Skip to main content Skip to footer
13 Mai 2024

Blog Catrin: Manteision o allu mynychu lleoliad Cymraeg.

ADD ALT HERE

Fy enw i yw Catrin, a dwi yn fy mlwyddyn gyntaf o astudio Addysg a Gofal Blynyddoedd Cynnar: Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar. Er mwyn ennill y cymhwyster Statws Ymarferydd Blynyddoedd Cynnar mae angen i mi gwblhau lleoliad sydd yn rhoi profiad o weithio gyda’r blynyddoedd cynnar!

Rwyf wedi bod yn ffodus iawn i allu mynychu lleoliad dwyieithog, sydd yn rhoi’r cyfle i mi allu gweithio drwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r blynyddoedd cynnar. Fel rhywun sydd wedi cwblhau fy holl addysg drwy gyfrwng y Gymraeg, mae gallu gwneud fy lleoliad yn y Gymraeg yn hynod o fuddiol, gan fy mod yn deall y manteision sydd ar gael wrth allu siarad Cymraeg, gan gynnwys dechrau o oed feithrinfa!

Rwyf wedi gweld nifer o fanteision wrth wneud fy lleoliad trwy’r Gymraeg. Dwi’n teimlo’n fwy cyfforddus, gan fy mod wedi arfer ers yn ifanc â’r iaith. Mae gallu gwneud ‘amser cylch’ drwy’r Gymraeg a chanu caneuon dwi wedi arfer â yn y meithrin ac ysgol gynradd wedi bod yn hyfryd a gwneud i mi deimlo balchder wrth ddysgu nhw i'r genhedlaeth nesaf!

Fy nghyngor i unrhyw un sydd yn meddwl mynychu lleoliad Cymraeg/ neu ddefnyddio ei Cymraeg tra ar leoliad ydy - ewch amdani. Nid yw pob plentyn yn y feithrinfa yn siarad Cymraeg fel arfer, felly mae angen amrywio rhwng y ddwy iaith, ond mae rhoi’r cyfle i blant sydd yn gallu siarad Cymraeg i gael yr iaith a’i ddefnyddio yn fuddiol iawn iddyn nhw ac yn gallu gwneud gwahaniaeth mawr i unrhyw un sydd yn fwy cyfforddus yn siarad Cymraeg.

I ategu, mae fy narlithoedd trwy gyfrwng y Gymraeg, felly mae gallu mynychu lleoliad a defnyddio’r theori dwi wedi dysgu mewn i ymarfer yn Gymraeg wedi bod yn fanteisiol iawn i mi yn bersonol!