Wyt ti’n mynd i'r brifysgol yng Nghymru? Wyt ti am astudio dy gwrs yn Gymraeg?
Arian yn dy boced di!
Oeddet ti’n gwybod bod arian ar gael drwy nifer o ysgoloriaethau’r Coleg Cymraeg os wyt ti’n astudio rhan o dy gwrs yn Gymraeg?
Nid benthyciad yw’r arian, a does dim rhaid ei dalu yn ôl!
Mae mwy o wybodaeth am bob ysgoloriaeth ar waelod y dudalen.
Prif Ysgoloriaeth
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sy’n astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg ac yn cychwyn yn y Brifysgol ym Medi 2025. Nifer cyfyngedig o'r Prif Ysgoloriaethau sydd ar gael, bydd y Prifysgolion yn enwebu unigolion i dderbyn yr Ysgoloriaeth hon.
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Cyfnod ymgeisio: Mae'r cyfnod ymgeisio ar gyfer 2025/26 bellach ar gau.
Sut i ymgeisio: Mae'r ffurflen gais nawr ar gau.
Ysgoloriaeth Cymhelliant
Faint: £500 y flwyddyn dros hyd y cwrs
Pwy: Myfyrwyr sydd yn cychwyn yn y brifysgol yn Medi/Hydref 2025 ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs yn Gymraeg mewn UNRHYW BWNC.
Cyrsiau: Unrhyw gwrs sy'n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr.
Dyddiad cau: Bydd y ffenest ymgeisio ar gyfer y flwyddyn academaidd 2025/26 ar agor rhwng 14 Awst 2025 a 3 Tachwedd 2025.
I dderbyn neges atgoffa am ddyddiad agor yr Ysgoloriaeth Cymhelliant, ymaeloda fan hyn:
Bwrsariaeth Gareth Pierce
Er cof am ei gyn Brif Weithredwr, mae CBAC wedi creu Bwrsariaeth Gareth Pierce i gefnogi myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd Mathemateg drwy gyfrwng y Gymraeg. Y Coleg Cymraeg sy'n gweinyddu’r bwrsariaethau ar ran CBAC. Ni fydd cyrsiau cyfun yn gymwys am yr Ysgoloriaeth, gan eithirio cwrs cyfun Mathemateg ac Addysg.
Faint: £3,000 am y flwyddyn gyntaf yn unig
Pwy: Myfyrwyr sydd am astudio cwrs gradd Mathemateg ac am astudio o leiaf 33% o’u cwrs yn Gymraeg
Dyddiad cau: Bydd y ffurflen gais ar gyfer 2025/26 yn cau ar 1 Hydref 2025
Ysgoloriaeth Nyrsio Gwanwyn
Faint: £500 y flwyddyn am 3 blynedd (cyfanswm o £1,500)
Pwy: Myfyrwyr Nyrsio sydd yn cychwyn yn y brifysgol yng Ngwanwyn 2025 ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o’u cwrs Nyrsio yn Gymraeg
Cyrsiau: Cwrs Nyrsio sy'n cynnig 33% o’r cwrs yn Gymraeg. Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: Mae'r cyfnod ymgeisio bellach ar gau
Ysgoloriaeth Cyngor Môn
Faint: £500 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £1,500)
Pwy: Myfyrwyr sy’n byw yn ardal Ynys Môn, sy’n astudio o leiaf 33%/40 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg
Mae’r Ysgoloriaeth wedi ei thargedu ar gyfer myfyrwyr a fyddai’n elwa yn benodol o gynhaliaeth ariannol ychwanegol, ac felly gofynnir am dderbyn manylion Grant Costau Byw (nid benthyciadau) a dderbynir gan Gyllid Myfyrwyr Cymru.
