Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Begw - Podlediadau Cymraeg

ADD ALT HERE

Mae podlediadau yn ffordd wych o wrando ar gynnwys gwahanol o bob math ac mae llawer ar gael drwy gyfrwng y Gymraeg!

Dyma fy hoff rai i:

1.  Pod Midffild: podlediad yn trafod y gyfres ora’ yn y byd C’mon Midffild gyda gwesteion arbennig iawn o’r gyfres.
2. Cylchdro: podlediad pwerus iawn gan Mari Elen i godi ymwybyddiaeth am y mislif.
3. Coridor Ansicrwydd: trafod pêl-droed gyda OTJ a Malcolm Allen.
4. Yr Hen Iaith: cyfres ddiddorol iawn gan Jerry Hunter a Richard Jones yn trafod yr hen oesoedd Cymraeg.
5. Dewr: podlediad ysbrydoledig yn trafod iechyd meddwl a pobol dewra’ Cymru
6. Sgwrs dan y lloer: penodau hirach o’r gyfres deledu sydd wastad yn codi calon
7. Beti a’i phobol: podlediad yn cyfweld â gwesteion gwahanol sy’n ddiddorol iawn
8. Colli’r Plot: pod sy’n trafod llyfrau newydd
9. Podlediad Eryri: podlediad grêt i ddysgu am Barc Cenedlaethol Eryri
10. Q’s: podlediad misol sy’n trafod cyfres sebon Rownd a Rownd