris

Pwnc: Datblygu Gwe

Prifysgol: Aberystwyth

O ble wyt ti'n dod: Abertawe

Pam dewis y pwnc: Pwnc cyffrous a heriol, sy'n agor drysau i gyfleoedd.

Hoff fand neu artist: Malan neu Y Bandana

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Prynu lot o siocled

Uchelgais: Defnyddio technoleg i wella'r byd celfyddydol

Diddordebau: Dawns, ioga, heicio a creu tiktoks

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Rhan bwysig o fy hunaniaeth

Arwr: Mr Urdd

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Hansh

Mwynhau yn y brifysgol: Y gymuned Gymraeg, y teimlad o berthyn, a'r cyfleoedd i fyw a dysgu drwy'r Gymraeg bob dydd.

Abigail Hinchcliffe
Abigail Hinchcliffe

Pwnc: Bydwreigiaeth

Prifysgol: Bangor

O ble wyt ti'n dod: Ynys Môn

Uchelgais: Bod yn fydwraig yng Nghymru

Diddordebau: Darllen, rhedeg a 'pilates'

Hoff fand: Super Furry Animals

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Wedi gwneud trwy gydol ysgol, a mae gallu rhoi gofal yn Gymraeg yn fraint.

Arwr: Manon Steffan Ros

Hoff le ym Mangor: Caffi Blue Sky

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Gwario'r prês ar lawlyfrau i'r brifysgol a cystadlaethau rhedeg

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: sionedcray

Ffaith diddorol: Wnes i ddarllen 76 llyfr yn 2023

Daniel Hughes
Daniel Hughes

Pwnc: Hyfforddi Chwaraeon a Ffitrwydd

Prifysgol: Wrecsam

O ble wyt ti'n dod: Sir y Fflint

Pam dewis y pwnc: Eisiau bod yn athro a helpu pobl i fod yn well

Diddordebau: Triathlon a miwsig

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Dwi eisiau gwella a dysgu ymhellach

Ffaith diddorol: Dwi'n DJ ac yn cynhyrchu cerddoriaeth

Uchelgais: Bod yn athro

Pam bod yn llysgennad: Helpu pobl a cyfarfod pobl newydd

Hoff raglen deledu: Rownd a Rownd

Hoff fand neu artist: Dafydd Iwan

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Mynd o gwmpas y wlad

Ruth Hughes
Ruth Hughes

Pwnc: Cymraeg Ail iaith

Prifysgol: Abertawe

O ble wyt ti'n dod: Sir y Fflint

Pam astudio Cymraeg: Angerddol am Gymru a'r iaith, ac yn ei weld yn ddiddorol iawn.

Pam bod yn llysgennad: Hyrwyddo'r iaith ar wahanol blatfformau

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Hansh

Arwr: Gwynfor Evans

Hoff fand: Fleur de Lys

Diddordebau: Gwylio rygbi a dawnsio gwlad

Mwynhau yn y brifysgol: Y gymuned Gymraeg, traddodiadau a'r traeth yn Abertawe (wrth gwrs)

Ffaith diddorol: Dwi'n dysgu BSL

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000? Ymrywmo'n llwyr i'r blynyddoedd dilynol a gweithgareddau allgyrsiol.

Elliw Mair Huws
Elliw Mair Huws

Pwnc: Y Gyfraith a'r Gymraeg

Prifysgol: Aberystwyth

O ble wyt ti'n dod: Ynys Môn

Hoff fand: Cowbois Rhos Botwnnog

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Gwyliau a safio tuag at gynlluniau academaidd y dyfodol.

Mwynhau yn y brifysgol: Cyfathrebu trwy'r Gymraeg wrth gymdeithasu

Hoff raglen deledu: C'mon Midffild

Diddordebau: Gwleidyddiaeth, Cerddoriaeth, Amaeth

Pam dewis y pwnc: Awyddus i gael gyrfa yn y maes cyfreithiol

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Heb oedi astudio drwy fy mamiaith os oes cyfle, oherwydd ei fod yn golygu buaswn yn deall y gwaith yn well.

Hoff le yn Aberystwyth: Yr Hen Lew Du

Ffaith diddorol: Dwi'n aelod o'r ffermwyr ifanc ers 9 mlynedd.

