Skip to main content Skip to footer
29 Ebrill 2024

Blog Gwion (Prentis) - Cystadleuaeth Sgiliau Cymru

ADD ALT HERE

Cystadleuaeth Sgiliau Cymru 

Pwysigrwydd siarad Cymraeg a’r manteision

Enw fi ydi Gwion Ellis dwi’n 19 oed a dwi’n astudio Peirianneg Ceir Modur lefel 3 yng Ngholeg Cambria. Ym mis Ionawr cefais y fraint o gynrychioli Coleg Cambria a fy lleoliad gwaith sef J H Motors yng nghystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mi wnes i deithio lawr i Gaerdydd a chystadlu gyda prentisiaid gorau Cymru, os yn llwyddiannus yn y rownd yma roeddwn yn cael y cyfle i gystadlu trwy Brydain a wedyn trwy’r byd.

Beth oedd rhaid i fi neud? 
Yn gyntaf, roedd rhaid i ni deithio lawr i Gaerdydd. Ar ôl cyrraedd cawsom fwyd a cyfle i ymlacio yn ystod y nos. Yn y bore, ar ôl llenwi ein boliau gyda bwyd cynnes, aethom i’r Coleg lle roedd y gystadleuaeth yn cael ei gynnal. Roedd yna chwech cystadleuaeth i gyd, ceir sydd ddim yn tanio neu gyda golau ar y dash ac yn y blaen. Roedd pawb yn cael 45 munud i gwblhau un tasg wedyn yn symud ymlaen i’r dasg nesaf. Roedd o’n grêt cael cymysgu efo pobl ifanc oedd yn gallu siarad Cymraeg, a sôn am bethau fel ceir ralio, tools a gwaith.

Rydym yn cael y canlyniadau o’r gystadlaethau ar y 14eg o Fawrth. Mae Coleg Cambria  yn cynnal seremoni gwobrwyo lle fydd rhaid i mi wisgo’n smart. Rwyf yn gobeithio derbyn y wobr gyntaf, ail neu trydydd i fi cael mynd ymlaen i’r rownd nesa. Roedd bod yn ran o’r gystadleuaeth yn brofiad gwych, roedd yn grêt cael siarad Cymraeg gyda pobl o ar draws y wlad. Er dwi’n siarad Cymraeg yn aml yn y coleg a gyda fy nheulu adref, roedd yn neis cael siarad o yn y gwaith. Mae yna lwyth o fanteision o siarad Cymraeg er enghraifft cael cyfle i fod yn lysgennad i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Profiadau Fi 
Wnes i drio am swydd fel prentis mewn garej yng Ngorwen, i fod yn onest doeddwn i ddim yn meddwl fyswn ni yn cael y swydd oherwydd doedd gennai ddim profiad o weithio mewn garej,  dim ond astudio blwyddyn yn coleg. Roedd yna 4 yn trio o dosbarth fi am yr un swydd. Ar ôl dau neu dri o wythnosau cefais alwad ffôn yn deud fy mod wedi bod yn llwyddiannus, a mi wnaethon nhw gynnig y swydd imi. Ar ôl gweithio yn y garej am ychydig o wythnosau, gofynnais i’r rheolwr pam mai fi allan o bawb wnaeth lwyddo i gael y swydd, yr ateb ges i oedd “you were the only one who could speak Welsh.” Ychwanegodd bod hyn yn sgil grêt i’r busnes gan bod y garej wedi cael ei leoli yng Ngorwen, sy’n ardal Gymreig.

Siarad Cymraeg efo cwsmeriaid

Pan dwi’n siarad efo cwsmeriaid yn Gymraeg teimlaf fod yna gysylltiad yn syth a bod yna fwy o ddealltwriaeth rhwng y ddau ohonom. Mae lot o bobl o’r ardal yn siarad Cymraeg fel eu iaith cyntaf, teimlaf felly fel eu bod yn cael y croeso gorau wrth siarad Cymraeg a’u bod yn teimlo lot fwy cyfforddus.

Dyfodol. 
Wrth siarad Cymraeg dwi’n teimlo fy mod yn adeiladu fwy o ymddiriaeth gyda’r cwsmeriaid. Yn y dyfodol hoffwn adeiladu busnes fy hyn neu redeg garej. Dwi’n siarad Cymraeg efo oddeutu 75% o fy nghwsmeriaid ar hyn o bryd, felly teimlaf ei fod yn sgil gwerthfawr i’w gael.