Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Dewi - Cyfleoedd i lysgenhadon yn Coleg Penybont

ADD ALT HERE

Yn fy amser fel llysgennad dros Goleg Penybont (Campws Pencoed) dwi di cael llawer o wahanol fathau o rhyngweithiadau. Dwi di cael pobl o wahanol dosbarthiadau yn dod lan ata i ac yn gofyn beth yw gair penodol yn Gymraeg, a dwi’n hapus i weld faint o bobl sy'n dysgu am yr iaith nawr yn y coleg.
 
Wrth weithio efo’r Coleg Cymraeg, ni’n helpu cael y gair allan bod yr iaith Gymraeg ddim yn cael ei ddefnyddio ddigon a bod hi’n bwysig i’w ddefnyddio. Sut? I helpu allan, byddai cael diwrnodau am weithgareddau fel cwisiau, clwb coffi a llawer mwy yn helpu annog pobl i ddefnyddio’r iaith. Mae tîm y llysgenhadon yn dda, oherwydd mae pawb yn nabod ei gilydd, ac yn hapus i weithio fel tîm.
 
Beth wnes i? Dwi di helpu efo cwis ac hefyd diwrnodau agored. Dwi wedi gweithio ar stondin sy’n rhoi gwybodaeth am ba gyfleoedd sydd ar gael yn y coleg, a hefyd pa gyfleoedd sydd ar gael os ydych chi’n siarad Cymraeg. Dw i'n mwynau’r gweithgareddau ni’n gwneud oherwydd maen helpu i hysbysebu y cyfleoedd sydd gan y coleg i siaradwyr Cymraeg, neu rhai eraill sydd yn dysgu’r iaith.
 
Pam? Ni fel tîm yn trio helpu i gadw’r iaith Gymraeg yn fyw. Mae hon yn bwysig oherwydd yng nghyfrifiad 2021, mae’n dweud bod yr iaith Gymraeg di lleihau yn ein hardal ni. I gael y rhif nol lan bydd angen parhau i ddathlu gwahanol fathau o ddigwyddiadau o fewn y coleg, fel Diwrnod Hawliau, Santes Dwynwen ac hefyd Wythnos Gymraeg. Yn ystod ffeiriau’r Glas a’r ffeiriau Nadolig, rydyn ni di cael stondinau siocled poeth ac hefyd gemau lle mae pobl angen trio enwi gwahanol eiriau o Saesneg i Gymraeg ac os oedden nhw’n gywir, byddent yn ennill gwobr.

Dw i’n falch o fod yn lysgennad ac yn mwynhau hyrwyddo’r iaith ar draws ein campysau gwahanol!