Freya Jenkins
Freya Jenkins

Pwnc: Cymraeg

Prifysgol: Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Ystrad Mynach

Hoff le yng Nghaerdydd: Clwb Ifor Bach

Pam bod yn llysgennad: Insta Takeovers a gweithio yn Tafwyl

Pam astudio Cymraeg: Caru astudio llenyddiaeth Cymraeg a'r diwylliant

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Mynd ar wyliau

Diddordebau: Cerddoriaeth, hanes a Gwleidyddiaeth

Ffaith diddorol: Dwi'n 'crazy cat lady'

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Mae’r dosbarthiadau llai yn cadarnhau mwy o gefnogaeth unigol ac wrth gwrs rydych yn gymwys ar gyfer ysgoloriaethau!

Mwynhau am y brifysgol: Gallu cymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhobman.

Hannah Jones
Hannah Jones

Pwnc: Nyrsio Oedolion

Prifysgol: Aberystwyth

O ble wyt ti'n dod: Llannon (Sir Gâr)

Pam bod yn llysgennad: Cymdeithasu a dod i adnabod mwy o bobl

Hoff le yn Aberystwyth: Pier Garden yn yr haf

Ffaith diddorol: Chi llu sillafu enw fi yr un ffordd sia nol a sia mlaen.

Pam dewis y pwnc: Gofalu am eraill a joio gweld pobl yn gwenu, heb Mamgu a a Dadcu byse ni heb ddewis y pwnc.

Diddordebau: Clebran, cwcan, rhedeg, CFFI a gwartheg.

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Does dim digon o nyrsys allan yno yn siarad Cymraeg mae wir angen mwy er mwyn i unigolion deimlo’n gyfforddus trwy dderbyn gofal yn eu iaith cyntaf.

Hoff artist: Gwenda Owen

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Cwestiwn da! Wel yn gynta rhoi peth arian i elusen ac yna rhoi'r gweddill yn y banc ar gyfer y dyfodol.

Arwyr: Sali Mali, Eleri Sion a Gillian Elisa

Gwenllian Mason
Gwenllian Mason

Cwrs: Cymraeg a Newyddiaduraeth

Prifysgol: Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Machynlleth

Ffaith diddorol: Wedi cyfweld â Matthew Rhys a Rhian Wilkinson!

Mwynhau yn y brifysgol: Cymdeithas Gymraeg clos iawn

Uchelgais: Byd gohebu pêl-droed/rygbi

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: HunsCymru

Diddordebau: Rygbi, pêl-rwyd, cymdeithasu a canu mewn côr

Hoff le yng Nghaerdydd: Parc y Rhath

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Addysg Gymraeg yn hollbwysig i mi, cymaint mwy o gyfleoedd profiad gwaith, a dosbarthiadau llai’n golygu bod modd gofyn cwestiynau a deall y gwaith yn haws!

Hoff fandiau neu artist: Dafydd Owain, Martha Elen, Achlysurol

Pam dewis y pwnc: Hoffwn ddilyn trywydd gyrfaol mewn newyddiaduraeth a chwaraeon, ac  drwy astudio’r Gymraeg a’r y cyd, rwy’n parhau i ddatblygu sgiliau ieithyddol a gallu mwynhau’r Gymraeg fel pwnc. 

Mali McFarlane
Mali McFarlane

Pwnc: Addysg Gynradd gyda SAC

Prifysgol: Met Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Dinbych

Arwr: Owain Glyndwr

Hoff le yng Nghaerdydd: Stadiwm Principality

Diddordebau: Mynd am dro a cymdeithasu

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Rhan bwysig o'm hunaniaeth ac yn awyddus i'w ddefnyddio a'i ddatblygu yn fy astudiaethau a'm gyrfa.

Pam bod yn llysgennad: Hyrwyddo'r iaith a chodi ymwybyddiaeth o'r cyfleoedd

Hoff fand: Bwncath

Pam dewis y pwnc: Oherwydd rwyf wrth fy mod yn gweithio gyda phlant ac mae gen i awydd cryf i wneud gwahaniaeth cadarnhaol yn eu bywydau. Rwy’n gweld rôl athro cynradd fel rôl-fodel pwysig, nid yn unig o ran addysgu sgiliau academaidd, ond hefyd wrth feithrin hyder, ymddygiad cadarnhaol a gwerthoedd cryf ymhlith plant.

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Hansh

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Pe bawn i’n derbyn £3,000, byddwn i’n ei ddefnyddio i helpu gyda chostau byw fel myfyriwr, gan gynnwys llety, teithio a chostau bob dydd.

