Pan oeddwn yn yr ysgol, doedd dim llawer o agweddau cadarnhaol tuag at wersi Cymraeg. I fyny ac i lawr y coridor, byddai fy ffrindiau ac eraill yn gofyn i’w gilydd “beth yw’r pwynt?”. Ac am gyfnod, roeddwn i’n credu hynny gyda nhw. Es i ysgol cyfrwng Saesneg yng Nghymoedd De Cymru – ac os nad oeddech chi’n gwybod ble i ddod o hyd i’r iaith, gallech fynd y rhan fwyaf o’ch bywyd heb glywed unrhyw Gymraeg. Ond trwy fy ymchwil cyfredol, mae un peth yn glir: yn araf, mae pethau’n newid.
Ar hyn o bryd, dwi’n astudio ar gyfer fy ngradd Meistr ym Mhrifysgol Caerdydd ar y llwybr sosioieithyddiaeth. Fel rhan o fy ymchwil dros yr haf, bydda i’n neud cyfweliadau eto gyda myfyrwyr sy’n astudio mewn ysgolion cyfrwng Saesneg – math o ymchwil sy’n adeiladu at ganlyniadau fy ngradd israddedig, a’r PhD yn y dyfodol.
Pan wnes i’r ymchwil am y tro cyntaf, gwelais fod llawer mwy o bobl na’r disgwyl yn gweld gwerth dysgu Cymraeg ar ôl iddynt adael yr ysgol – nid oeddent yn gallu cofio llawer ond roedden nhw’n dymuno eu bod wedi dysgu ymadroddion mwy defnyddiol i helpu nhw fyw yn Gymraeg.
O dan y Cwricwlwm i Gymru 2022, mae mwy o gyfle i athrawon fod yn hyblyg ynglŷn â’r hyn maen nhw’n ei ddysgu. Mae fy ymchwil a’m sgyrsiau gydag athrawon eisoes wedi dangos bod hyn wedi cael effaith gadarnhaol: mae disgyblion yn ymgysylltu mwy a’u gwersi Cymraeg ac mae eu hagweddau yn ymddangos yn fwy cadarnhaol.
Trwy'r ymchwil hon, rwy'n gobeithio dod o hyd i ffyrdd y gall y Llywodraeth wella’r strategaeth 2050 ac ysbrydoli myfyrwyr o gefndir tebyg â fi i barhau i ddysgu Cymraeg ar ôl eu TGAU.

