Helo Briallen ydw i, rwy’n llysgennad i’r Coleg Cymraeg yng ngholeg Penybont ac yn astudio ar gampws Pencoed. Dw i’n byw yng Nghastell-nedd sy’n golygu mod i’n mynd ar 4 trên ac cerdded 30 munud i gyrraedd a dod nol o’r coleg. Felly nid wyf yn ddieithr i deithio.
Rydw i wir yn ddiolchgar am y gallu i deithio, mae'n caniatáu i mi fynd i goleg rwy'n caru a dysgu sut i ofalu am anifeiliaid wrth gynrychioli y Coleg Cymraeg fel llysgennad.
Yn ychwanegol at hynny, mae fy rhieni yn hoffi teithio. Felly rwy’n ffodus fy mod i wedi cael y cyfle i fynd i lawer o lefydd yng Nghymru. Mae’r wlad efo llawer o lefydd ardderchog, prydferth ac unigryw, yn y blog hyn byddai’n nodi rhai llefydd dwi wedi bod ar wyliau sydd yn dod a meddylion hapus i mi a byddai’n mynd nôl i tro ar ôl tro.
Lle sy'n dod ag atgofion melys i mi yw Ynys Môn. Es i yno am wyliau tua 7 mlynedd yn ôl. Os ydych chi'n caru cestyll, mae castell Biwmares yn le gwych i ymweld. Does gen i ddim llawer o ddiddordeb mewn cestyll ond roeddwn i, fel llawer o bobl, yn bendant wedi mwynhau ei weld. Mae'r rhan fwyaf o'r castell wedi'i amgylchynu gan ffos, mae'n wirioneddol syfrdanol cerdded ar hyd pont sy'n mynd â chi dros ddŵr mewn i gastell. Mae gan y castell gymesuredd (proportions) sy’n bron perffaith. Mae'n cael ei adnabod fel y castell gorau sydd heb ei gwblhau. Oherwydd diffyg arian a sylw Edward y 1af yn newid i ganolbwyntio ar ymosodiad ar Ogledd Cymru gan yr Albanwyr, ni chafodd y castell ei orffen. Mae’r castell yn Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n golygu ei fod yn ardal â gwarchodaeth gyfreithiol.
Pan fyddaf yn meddwl am y daith honno i Ynys Môn rwy'n cofio'r profiad hwyl o fynd ar hyd y pier a bwyta pysgod a sglodion, fel y dywed llawer, dyna'r pethau bach mewn bywyd. Dw i hefyd yn cofio mynd i mewn i siop gyda fy rhieni ac erfyn nhw i brynu sglefr fwrdd i fi. Doedd gen i ddim diddordeb o’r blaen cyn gweld y bwrdd sglefrio hwnnw i sglefrio ond, gofynnais i lawer o weithiau ac wnes i addo ei defnyddio. Ar ôl ei brynu, ceisiais sglefrio arno wrth y castell. Mae’r bwrdd dal efo ni heddiw, ond does dim crafiadau o gwbl arno oherwydd nid yw wedi cael ei defnyddio ers y diwrnod hwnnw. Gallaf ddweud yn gadarnhaol fy mod ers hynny wedi dysgu gwerthuso prynu pethau cyn i mi wneud. Mae'r atgof hwnnw'n gwneud i mi chwerthin.
Cofiaf hefyd fynd i ymweld â lle roedd Halen Môn, ‘Hand-harvested, organic Welsh sea salt made from Anglesey sea water’ yn cael ei greu. Roedd yn brofiad dda lle cafodd fy nheulu a grwpiau eraill daith tu ôl i'r llenni o amgylch y sefydliad. Mae’r daith hon, sy’n dal i fynd ymlaen heddiw, yn archwilio ‘salt’s place in our history, culture and what makes Halen Môn a standout product’, maent yn para tua 45 munud ac yn cynnwys blasu halen ar y diwedd.
Gallaf ddweud nad wyf erioed wedi cael profiad tebyg i hyn eto yn fy mywyd.
Roeddwn i'n lwcus iawn i fod wedi aros yn y Hay-on-Wye am benwythnos gyda fy rhieni llynedd. Penderfynon ni aros yno dros nos ar ôl ymweld â’r dre yn y dydd unwaith neu ddwy. Mae ganddi tua 20 o siopau llyfrau ac mae pobl yn cyfeirio ato fel ‘Tref y llyfrau’. Mae'r awyrgylch yn Hay-on-Wye yn wahanol i unrhyw le arall. Gallwch deimlo'r cariad at lyfrau. Nid yw'n olygfa anghyffredin i weld pobl â llyfrau wrth eu hochrau wrth gerdded o amgylch y dref. Rwy'n gefnogwr enfawr o ddarllen llyfrau a siopa. Mae llawer o siopau unigryw yn Hay-on-Wye, o siopau orielau celf i siopau fudge mae rhywbeth at ddant pawb.
Rwy'n gobeithio eich bod wedi mwynhau fy argymhellion a gobeithio bod y blog hwn wedi eich atgoffa chi o lefydd yng Nghymru sy'n dod ag atgofion hapus i chi. Diolch, Briallen.