Helo, Lewis dw i, a dw i’n lysgennad Cymraeg yng Ngholeg Penybont ar gampws Pencoed.
Ar hyn o bryd, dw i’n astudio Gwasanaethau Cyhoeddus Lefel 3, ac rydw i yn fy mlwyddyn gyntaf. Mae'r cwrs yn ddiddorol iawn, rydw i’n joio. Rydyn ni wedi cael llawer o siaradwyr gwadd mewn o’r sectorau cyhoeddus fel o’r RAF a’r heddlu, ac hefyd wedi ymweld â gorsaf dân Pencoed a Penybont er mwyn gwneud profion ffitrwydd.
Rydyn ni’n ymgymryd â llawer o weithgareddau y tu allan i’r ystafell ddosbarth, ac mae yna ymweliad i Ogledd Cymru mis nesaf, dw i’n edrych ymlaen yn fawr at hynny ac yn gyffrous i weld ardal arall o Gymru.
Ar ôl gorffen fy astudiaethau yn y coleg, rydw i’n gobeithio mynd i weithio i’r RAF. Ar hyn o bryd, dydw i ddim yn hollol siŵr pa swydd yn yr RAF fyddai orau i mi, ond rydw i’n gwybod bod angen i mi gael ffitrwydd da a graddau er mwyn cael y siawns gorau i fod yn llwyddiannus. Felly, rydw i’n gwneud fy ngorau i baratoi. Rydw i’n rhedeg bron bob dydd ac rydw i hefyd wedi dechrau ymarfer MMA a jiwdo pum diwrnod yr wythnos. Rwy’n gobeithio cwblhau’r cwrs gyda 3 merit.
Rydw i eisiau gweithio’n galed a gwneud fy ngorau i fod mewn swydd safon swyddog. Byddaf yn parhau i ymdrechu i wella fy sgiliau a fy hyfforddiant er mwyn sicrhau fy mod yn barod ar gyfer y dyfodol.