Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Mia - Coleg Caerdydd a'r Fro

ADD ALT HERE

Shwmae fy enw i yw Mia Jones ac rwy’n astudio busnes lefel tri yn goleg CCAF. Ers i mi ymuno â’r coleg rwyf wedi cael nifer o gyfleoedd ardderchog fel ffilmio podlediad ac yn ddiweddar dwi wedi cael y cyfle i fod ar S4C. Mae bod yn lysgenhadon i’r coleg wedi bod yn brofiad ardderchog a dwi wedi cwrdd â llawer o bobl newydd. Hefyd rwy’n ffodus iawn i allu bod yn lysgenhadon cenedlaethol i’r Coleg Cymraeg. Mae’r rôl hwn yn gyfle gwych ac rwy’n hynod o hapus fy mod wedi cael y cyfle i allu helpu pobl wella eu Cymraeg dros Gymru. Ers dod o ysgol Saesneg i'r coleg maen wych gweld gymaint o Gymraeg o gwmpas y coleg o bosteri i lyfrau.

Bach amdanaf i: 
Rwy’n 16 mlwydd oed ac o Gaerdydd, rwy’n astudio busnes lefel 3 yn y coleg a gweithio tuag at fynd i Brifysgol Manceinion. Mae gen i dri chi bach genre a dwy chwaer fach. Ar y foment fy hoff gân Cymraeg yn ‘Sebona Fi’ gan Yws Gwynedd, gobeithio un dydd gallai weld nhw’n fyw. Yn fy amser sbâr rwy’n chwarae i dîm hoci Whitchurch. Nôl yn Ebrill 2023 aethon ni fel tîm i'r Iseldiroedd i chwarae llwyth o glybiau gwahanol dros y wlad. Roedd hwn yn gyfle cofiadwy. Hefyd rwyf wedi dechrau clwb bocsio ac yn mwynhau mynd i bob gwers.

Mae medru’r Gymraeg wedi dod a nifer o gyfleoedd i fi fel nôl yn 2017 ennill y cyflwyniad dramatig yn yr Eisteddfod, hefyd wedi perfformio yn Tafwyl. Eleni rwy’n edrych ymlaen at gystadlu yn yr Eisteddfod.

Mia a'i thîm hoci!