Ifan Meredith
Ifan Meredith

Pwnc: Newyddiaduraeth a Chyfathrebu

Prifysgol: Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Llanbedr Pont Steffan

Mwynhau yn y brifysgol: Y gymuned Gymraeg

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Mynd i deithio

Ffaith diddorol: Dwi'n ymddiddori mewn awyrennau

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Wedi agor llu o ddrysau i mi yn barod a mae'r gwaith yn fwy ymarferol.

Uchelgais: Swydd fel gohebydd newyddion

Hoff fand: Bwncath oedd ar top 'Spotify Wrapped' fi...

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Unrhyw un newyddion - Newyddion S4C a BBC Cymru Fyw yn bennaf!

Diddordebau: Chwarae bowls, gohebu a chymdeithasu!

Hoff le yng Nghaerdydd: Bae Caerdydd

Megan Mills
Megan Mills

Pwnc: Addysg Gynradd gyda SAC

Prifysgol: Y Drindod Dewi Sant

O ble wyt ti'n dod: Pontypridd

Diddordebau: Dawnsio, cerdded a chymdeithasu

Mwynhau yn y brifysgol: Cymuned agos Gymreig a digwyddiadau'r Gym Gym

Pam dewis y pwnc: Angerddol i wneud gwahaniaeth i fywydau plant yn enwedig rhai ag Anghenion Dysgu Ychwanegol.

Hoff raglenni teledu: Pobol y Cwm a Rownd a Rownd

Arwr: Gwynfor Evans

Hoff le yng Nghaerfyrddin: Yr Hen Dderwen

Ffaith diddorol: Dewiswyd fy ngwaith TGAU a Lefel A i'w harddangos fel rhan o arddangosfa Celf a Dylunio Prifysgol Met Caerdydd.

Uchelgais: Mynd i addysgu plant ag Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY)

Hoff fand: Fleur de Lys

Gwilym Morgan
Gwilym Morgan

Pwnc: Cymraeg a Ffrangeg

Prifysgol: Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Caerdydd

Diddordebau: Ieithoedd (yn amlwg), rhedeg, teithio!

Hoff fand: Gwilym neu Fleur de Lys

Ffaith diddorol: Dwi wedi dysgu Cymraeg fel ail-iaith a dwi'n rhan o'r orsedd.

Hoff raglen deledu: Amour a Mynydd, ond dwi eisiau Traitors Cymraeg... S4C?

Uchelgais: Hoffwn i fod yn athro!

Arwr: Elen o'r Traitors - wnaeth hi ddangos y Gymraeg i'r byd, ffyddlon i'r Gymraeg!

Mwynhau yn y brifysgol: Y Gymuned Gymraeg! Mae pawb yn nabod pawb ac mae na gymaint o gyfleon ar gael i ni!

Hoff le yng Nghaerdydd: Dwli ar unrhyw siop goffi

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Arbed a defnyddio ar fy mlwyddyn tramor blwyddyn nesaf!

Joe Morgan
Joe Morgan

Pwnc: Newyddiaduraeth, Cyfryngau a Chyfathrebu

Prifysgol: Abertawe

O ble wyt ti'n dod: Caerdydd

Ffaith diddorol: Dwi'n cyflwyno podlediad cerddoriaeth Gymraeg o'r enw Sŵntrack gyda Joe.

Uchelgais: Cyflwynydd

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: s4cdysgucymraeg

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Talu am y daith i Ddulyn gyda'r GymGym

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Datblygu fy sgiliau proffesiynol, fel rhywun sydd wedi dysgu'r iaith

Pam y pwnc: Dwi'n berson egniol ac eisiau hyrwyddo'r iaith trwy fy nghwaith.

Hoff fand neu artist: Eden, Bwncath, Fleur de Lys

Arwr: Mirain Iwerydd

Diddordebau: Cyfryngau cymdeithasol a cerddoriaeth Gymraeg

Mai Owen
Mai Owen

Pwnc: Meddygaeth (Porth)

Prifysgol: Bangor

O ble wyt ti'n dod: Llannerch-y-medd, Ynys Môn

Diddordebau: Rhedeg, celf, côr

Hoff fand: Fleur de Lys

Uchelgais: Bod yn GP neu gweithio mewn ysbyty

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: awniawniawni (dangos lle mae gigs)

Mwynhau yn y brifysgol: Cymdeithas Gymraeg, ardal fynyddig a digon i neud yn yr awyr agored

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Mae'n galluogi i mi fynegi fy hun yn gliriach a chyfathrebu'n well yn fy ngwaith. Gan fy mod i'n angerddol tuag at yr iaith mae'n rhoi cyfle i ddangos bod modd gwneud fy ngradd drwy gyfrwng y Gymraeg sy'n hynod o gyffrous.

