Skip to main content Skip to footer
11 Chwefror 2024

“Er bod gan ferched pob hawl i ddilyn gyrfa STEM erbyn hyn, rhaid sylweddoli mai dim ond hanner y frwydr yw hynny.”

ADD ALT HERE

Megan Kendall, un o lysgenhadon ôl-radd y Coleg Cymraeg, yn rhannu ei phrofiad o ddefnyddio'r Gymraeg wrth astudio am ei doethuriaeth mewn peirianneg proffesiynol ym Mhrifysgol Abertawe ac yn trafod cynrychiolaeth merched yn y maes.

Bydd bywyd dyddiol fel myfyriwr EngD (neu Beiriannydd Ymchwil fel y gelwir ni fel arfer) yn ymddangos ychydig yn wahanol i drefn myfyriwr PhD.

Rydym yn gweithio’n uniongyrchol gyda chwmni peirianneg (Tata Steel yn fy achos i) i ddatrys un o’i heriau diwydiannol, ac o ganlyniad bydd ein hymchwil yn cael ei arwain gan anghenion diwydiannol presennol yn hytrach na chwilfrydedd academaidd yn unig. Hefyd, er mwyn cynnal ein perthynas â’n cwmni partner, mae disgwyl i ni gynnal cyfarfodydd a darparu adroddiadau ffurfiol rheolaidd i ddiweddaru nhw ar ein cynnydd. Yn y ffordd hon, mae’n fwy tebyg i gael swydd ‘9-5’. Rwyf wrth fy modd gyda’r steil hwn o weithio, ac yn credu bydd yn fy mharatoi’n dda gyda sgiliau trosglwyddadwy ar gyfer y byd diwydiannol.

Serch hynny, ac efallai nad yw’n syndod, nid oes llawer o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg yn ffurfiol yn fy ngwaith, ac yn anffodus mae hyn yn cael ei adlewyrchu ar draws y sector STEM ar adegau. Gan hynny, ac fel rhywun wnaeth astudio ei gradd israddedig tu allan i Gymru, rwyf yn benderfynol o ddod o hyd i ffyrdd eraill i’w defnyddio!

Yn ddiddorol, yn 1920 dywedodd y ffisegydd Niels Bohr, sy’n enwog am ei gyfraniad i’r maes strwythur atomig, “...pan ystyrir atomau, megis barddoniaeth yn unig y gellir defnyddio iaith”. Hynny yw, bydd rhaid i ymchwilwyr gwyddonol gael gafael da ar eu hiaith a sut i’w defnyddio i alluogi’r darllenydd i ddeall y cysyniad sy’n cael ei gyfleu. Nid yr iaith sy’n bwysig ond sut y defnyddir hi.

Hefyd, pwysleisiodd adroddiad gan Brifysgol Bangor yn 2021 bod angen herio’r camsyniad nad yw’n bosibl cael mynediad i’r pynciau STEM yn y Gymraeg. Mae’n anhygoel bod gan bobl gyfle i lunio eu doethuriaeth yn y Gymraeg, enghraifft fyw o addasrwydd y Gymraeg i bob maes academaidd, ond beth am ffyrdd eraill i hyrwyddo ein hiaith frodorol yn y meysydd STEM (yn enwedig y maes peirianneg)?

Mae'r dywediad Saesneg, “You can’t be what you can’t see” yn creu adwaith o bositifrwydd i bobl ail-fframio'r Gymraeg fel iaith i bawb ym mhob maes

Mae’r dywediad Saesneg, “You can’t be what you can’t see”, yn bwysig i gadw yn y cof ac mae gwaith allgymorth yn gyfle da i ystyried cynrychiolaeth yn y maes peirianneg. Credaf ei fod yn bwysig i blant sy’n medru’r Gymraeg, boed hynny fel iaith gartref, iaith ysgol, iaith ffrindiau neu unrhyw gyd-destun arall, weld lle’r Gymraeg yn y byd proffesiynol a gwyddonol, er mwyn cynyddu eu gwerthfawrogiad o’u dysgu dwyieithog.

Yn ogytstal â chynrychiolaeth ieithyddol, mae’n bwysig hefyd i annog mwy o ferched i’r maes. Er fod gan ferched pob hawl i ddilyn gyrfa STEM erbyn hyn, rhaid sylweddoli mai dim ond hanner y frwydr yw hynny. Mae’n rhaid i ni sicrhau bod gan bob merch mynediad at bobl, gwybodaeth, ac adnoddau sy’n dinistrio ystrydebau ac yn eu hysbrydoli efo enghreifftiau amrywiol, positif a chalonogol, fel unrhyw grŵp lleiafrifol arall.

