Skip to main content Skip to footer
11 Medi 2026

Blog Ben: Pum Niwrnod yn Nant Gwrtheyrn: Magu Hyder yn y Gymraeg

ADD ALT HERE

Wythnos o ddysgu, cerdded a sgwrsio ar Benrhyn Llŷn.

Pam es i

Dw i wedi bod eisiau siarad Cymraeg yn hyderus ers amser hir. Nid dim ond ychydig o frawddegau, ond digon o eiriau i siarad am unrhyw beth, ac i ysgrifennu’n well hefyd. Felly pan welais i gwrs Cymraeg pum niwrnod yn Nant Gwrtheyrn, wnes i gofrestru’n syth.

Es i ar fy mhen fy hun. Roedd hynny’n teimlo ychydig yn frawychus ar y pryd, ond doedd dim angen i mi boeni. Roedd pedwar ar ddeg ohonon ni yn y dosbarth, o bob rhan o Gymru. Erbyn diwedd y bore cyntaf, doedd neb yn teimlo fel dieithryn.

Mae Nant Gwrtheyrn mewn hen bentref chwarel, mewn cwm serth ar Benrhyn Llŷn. Mae’r môr oddi tanoch, a’r mynyddoedd o’ch cwmpas. Bues i’n sefyll y tu allan am funud dim ond i edrych. Roedd yr awyrgylch yn dawel ac yn groesawgar.

Diwrnod Arferol

Roedd brecwast am 8:30, gyda digon o ddewis. Dyna lle roedd sgyrsiau’r noson cynt yn ailddechrau.

Roedd y gwersi’n rhedeg o 9:30 tan 5:00. Mae hynny’n swnio’n hir, ond doedd hi ddim yn teimlo’n hir. Roedd egwyl bob dwy awr, ugain munud i gael paned a rhywbeth i’w fwyta, ac awr lawn amser cinio gyda brechdanau a byrbrydau. Roedd cael egwyl yn bwysig. Roedden ni’n dal i siarad Cymraeg pan doedd neb yn gwrando nac yn marcio.

Roedd y nosweithiau’n rhydd. Roeddwn i’n cerdded bron bob nos, i lawr at y traeth neu i fyny’r bryniau. Wedyn cawod, a gwely erbyn 10. Dw i ddim yn cofio cysgu cystal ers blynyddoedd.

Yn y Dosbarth

Roedd y gwersi’n hwyliog ac yn hamddenol, ond roedden nhw’n gwneud i ni weithio hefyd. Buon ni’n gweithio ar ramadeg, geirfa a rheolau’r iaith. Mae’n hawdd osgoi’r pethau hynny wrth ddysgu ar eich pen eich hun. Mae’n llawer anoddach eu hosgoi o flaen tiwtor.

Buon ni hefyd yn dysgu am hanes Cymru ac am farddoniaeth Gymraeg. Dyna oedd fy hoff ran i. Roedd dysgu am hanes gogledd Cymru yn Gymraeg mewn hen bentref chwarel yn gwneud i’r geiriau deimlo’n wahanol.

Y peth gorau oedd yr awyrgylch. Doedd neb yn teimlo’n wirion am wneud camgymeriad, a dyna’n union beth oedd ei angen arna i. Erbyn canol yr wythnos, doeddwn i ddim yn meddwl yn Saesneg cyn siarad.

Y bobl

Roedd y bobl yn y dosbarth yn dod o bob rhan o Gymru, gyda pawb yn helpu ei gilydd. Roedden ni’n cynnig gair pan oedd rhywun yn sownd, ac yn chwerthin ar ben rhai camgymeriadau. Roedd sgyrsiau amser cinio yn para’n hir. Dysgais i gymaint yn yr oriau hynny ag yn y gwersi.

Y lle a’r bywyd gwyllt

Alla i ddim ysgrifennu am yr wythnos heb ysgrifennu am y lle. Roedd y mynyddoedd, yr arfordir a’r tawelwch yn effeithio ar bob diwrnod.

Roedd yr anifeiliaid yn crwydro’n rhydd. Roedd geifr ar y llethrau, defaid ym mhob man, ac adar yn symud yn gyflym iawn ar hyd y clogwyni. Un noson, gwelais i'r hyn rwy'n meddwl oedd llew môr yn y dŵr. Roedd hynny'n arbennig iawn, gan mai dyna'r tro cyntaf i mi weld rhywbeth fel yna yn y gwyllt.

Dyna pam roedd yr wythnos yn teimlo fel mwy na chwrs iaith. Doedd y dysgu ddim yn stopio wrth ddrws y dosbarth.

Ymweliad â Phortmeirion

Ar brynhawn dydd Mercher, aethon ni i Bortmeirion. Cawson ni daith dywys, a dysgu sut cafodd y pentref ei adeiladu. Mae cerdded drwyddo yn brofiad rhyfedd a hyfryd. Mae’r adeiladau’n lliwgar ac wedi’u gosod i fyny’r bryn, gyda gerddi, bwâu a chromenni. Mae’n edrych fel pentref Eidalaidd yng nghanol coed Cymru.

Roedd hi’n heulog ac yn gynnes y diwrnod hwnnw. Roedd gennym ni bwnc sgwrs newydd ar y ffordd yn ôl, yn Gymraeg wrth gwrs.

Y diwrnod olaf

Doeddwn i ddim yn edrych ymlaen at y daith bedair awr adref. Ond roeddwn i’n edrych ymlaen at weld fy ffrindiau a fy nheulu.

Roeddwn yn teimlo yn falch fy mod i wedi mynd ar fy mhen fy hun, ac yn falch fy mod i wedi treulio pum niwrnod yn siarad iaith oedd yn arfer gwneud i mi deimlo’n nerfus. Mae’r hyder hwnnw wedi aros gyda mi.

Llwyddiannau’r wythnos:

Ces i Gymraeg gwell. Mwy o eiriau, gramadeg cadarnach, a llai o oedi cyn siarad. Ond wnes i hefyd gyfarfod â ffrindiau newydd. Mae mynd i rywle newydd ar eich pen eich hun, a dod adref yn fwy hyderus, yn brofiad gwerthfawr.

Mae Nant Gwrtheyrn yn le sy'n rhoi cyfle i chi ddysgu heb bwysau, mewn lle hyfryd. Os ydych chi wedi bod yn gohirio gwella eich Cymraeg, peidiwch ag aros yn hirach.

Byddaf yn mynd yn ôl? Byddaf, yn bendant. Dw i’n meddwl am y tro nesaf yn barod.