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Dyddiad cau: Bydd y ffurflen gais ar gyfer 2025/26 yn cau ar 1 Hydref 2025
Ysgoloriaeth Milfeddygaeth 'Defi Fet'
Faint: £500 y flwyddyn dros 5 mlynedd (cyfanswm o £2,500)
Pwy: Myfyrwyr Milfeddygaeth Prifysgol Aberystwyth a'r Coleg Milfeddygaeth Brenhinol (RVC). Yn ystod eu hamser ym Mhrifysgol Aberystwyth, rhaid i'r myfyrwyr ddilyn o leiaf 40 credyd y flwyddyn drwy’r Gymraeg. Disgwylir i'r myfyrwyr hefyd gymryd rhan mewn gweithgareddau cyfrwng Cymraeg, cynorthwyo â dysgu Cymraeg i’w cyd-fyfyrwyr, cwblhau asesiadau ysgrifenedig yn Gymraeg ac ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Hwsmonaeth Anifeiliaid (AHEMS) ar leoliadau a ffermydd Cymraeg. Yn ystod eu hamser yn yr RVC, rhaid i'r myfyrwyr ymgymryd â mwy na 50% o’u Hastudiaethau Efrydiau Allanol Clinigol (CEMS) yng Nghymru mewn amgylchedd Cymraeg neu ddwyieithog Cymraeg/Saesneg.
Dyddiad cau: Mae'r ffurflen gais ar gyfer mynediad ym Medi 2025 bellach ar gau.
Bwrsariaeth Goffa Llŷr Roberts
Bwrsariaeth ar gyfer myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yw hon, ac mae ar agor i unrhyw bwnc. Bydd y fwrsariaeth yn noddi taith sydd yn gysylltiedig ag astudiaethau’r myfyriwr.
Faint: Bwriedir dyfarnu hyd at 4 bwrsariaeth pob blwyddyn, fydd werth £500 yr un.
Pwy: Myfyrwyr israddedig sy’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, ac mae ar agor i unrhyw bwnc.
Dyddiad cau: Mae'r cyfnod ymgeisio bellach ar gau am eleni.
Ysgoloriaeth Meddygaeth
Faint: £500 y flwyddyn dros hyd y cwrs.
Pwy: Myfyrwyr sy'n astudio cwrs Meddygaeth mewn prifysgol yng Nghymru, ac sy'n astudio o leiaf 33%/40 credyd o'u cwrs yn Gymraeg.
Dyddiad cau: Mae'r ffenest ymgeisio ar gyfer 2025/26 nawr ar gau.
Ysgoloriaeth Cyngor Gwynedd
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sy'n byw yn ardal Gwynedd sy’n astudio eu cwrs cyfan (100%) yn Gymraeg
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr
Sut i ymgeisio: Bydd enwebiadau ar gyfer 2025/26 yn cael eu dewis o blith y ceisiadau am Brif Ysgoloriaeth y Coleg.
Ysgoloriaeth Gwilym Prys Davies
Faint: £1,000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd (cyfanswm o £3,000)
Pwy: Myfyrwyr sydd am astudio’r Gyfraith, sy’n byw yn ardaloedd Meirionydd neu Rhondda Cynon Taf ac sydd am astudio o leiaf 66%/80 credyd y flwyddyn o’u cwrs yn Gymraeg
Cyrsiau: Defnyddia ein chwilotydd cyrsiau i weld a yw dy gwrs di ar y rhestr. Dim ond yn weithredol ym mhrifysgolion Aberystwyth a Bangor.
Dyddiad cau: Bydd enwebiadau ar gyfer 2025/26 yn cael eu dewis o blith y ceisiadau am Brif Ysgoloriaeth y Coleg. Bydd angen i chi gwblhau'r ffurflen gais yn yr adran Prif Ysgoloriaeth.
Ysgoloriaeth William Park Jones
Er cof am William Park Jones, mae Cronfa Elw Park-Jones, wedi sefydlu Ysgoloriaeth ar y cyd gyda’r Coleg, i gefnogi myfyrwyr o Wynedd neu Ynys Môn, sydd am astudio cwrs gradd Addysg (gyda SAC). Y Coleg Cymraeg sy’n gweinyddu’r Ysgoloriaeth hon ar ran y gronfa.
Faint: £1000 y flwyddyn, am dair mlynedd.
Pwy: Myfyrwyr sydd am gychwyn astudio cwrs gradd Addysg (gyda SAC) ac am astudio o leiaf 66% o’u cwrs yn Gymraeg, ac sy’n byw yng Ngwynedd neu Ynys Môn.
Dyddiad cau: Bydd y cyfnod ymgeisio ym Medi 2025.
Os nad ydych wedi llwyddo i gyflwyno cais am Ysgoloriaeth i'r Coleg oherwydd amgylchiadau eithriadol, mae modd gwneud cais am apêl. Gweler y Polisi Amgylchiadau Eithriadol am fwy o fanylion.