Hoff le ym Mangor: Llyfrgell/Pontio

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Arbed ar gyfer trip i ffwrdd gyda ffrindiau/teulu, prynu stethosgop ac adnoddau prifysgol

Pam dewis y pwnc: Diddordeb mewn gwyddoniaeth, gofal iechyd ac mae fy mhersonoliaeth ofalgar yn golygu mai meddygaeth oedd yn teimlo fel y radd i mi.

Lauren Sheppard
Lauren Sheppard

Pwnc: Ecoleg a Chadwraeth

Prifysgol: De Cymru

O ble wyt ti'n dod: Caerdydd

Mwynhau yn y brifysgol: Y mynyddoedd a gwyrddlesni sydd ym mhobman

Diddordebau: Badminton, ers ymuno â chlwb prifysgol a darllen

Pam bod yn llysgennad: Annog pobl ifanc i ddefnyddio'r Gymraeg a bod yn rhan o'r gymuned

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Hansh

Pam dewis y pwnc: Diddordeb mewn anifeiliaid, yr amgylchedd a teithio

Arwr: Ruth Jones, mae Nessa yn eicon

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Talu am daith cwrs yr ail flwyddyn

Hoff fand: Gwilym

Uchelgais: Parhau i deithio ac ymweld â gymaint o'r byd ag y gallaf

Rachel Simpson
Rachel Simpson

Pwnc: Addysg Gynradd

Prifysgol: Bangor

O ble wyt ti'n dod: Pontrhydfendigaid

Pam dewis y pwnc: Eisiau bod yn athro a gwneud effaith ar genedlaethau'r dyfodol.

Hoff fand: Bwncath

Diddordebau: Padylfyrddio, coginio, cerdded

Pam bod yn llysgennad: Gwella fy Nghymraeg a dod i adnabod llysgenhadon eraill

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Herio fy hun a gwella fy Nghymraeg. Dwi'n hoffi'r ffaith bod y darlithoedd yn fach a bod ni gyd yn cael ein hadnabod fel unigolion.

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Beca Morgan

Ffaith diddorol: Cerddais 45 milltir mewn llai na 10 awr ar gyfer Movember 2025.

Hoff le ym Mangor: Camp Rhufeinig

Uchelgais: Fy nod yn y dyfodol yw arbenigo mewn gweithio gyda phlant sydd wedi wynebu trawma neu gam-drin

Ella Thomas
Ella Thomas

Pwnc: Cymraeg a Newyddiaduraeth

Prifysgol: Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Abertawe

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Teithio a prynu laptop newydd

Arwr: Sioned Dafydd

Pam dewis y pwnc: Angerddol am y Gymraeg a hoffwn fod yn gyflwynydd teledu

Diddordebau: Pêl-droed, Pêl-rwyd a mynd i'r gym

Mwynhau yn y brifysgol: Y gymuned Gymraeg a'r cymdeithasu

Hoff fand neu artist: Gwilym ac Eden

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Sgorio

Ffaith diddorol: Dwi wedi gweithio yn y Bocs brenhinol yn Rasys Cheltenham, wedi cyfweld â Rhian Wilkinson ac wedi bod yn ecstra ar Pobol y Cwm

Pam bod yn llysgennad: Dwi’n edrych ymlaen i wneud cynnwys a dangos bywyd myfyriwr ac i hyrwyddo'r ysgoloriaethau mewn ffordd greadigol

Greta Williams
Greta Williams

Pwnc: Cymraeg a Newyddiaduraeth

Prifysgol: Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Efail Isaf

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Joio yn y brifysgol!

Arwyr: Trystan ac Emma

Pam bod yn llysgennad: Gweithio ar stondinau'r coleg mewn Eisteddfodau

Hoff gyfrif cyfryngau cymdeithasol: Cwis Bob Dydd

Diddordebau: Pêl-rwyd, cymdeithasu a gwrando ar gerddoriaeth

Hoff le yng Nghaerdydd: Clwb Ifor Bach

Hoff fand neu artist: Bwncath, Eden, Meinir Gwilym

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Rwyf yn Gymraes i’r carn a chredaf ei fod hi’n hollbwysig i bobl barhau i dderbyn eu haddysg drwy gyfrwng y Gymraeg a gan fy mod wedi derbyn addysg drwy gydol fy oes yn Gymraeg, roedd yn ddewis naturiol i mi barhau gyda’r drefn hynny.

