Skip to main content Skip to footer
8 Medi 2024

Blog Mai Llysgennad Ysgol

ADD ALT HERE

Gyda’r targed o gyrraedd miliwn o siaradwyr Cymraeg erbyn 2050 mae angen i ni fel pobl ifanc Cymru gymryd y sialens a chydweithio drwy dilyn addysg a gyrfa trwy gyfrwng y Gymraeg a defnyddio’r iaith gymaint ag y gallen ni.

 

Wrth i mi edrych ar fy nyfodol a dangos diddordeb mewn cwrs yn y brifysgol roedd Meddygaeth yn sicr wedi fy nennu’n syth. Felly dwi am rannu ychydig o'r rhesymau pam rydw i’n gobeithio astudio Meddygaeth yn y brifysgol a’r pethau rydw i wedi eu hystyried wrth imi edrych ar ddilyn yr yrfa gystadleuol yma.

 

  1. Credaf mai’r prif reswm mae rhan fwyaf o fyfyrwyr gyda diddordeb mewn astudio Meddygaeth ydi ar gyfer cynnig cymorth ac i ofalu am bobl trwy leddfu poen a dioddefaint â’r gobaith o’u gwell. Mewn geiriau eraill gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl

 

  1. Yn diweddar mae llawer o erthyglau wedi eu cyhoeddi’n cyfleu’r angen amlwg am fwy o ddoctoriaid Cymraeg. Pwysleisir hyn ar bwysigrwydd y Gymraeg i gleifion.Trwy fod yn ddwyieithog mae modd cynnal y gofal gorau. Yn sicr mae hyn wedi ysgogi fy niddordeb yn y maes Meddygaeth fel mae wedi gwneud i lawer. Mae hyn wedi fy ngwneud i’n falch o allu siarad Cymraeg a’n dangos bod galw am yr iaith yn cyflwyno cyfleoedd gwych i nifer. Felly ewch amdani, siaradwch neu dysgwch y Gymraeg. 

 

  1. Mae cyfathrebu a’i wneud yn hyderus, effeithiol yn ogystal ac yn gryno wrth fynd i’r maes Meddygaeth yn hynod o bwysig wrth i chi drafod geirfa meddygol a gwybodaeth difrifol gyda cleifion a gyda’ch cydweithwyr. Ond yn fwy na hynny eich bod chi’n mwynhau cymdeithasu gyda pobl. Yn yr un modd mae’n rhaid bod yn berson empathetig wrth drafod materion dwys. Daw straen meddyliol yn rhan o’r swydd ac fel yr ydym ni wedi ei brofi yn ystod y pandemig, yn ogystal a nawr gyda’r streiciau, does dim dwywaith amdani fod yr elfen yma yn heriol. Ond eto, mae’r gwaith yn gallu bod yn hynod o wobrwyol.

 

  1. Rheswm arall mae llawer yn mynd i astudio Meddygaeth yw oherwydd bod ymchwil a darganfyddiadau newydd am driniaethau, afiechydon ac ati o hyd yn datblygu, yn addasu i wella. Golygai hyn fod wastad rhywbeth newydd a bod pob diwrnod yn wahanol sy’n cadw eich diddordeb yn y swydd ac yn ychwanegu elfen o gyffro i’r swydd yn sicr. Er dweud hyn mae oriau hir sy’n gallu amrywio yn rhan o’r swydd ond dyma’r math o ymroddiad sydd ynghlwm a chyfrifoldebau’r maes.

 

  1. Er mwyn dilyn unrhyw yrfa mae’n rhaid i chi gael brwdfrydedd yn yr hyn rydych chi’n ei astudio ac felly’r prif beth yw’r diddordeb i ddarganfod a dysgu pethau newydd am y corff ac am driniaethau; sut i helpu lleihau dioddefaint a gwella rhywun. I’w roi’n syml eich bod chi’n hoffi gwyddoniaeth, diddordeb mewn pobl a bod sut mae’r corff yn gweithio yn eich cyfareddu!

 

Credaf bod hi’n bwysig sicrhau bod mwy o Gymraeg yn cael ei ddefnyddio mewn ysgolion yn ogystal a dangos i blant a phobl ifanc bod dyfodol y Gymraeg yn ein dwylo ni.

Yn sicr, mae tuedd ganddom ni i esgeuluso yr iaith yn anfwriadol, felly erfynaf arnoch i feithrin balchder dros yr iaith. Cofiwch, rydym yn ffodus bod y Gymraeg yn ein gwneud ni’n rhan o gymdeithas arbennig. Felly, anelwch i ddefnyddio’r iaith mewn unrhyw agwedd o’ch dyfodol i sicrhau dyfodol disglair i’r iaith.