Skip to main content Skip to footer
29 Ebrill 2024

Blog Gwlad Thai Lloyd - Coleg Penybont

ADD ALT HERE

Ym mis Ionawr, hysbysebodd Coleg Penybont drip i Thailand. Er mwyn bod yn llwyddiannus, roedd angen i mi ysgrifennu traethawd yn esbonio pam y ddylen nhw bigo fi, a beth fyddwn i’n gael allan o’r daith, felly, rhoddais gynnig arni. Ar ôl bod yn llwyddiannus, (dim ond 9 myfyriwr a ddewiswyd i fynd ar y daith hon), dwi’n sylweddoli faint mor lwcus ‘dwi wedi bod.

Ar ôl i mi ddarganfod fy mod i’n llwyddiannus ar gyfer y daith, roedd yn rhaid i mi fynychu sawl cyfarfod, roedd hyn er mwyn sicrhau gwiriadau DBS a pasbort, ac hefyd gwneud yn siŵr fod pawb yn cael y brechiadau cywir. Ar ôl ychydig o’r sesiynau gorfodol, dechreuodd deimlo fy mod wirioneddol yn mynd i ffwrdd i Thailand!

Ar y 1af o Fawrth 2024 am 3.20 yn y bore, gadawon ni Coleg Penybont i fynd i faes awyr Gatwick, roedd taith hir o’n blaenau ni. Fe hedfanodd y grŵp o faes awyr Gatwick i Shanghai yn Tsieina, arhoson ni 3 awr drosodd, yna roedd rhaid hedfan 5 awr i Chiang Mai, ac yna taith bws 4 awr arall cyn gyrraedd ein gwesty ym Mae Sariang!

Ar ôl cwblhau ein diwrnod llawn o deithio, roeddwn yn hollol jet-lagged ac roeddwn i angen gwely. Sut byddech chi’n teimlo ar ôl cwblhau diwrnod llawn o deithio? Well na fi mwy na thebyg!

Unwaith yr oeddem ni wedi ymgartrefu ym Mae Sariang, y nod ar gyfer yr wythnos gyntaf yn Thailand oedd i weithio mewn ysgolion lleol, i gyflwyno gweithdai addas i’r plant. Cawsom bedwar diwrnod ar gyfer hyn, a bu rhaid i ni ddarparu’r gweithdai hyn fel grŵp. Cawsom bedwar diwrnod ar gyfer ein prosiect efo plant yn yr ysgolion lleol. Ar ein diwrnod cyntaf, roedd rhaid i ni greu hofrenyddion gan ddefnyddio papur. Roedd yn anodd iawn i’w wneud (os ydw i’n onest!), fodd bynnag fe wnaethom ni gyd wneud yn dda.

Ar yr ail ddiwrnod, roeddwn ni’n creu ceir allan o boteli, a’r trydydd diwrnod roedden ni’n creu rocedi papur cyn y gystadleuaeth derfynol ar y pedwerydd diwrnod. O gwblhau’r gweithdai yn yr ysgolion efo plant sydd rhwng 4-13 blwydd oed, ‘dw i bellach yn gwybod ychydig mwy o’r iaith Thai nag yr oeddwn i’n gwybod cyn y profiad.

Ar ôl wythnos brysur, (ond llawn hwyl!), o gyflwyno gweithdai addysgiadol i ysgolion lleol ym Mae Sariang, teithiwyd 4 awr i Chiang Mai, lle cawsom y penwythnos i ymlacio efo amser hamdden yn archwilio temlau, bwyta allan ac edrych trwy lawer o farchnadoedd.

Ar Ddydd Llun yr 11eg o Fawrth, gadawon ni ddinas Chiang Mai, gan yrru am awr i Barc Natur yr eliffantod. Dyma lle roeddwn ni’n gweithio ar gyfer ein ail wythnos yn Thailand.

Fe wnes i wir fwynhau gweithio ym mharc natur yr eliffantod, yn bennaf oherwydd fy mod wedi cwblhau gweithgareddau na fyddwn fel arfer yn eu gwneud bob dydd. Er enghraifft, bu’n rhaid i mi a fy ngrŵp lanhau cewyll eliffant (roedd hyn yn flêr iawn) yn ogystal a dadlapio ŷd a chreu bwyd i’r eliffantod. O hyn, roeddwn i allan o fy ‘comfort zone’, ond fe wnes i fwynhau.

Hefyd, roedd gennym lawer o amser rhydd, fe wnaethom ni chwarae gemau, archwilio’r ardal, ac hefyd bwyta bwyd blasus. Fy uchafbwynt o’n hail wythnos oedd cyfarfod Lek, sylfaenydd ENP (Elephant Nature Park), mae hi’n fenyw fendigedig gyda llawer o straeon pwerus.

Ar Ddydd Sadwrn yr 16eg o Fawrth, roedd hi’n amser ffarwelio a’r eliffantod a’r holl bobl hyfryd sydd yn byw yn Thailand, cyn teithio am 35 awr yn ôl i Goleg Penybont. I adlewyrchu fy amser yn yr ysgol ym Mae Sariang, yn ogystal â gweithio yn y parc Natur, rwyf wedi datblygu sawl sgil gwahanol, a chael profiadau anhygoel. Rwyf hefyd wedi datblygu ffrindiau am oes wrth gwblhau’r daith. Fe hoffwn ddiolch i Goleg Penybont, Challenges Abroad a FutureSense Foundation am adael i mi gael y profiad anhygoel yma allan yn Thailand.

Blog Lloyd
Blog Lloyd