Mwynhau yn y brifysgol: Y Gymdeithas Gymraeg - cwrdd â chriw o bobl sydd â'r un diddordebau a chi

Rhodri Williams
Rhodri Williams

Pwnc: Meddygaeth

Prifysgol: Bangor

O ble wyt ti'n dod: Ynys Môn

Mwynhau yn y brifysgol: Yr ardal sydd yn cynnig golygfeydd perffaith i fynd am dro.

Arwr: Joe Allen

Diddordebau: Pêl-droed, darts, mynd am dro, chwarae i'r Cymric

Pam dewis y pwnc: Diddordeb yn y byd meddygaeth, o dechnolegau modern i sut mae'r corff yn gweithio.

Ffaith diddorol: Dwi'n gallu chwarae Bohemian Rhapsody ar y piano

Hoff le ym Mangor: Cerdded o dan Pont y Borth ac wedyn dychwelyd i dy bwyta 'Mike's Bites'

Uchelgais: Bod yn feddyg teulu ar Ynys Môn, ac efallai creu cyfres i blant am y byd meddygol ar S4C (tebyg i Operation Ouch).

Hoff raglen deledu: C'mon Midffild

Pam bod yn llysgennad: Cael derbyn profiadau newydd er mwyn hybu a datblygu fy rhinweddau personol, a fydd yn ychwanegu at fy nghyrfa fel meddyg yn y dyfodol.

Rhys Williams
Rhys Williams

Pwnc: Addysg Gynradd gyda SAC

Prifysgol: Y Drindod Dewi Sant

O ble wyt ti'n dod: Cas-mael, Sir Benfro

Pam dewis y pwnc: Bod yn rhan o gymuned newydd o athrawon

Pam bod yn lysgennad: Edrych ymlaen i weithio yn yr Eisteddfod yn Llantwd

Hoff fand neu artist: Bryn Fôn

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Mynd ar wyliau i Mallorca

Diddordebau: Ffermio, canu, cerdded yr arfordir, gwylio'r Gweilch yn chwarae

Hoff le yng Nghaerfyrddin: Y Sinema

Mwynhau yn y brifysgol: Agos i adre a bod y Coleg Cymraeg yn llawn cyfleoedd, fel ysgoloriaethau i helpu fy nhatblygiad yn yr adran addysg.

Uchelgais: Yn y dyfodol hoffwn fod yn bennaeth ysgol a dysgu yn yr Almaen neu Awstralia

Hoff raglen deledu: C'mon Midffild

Joshua Wynne
Joshua Wynne

Pwnc: Busnes a Rheoli

Prifysgol: Met Caerdydd

O ble wyt ti'n dod: Bethesda

Mwynhau yn y brifysgol: Y gymuned a'r cymdeithasau Cymraeg

Hoff fand: Celt

Ffaith diddorol: Rwy'n efaill

Pam astudio trwy'r Gymraeg: Parhau i ddatblygu fy Nghymraeg a cwrdd â phobl newydd.

Pam dewis y pwnc: Diddordeb yn y ffordd y mae busnesau'n gweithio a defnyddio cyllid yn effeithlon.

Diddordebau: Chwarae a gwylio rygbi

Arwr: Ellis Humphrey Evans

Pam bod yn llysgennad: Hyrwyddo'r iaith Gymraeg yn y brifysgol

Beth fydde ti'n gwneud gyda £3,000: Arbed er mwyn teithio'r byd

Llysgenhadon

Beth yw llysgennad?

Myfyrwyr o brifysgolion Cymru sy'n gweithio gyda'r Coleg Cymraeg i siarad â phobl am astudio yn Gymraeg, yr ysgoloriaethau sydd ar gael, yr Undebau Cymraeg a digwyddiadau allai fod o ddiddordeb i ti. 

Maen nhw hefyd yn cael y cyfle i greu cynnwys ar gyfer ein cyfryngau cymdeithasol. Bob blwyddyn, mae’r llysgenhadon yn gweithio ar ein stondin yn yr Eisteddfodau, ac hefyd yn cael dod i ysgolion gydag aelod o dîm marchnata’r Coleg Cymraeg i siarad â disgyblion.

Mae'r Cyfnod Ymgeisio ar gyfer Llysgenhadon 2026 wedi cau!

