Roedd dewis astudio rhan o’i chwrs Meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg yn bwysig iawn i Elin Bartlett, sy’n fyfyrwraig yn ei phedwaredd flwyddyn ym Mhrifysgol Caerdydd.
Ers symud o’i chartref teuluol yn Wrecsam i Gaerdydd i ddechrau ar ei chwrs, mae Elin wedi manteisio ar yr holl gyfleoedd y mae’r Coleg Cymraeg wedi ei gynnig iddi. Yn ogystal â chael y cyfle i astudio traean o’i chwrs meddygaeth yn Gymraeg a derbyn ysgoloriaeth cymhelliant gan y Coleg am wneud, mae Elin wedi treulio dwy flynedd fel llysgennad y Coleg ble cafodd y cyfle i rannu ei hangerdd dros yr iaith Gymraeg yn y maes iechyd a gofal a chodi ymwybyddiaeth am iechyd merched sydd o ddiddordeb mawr iddi.
Yn ddiweddar aeth ati i ddatblygu ei phodlediad newydd, Paid Ymddiheuro, gyda’i chyd-fyfyrwraig, Celyn Jones-Hughes sy’n rhoi platfform i fyfyrwyr drafod pynciau yn ymwneud â iechyd merched trwy gyfrwng y Gymraeg, o’r mislif i’r menopos, mewn amgylchedd diogel. Nod Elin a Celyn ydy cael gwared â’r stigma sy’n gysylltiedig â rhai o’r pynciau hyn.
Mae sgiliau cyfathrebu da yn yr iaith Gymraeg yn bwysig iawn i Elin, ac yn ddiweddar ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, enillodd Wobr Norah Isaac y Coleg Cymraeg Cenedlaethol am dderbyn y canlyniad gorau gan fyfyriwr israddedig yn asesiad Tystysgrif Sgiliau Iaith Gymraeg y Coleg. Cawsom sgwrs gydag Elin wrth iddi edrych ymlaen at ddechrau blwyddyn arall ym Mhrifysgol Caerdydd, i ddod i’w hadnabod yn well...
1. Sut fyddet ti’n disgrifio dy fagwraeth?
Cefais fy magu yn Rhiwabon, pentref tu allan i Wrecsam yn Ngogledd ddwyrain Cymru. Mynychais Ysgol I.D. Hooson yn Rhosllannerchrugog cyn mynd i Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd. Yn ffodus, roeddwn i wir yn mwynhau’r ysgol- efallai mwy am yr agwedd gymdeithasol ohono! Roeddwn i’n blentyn hynod chwilfrydig a gwastad eisiau gwybod ‘pam?’ am bopeth oedd yn digwydd o’m cwmpas i. Gan fy mod yn unig blentyn, mae gen i berthynas agos gyda’m rhieni. Rhwng y ddau ohonynt roedd diddordebau gwyddonol, hanesyddol a chreadigol o’m cwmpas i bob dydd ac felly doedd gen i ddim dewis ond i ddysgu rhywbeth newydd bob dydd!
2. Sut gododd dy ddiddordeb mewn meddygaeth?
Mae’n debyg bod fy niddordeb mewn meddygaeth wedi dechrau o oed ifanc iawn. Doeddwn i byth gallu stopio siarad, a does dim llawer wedi newid erbyn heddiw i ddweud y gwir! Rydw i’n hoffi dod i adnabod pobl newydd a chael mewnwelediad mewn i fywydau, diwylliannau a phersonoliaethau gwahanol. Cyfathrebu a gwrando ar hanesion cleifion yw gwraidd gofal iechyd a meddygaeth felly roedd hynny’n ddechrau da! Roedd cyfuno fy angerdd dros ofalu am bobl gyda fy niddordeb yng ngwyddoniaeth y corff a chyflyrau iechyd yn berffaith ar gyfer meddygaeth. Yn sicr erbyn yr ysgol uwchradd roeddwn i’n gwybod mai meddyg oeddwn am fod!
3. Beth wyt ti’n hoffi am astudio meddygaeth?
Rwy’n hoffi datrys problemau, ac felly mae adeiladu stori gyda’ch cleifion drwy wrando ar eu hanes, adnabod eu symptomau a dod at ddiagnosis fel bod yn dditectif bron! Does dim byd mwy gwerthfawr na gallu rhoi diagnosis i berson sydd wedyn yn arwain at ddechrau triniaeth sy’n gwella ansawdd eu bywyd. Doeddwn i byth yn berson oedd eisiau bywyd diflas, ac yn sicr dydy hynny ddim yn bosibl os ydych yn astudio meddygaeth!
