Skip to main content Skip to footer
20 Chwefror 2024

Blog Gwilym, Llysgennad Ysgol - Dysgu a defnyddio'r Gymraeg

ADD ALT HERE

5 Syniad Da am Ddysgu a Defnyddio’r Gymraeg  

 

Shwmae! Gwilym ydw i, un o’r llysgenhadon Coleg Cymraeg blwyddyn ‘ma. Dwi bach yn wahanol i’r llysgenhadon eraill achos fi (a fy efaill Joe) yn disgyblion ail-iaith. Rydw i'n astudio Cymraeg yn Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf.

Nôl ym mis Mai 2023, enillais i Fedal y Dysgwyr yn Eisteddfod yr Urdd ers hynny ces i nifer o brofiadau hollol anhygoel! Dwi wedi bod ar y radio, newyddion S4C, Pawb a’i Farn a'r diwethaf gyda'r Coleg Cymraeg Prynhawn Da. Mae'r cyfan wedi bod fel breuddwyd wallgof! 

Felly, dwi eisiau rhannu fy 5 syniad da am ddysgu a defnyddio’r Gymraeg.  

  1. Defnyddiwch 'Cymraeg achlysurol' ym mhobman! Dwedwch “Shwmae” i'ch cymdogion a “Diolch” i yrrwr y bws! 

  1. Mae gyda ni sianel teledu Cymraeg – DEFNYDDIWCH fe! Gwyliwch y newyddion yn Gymraeg neu Googlebocs Cymru! 

  1. Tanysgrifiwch i Golwg! Dim ond £10 y mis ydy hi i'w ddanfon i'ch drws ... mae'n costio llai na Starbucks! 

  1. SIARADWCH gyda’ch ffrindiau yn Gymraeg – pan gen ti siawns i siarad Cymraeg, boed yn 'glecs' diweddaraf neu'n sôn am waith ysgol. Ceisiwch beidio â chyfnewid i'r Saesneg. 

  1. Astudiwch trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae llawer o bynciau ar gael trwy'r Gymraeg ac mae llawer mwy o arian ynddo! 

Mae'r Gymraeg yn rhan fawr o fy mywyd ac mae bron wedi cymryd dros fy mywyd. Yn y ddosbarth, rydyn ni'n dweud fy mod i'n bwyta, yn cysgu ac yn anadlu Cymraeg! Mae hynna y ffordd gorau i fyw!

Os ydych chi wedi dysgu Cymraeg fel eich ail, trydedd neu bedwaredd iaith ac yn meddwl bod gyda ti'r hyn sydd ei angen i ennill Medal y Dysgwr yn Eisteddfod yr Urdd eleni, mae'r ceisiadau'n cau ar y 1af o Fawrth! Ymgeisiwch yma

Ceisiwch gofleidio'r iaith, diwylliant a hanes. Cofiwch bod ein teuluoedd  a hynafiaid wedi brwydro dros hawliau ein hiaith, gadewch i ni eu gwneud yn falch a gwneud i'r iaith ffynnu.