Wyt ti am astudio Meddygaeth yn y brifysgol?
Beth am gofrestru i fod yn rhan o gynllun Doctoriaid Yfory?
Cynllun yw ‘Doctoriaid Yfory’ lle ry’n ni’n trefnu gwahanol weithgareddau ar dy gyfer, i dy baratoi di ar gyfer gwneud cais am le ar gwrs Meddygaeth.
Mae gweithgareddau’r cynllun yn cynnwys:
- Cyfleoedd i gwrdd â phobl sy’n gweithio ym maes meddygaeth, a myfyrwyr sy’n astudio meddygaeth ar hyn o bryd, er mwyn clywed am eu profiadau nhw.
- Datblygu dy ddeallwriaeth am y sector a'r math o sgiliau sydd eu hangen arnat ti i weithio yn y byd meddygaeth.
- Datblygu sgiliau i dy helpu i wneud cais llwyddiannus.
- Dy baratoi ar gyfer y broses gyfweld.
- Gwybodaeth am pam y bydd gwneud rhan o’r cwrs Meddygaeth yn Gymraeg yn dy helpu di i gael swyddi yn y dyfodol.
Sesiynau 2024:
Ymaelodi
Mae’r ffenestr i ymaelodi â’r cynllun yn agor ym mis Ionawr/Chwefror bob blwyddyn ac mae angen cwblhau ffurflen gais. Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer 2024 bellach wedi cau.
Mae'r cynllun wedi ei gefnogi gan Ysgol Feddygol Prifysgol Caerdydd, Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe ac Ysgol Feddygol Prifysgol Bangor.