4. Pam wnes di benderfynu astudio rhan o'r cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg?
Roedd hi wastad yn bwysig i mi allu astudio rhan o’m cwrs drwy gyfrwng y Gymraeg gan fod gan bob claf yr hawl i dderbyn eu gofal iechyd yn eu mamiaith. Mae cyflyrau iechyd yn aml yn bethau hynod bersonol i’w trafod ac weithiau mae siarad amdanynt yn haws os allwch eu trafod yn yr iaith fwyaf cyfforddus i chi. Gan fy mod yn medru siarad Cymraeg, credaf fod gen i ddyletswydd i’m cleifion i ddarparu eu gofal iechyd drwy gyfrwng y Gymraeg.
Mae “gender health gap” yn bodoli yn y Deyrnas Unedig. Dechreuais y podlediad, 'Paid Ymddiheuro' er mwyn dechrau agor y drafodaeth yma yng Nghymru.
5. Pam fod codi ymwybyddiaeth dros iechyd merched yn enwedig, mor bwysig?
Mae iechyd merched yn rhan benodol o feddygaeth rwy’n angerddol iawn drosto. Yn hanesyddol, mae cyflyrau sy’n effeithio menywod wedi cael eu hanwybyddu. Mae “gender health gap” yn bodoli yn y Deyrnas Unedig. Er, enghraifft yn ôl ymchwil gan University College London yn 2016, roedd menywod gyda dementia yn derbyn triniaeth feddygol waeth na dynion â’r un cyflwr. Yn ogystal, mae triniaeth cyflyrau sy’n effeithio menywod yn uniongyrchol megis endometriosis a’r menopos dal angen eu gwella. Mae geiriau Dr Janine Austin Clayton: “we literally know less about every aspect of female biology compared to male biology” yn esbonio’r peth yn berffaith! Er mwyn dechrau agor y drafodaeth yma yng Nghymru, dechreuais y podlediad, Paid Ymddiheuro, gyda Celyn Jones-Hughes sy’n trafod iechyd merched yn agored. Mae’r gyfres cyntaf bellach ar gael ar bob platfform ffrydio ac wedi bod yn brofiad anhygoel!
6. Beth neu pwy sydd yn dy ysbrydoli di?
Heb os, rhaid i mi ddweud mai fy rhieni i sy’n fy ysbrydoli. Mae’r ddau ohonynt yn hynod weithgar, yn garedig, yn anhunanol ac yn wydn. Maent wedi fy nysgu pwysigrwydd gwrando ar bobl a defnyddio’r sgiliau sydd gen i er mwyn helpu eraill. Rydym wastad wedi bod yn dda yn cyfathrebu â’n gilydd fel teulu ac yn rhannu baich ein gilydd pan fo sialensiau yn codi. Yn ogystal, maent wedi fy nysgu nad yw neb yn berffaith a bod pawb yn gwneud camgymeriadau, ond sut rydych yn ymateb iddynt sy’n eich siapio chi fel person. Felly, os ydw i’n byw fy mywyd mewn ffordd allent fod yn falch ohono, dwi’n hapus! (Gobeithio byddaf yn y ‘good books’ rwan!)
7. Beth wyt ti’n hoffi gwneud i ymlacio?
Dwi’n hoff iawn o gadw’n brysur, ond mae ymlacio hefyd yn hynod bwysig i mi gan fy mod yn euog iawn o wneud gormod weithiau! Rwy’n caru cerddoriaeth ac yn aelod o gôr Aelwyd y Waun Ddyfal a chôr newydd TafLais yng Nghaerdydd, ble rwy’n canu a chyfeilio. Mae treulio amser gyda ffrindiau yn bwysig iawn i mi, felly unrhyw esgus i fynd am ginio, coffi neu am dro, byddaf yn ei dderbyn mewn chwinciad! Pan rwy’n orbryderus am unrhyw beth, rhaid i mi fynd i’r traeth ac yn ddelfrydol, nofio yn y môr, hyd yn oed yn y gaeaf!
8. Oes gen ti unrhyw gyngor i berson ifanc sydd am astudio meddygaeth trwy gyfrwng y Gymraeg?
Yn fy marn i, y peth pwysicaf am feddygaeth yw rhaid i chi garu treulio amser gyda phobl. Rhaid i chi allu gwrando arnynt, trafod a chyd-weithio â nhw, felly mae’r gallu i gyfathrebu’n effeithiol yn y Gymraeg a’r Saesneg yn hanfodol. Diolch i'r Coleg Cymraeg a'r brifysgol, mae darpariaeth Cymraeg ar gael nawr ar y cwrs meddygaeth yng Nghaerdydd felly byddwn i bendant yn annog siaradwyr Cymraeg i wneud y mwyaf o hynny. Yr ail beth yw, byddwch yn wydn. Os allech fod yn agored i wneud camgymeriadau a dysgu ohonynt, bod yn gryf a gallu addasu pan fo pethau’n mynd yn anghywir, byddech chi’n hollol wych! Ewch amdani, rili, gan mai dyma’r yrfa fwyaf boddhaus allwch wneud.