Swydd Ddisgrifiad Llysgennad Y Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Rydym yn chwilio am fyfyrwyr brwdfrydig boed yn Gymraeg iaith gyntaf neu ail iaith i rannu eu profiadau mewn prifysgolion ar draws Cymru gyfan.

Rydym eisiau dy gefnogi di er mwyn datblygu sgiliau gwerthfawr i ti all fod o fudd wrth chwilio am waith yn y dyfodol, yn ogystal â chael y cyfle i rannu dy wahanol brofiadau.

Byddi di yn rhan fawr o’n digwyddiadau marchnata a hyrwyddo rhwng Ionawr a Rhagfyr 2026. Yn ogystal â chynrychioli’r Coleg o fewn dy brifysgol.

Mae’r Coleg Cymraeg wedi ymrwymo i egwyddorion cydraddoldeb ac amrywiaeth ac felly’n annog ymgeiswyr o unrhyw ryw, oedran, anabledd, cefndiroedd Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig, cyfeiriadedd rhywiol a chrefydd i ymgeisio ar gyfer y rôl o fod yn llysgennad.

£92 y diwrnod neu £46 am hyd at hanner diwrnod yn cael ei dalu am waith.

£50 bob tymor i’r llysgennad ym mis Ebrill, Gorffennaf, Hydref a Rhagfyr fel tâl
retainer.

Diwrnod o waith = 7 awr
Hanner diwrnod = 3.5 awr

Cyfnod gwaith
1 Ionawr 2026 – 31 Rhagfyr 2026

PWYSIG - Ni fydd modd i ni benodi myfyrwyr sydd yn eu blwyddyn olaf o astudio cwrs is-raddedig (ar hyn o bryd), gan fod y cyfnod gwaith yn hirach na'r flwyddyn academaidd. Os nad wyt ti'n siŵr os wyt ti'n gymwys, cysyllta gyda Mabon (manylion isod).

Cynnwys gwaith:

  • Creu Cynnwys digidol
  • Ysgrifennu Blogs
  • InstaTakeover
  • Dealltwriaeth o’r amryw o wahanol gyrsiau sydd ar gael yn rhannol Gymraeg mewn prifysgolion yng Nghymru.
  • Rhannu’r cyfleoedd cyfrwng Cymraeg ar eich cwrs, a rhannu’r cyfleoedd i chi gymdeithasu trwy gyfrwng y Gymraeg gyda ni!

Cyflawni Tasgau

Yn ogystal â dysgu ac ymgyfarwyddo â gwaith a rôl y Coleg Cymraeg Cenedlaethol, yn enwedig y cynllun Ysgoloriaethau a’r chwilotydd cyrsiau byddwn yn disgwyl i ti rannu dy brofiadau o addysg Gymraeg ac astudio yng Nghymru! Rhaid i bawb gyflawni’r canlynol dros y flwyddyn:

  • Llunio atebion i’n holiadur i’w allu rhoi ar y cyfryngau cymdeithasol
  • Rhannu cynnwys y Coleg Cymraeg Cenedlaethol ar y cyfryngau cymdeithasol – yn RHEOLAIDD.
  • Ymateb i geisiadau e-bost/galwadau ffôn/WhatsApp gan y Coleg o fewn 48 awr
  • Prydlondeb cyflwyno tasgau ar gais y Coleg
  • Bod yn rhan o ddigwyddiadau marchnata’r Coleg Cymraeg megis Eisteddfodau, Ffeiriau UCAS, Ymweliadau Ysgolion, Tafwyl a llawer mwy.
  • Cyfrannu at unrhyw dasgau/cyfleoedd eraill all godi dros y flwyddyn

Sut i Ymgeisio?

  • Llenwi'r ffurflen gais isod
  • Danfon fideo DIM MWY NA MUNUD o hyd yn esbonio pam dy fod yn ymgeisydd delfrydol ar gyfer y rôl
  • (DEWISOL) I gyd-fynd a'r fideo o dy hun, mae modd i ti ddanfon cynnwys wedi ei ffilmio/creu/golygu gennyt ti atom i gefnogi dy gais.

Mi fydd angen i ti ddanfon dy fideo/fideos ar e-bost neu trwy WhatsApp i'r manylion isod:

E-bost: m.dafydd@colegcymraeg.ac.uk

WhatsApp: 07891 544363

DYDDIAD AGOR: 19 TACHWEDD 2025

DYDDIAD CAU: 10 RHAGFYR 2025

Gwybodaeth Llysgenhadon Prifysgol 2026 Ffurflen ymgeisio 2026