Dros y flwyddyn ddiwethaf, ‘dw i wedi arwain datblygiad gweithdy allgymorth cyfrwng Cymraeg dan nawdd yr Academi Frenhinol Peirianneg, gan ganolbwyntio ar ‘Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig’ (‘SDGs’). Ffocws y gweithdy oedd SDG 12 (‘Cynhyrchu a Defnyddio’n Gyfrifol’) sy’n seiliedig ar y cysyniad o’r Economi Cylchol sef syniad y dylai bywyd defnydd bod yn anfeidraidd fel cylch. Hefyd, fel rhan o’r gweithdy, rydym yn annog y plant (fel arfer yng Nghyfnod Allweddol 3) i ystyried sgiliau nad ydynt yn aml yn cael eu cysylltu gyda pheirianneg, megis creadigrwydd a meddwl dargyfeiriol, trwy weithgareddau gan gynnwys datgymalu ceir tegan, archwilio nodweddion y defnyddiau sy’n ffurfio’r ceir, ac awgrymu sut i addasu dyluniad a/neu ddefnyddiau’r ceir i siwtio SDG 12 yn well. Y tro cyntaf i ni gyflwyno’r sesiwn i grŵp bach blwyddyn saith, o’n i’n poeni ychydig am eu hymateb i’r sesiwn, ond roedd y plant yn ei ffeindio’n hollol naturiol i ddilyn y gweithgaredd yn y Gymraeg, gyda chymorth geiriadur technegol a baraton ni’n arbennig. Roedd eu creadigrwydd a brwdfrydedd i greu pethau newydd o ddefnydd y ceir yn nodedig, gan gynnwys broga a hofrennydd!

Yn aml 'dwi'n sylwi fod gan bobl ofn siarad yn Gymraeg oherwydd maent yn poeni am safon yr iaith neu fod y person sy’n siarad â nhw’n eu beirniadu. Mae’n hollbwysig i mi annog pobl i siarad Cymraeg

Ar lefel mwy anffurfiol, ‘dw i wedi darganfod bod y pethau bychain yn adeiladu i fyny. Mae peirianwyr ymchwil yn dueddol o weithio mewn swyddfeydd mawr, gyda digon o drafod syniadau yn mynd ymlaen. Er ein bod ni’n gweithio yng Nghymru, ‘dw i wedi ffeindio’n aml fod gan bobl ofn siarad yn Gymraeg oherwydd poeni am safon yr iaith neu fod y person sy’n siarad â nhw’n eu beirniadu. Mae’n hollbwysig i mi annog pobl i siarad Cymraeg os byddan nhw’n teimlo’r awydd, boed hynny trwy ddefnyddio ambell air fan hyn a fan draw, ateb e-byst yn rhannol trwy’r Gymraeg, neu ail-ddarganfod hyder i siarad yn rhugl. Eto, “You can’t be what you can’t see”. Credaf fod hyn yn creu adwaith o bositifrwydd i bobl ail-fframio'r Gymraeg fel iaith i bawb. Yn y bôn, y mwyaf ohonon ni sy’n defnyddio’r iaith gymaint ag y gallwn, beth bynnag yw ein cefndir, gallu neu lefel profiad, bydd achos cryfach gennym i amddiffyn safle’r iaith yn ein cymdeithas wyddonol.

Wrth feddwl amdano, mae peirianneg, a’r pynciau STEM yn gyffredinol, yn ffurfio rhan annatod o’n bywyd o ddydd i ddydd, ac ni fydd hwnna’n newid wrth i dechnoleg barhau i esblygu. Felly, dylen ni sy’n byw yn y byd gwyddonol a’r byd Cymraeg geisio plethu'r ddau fyd er mwyn iddyn nhw barhau i esblygu gyda'i gilydd.

Roedd dewis astudio peirianneg yn y brifysgol a defnyddio’r Gymraeg wrth wneud yn naid ffydd mawr i mi, ond, heb amheuaeth, y penderfyniad gorau fy mywyd oedd o ac rwyf wrth fy modd â’m swydd. Rwyf yn dymuno hynny i bob merch.