Skip to main content Skip to footer
29 Ebrill 2024

Blog Dylan - Coleg Gwent

ADD ALT HERE

Fy enw i yw Dylan Cox a rydw i yn siarad Cymraeg yn rhugl. Es i Ysgol Gymraeg a rydw i wedi dysgu popeth trwy’r iaith Gymraeg ers hynny. Ers ymuno â’r coleg a chael athrawes sydd yn angerddol am yr iaith Gymraeg, a sydd yn gallu siarad yr iaith, dwi wedi sylweddoli bod dysgu’r iaith Gymraeg wedi bod werth y byd. Mae gen i lawer o opsiynau am beth rydw i moen gwneud.

Rydw i wedi dechrau’r cwrs Iechyd a Gofal lefel 2 yn mis Medi a rydw i’n caru’r cwrs. Mae gen athrawes o’r cwrs sydd yn gallu siarad Cymraeg ac oherwydd hyn roedd popeth yn llawer haws gyda pethau fel mathemateg ac unrhyw eiriau byddwn i efallai ddim yn ddeall yn Saesneg oherwydd roedd fy holl addysg wedi bod yn y Gymraeg.

Roedd fy athrawes yn trio rhannu’r sgil o siarad Cymraeg efo gweddill y dosbarth felly wnaeth hi ddechrau cwrs deg wythnos ble rydym ni yn dysgu Cymraeg a wnaeth Megan, ein hwylusydd ddod mewn, lle ces i yr opsiwn i weithio gyda’r Coleg Cymraeg. Rydw i yn falch i allu siarad Cymraeg am fod llawer o opsiynau yn y byd gwaith Iechyd a Gofal ac mae angen nyrsys sydd yn gallu siarad yr iaith.

Es i Ysgol Gyfun Gwynllyw, roedd yr ysgol yma yn ysgol wych. Roedd fy athrawes Cymraeg Mrs. R Dickenson yn fenyw oedd byth yn methu ar geisio i cael y plant i stopio siarad Saesneg, ac i siarad Cymraeg yn yr ysgol. Mae yr ysgol yn llawn o athrawon angerddol am y pethau mae nhw yn dysgu ac rydw i yn siomedig nad oeddwn ni yn ddiolchgar ar y pryd.

Rydw i yn meddwl dyle’r iaith Gymraeg gael ei rannu yn y colegau a ddylse pawb gael y siawns i allu dysgu fe oherwydd mae e yn dod a llawer o gyfleoedd. Mae angen pobl rhugl yn y Gymraeg dros y byd gwaith pobman ac os oes siawns gan unrhywun ddylen nhw drio dysgu’r iaith a chymryd balchder yn yr iaith a’r wlad.