Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Osian - Y Gymraeg yn y Coleg

ADD ALT HERE

Helo, fy enw i yw Osian-Wyn a fi yn fy ail flwyddyn yn CCAF (Coleg Caerdydd a'r Fro) yn astudio Cynhyrchu a Thechnoleg Cyfryngau Creadigol.

Fi wedi bod mewn addysg Gymraeg ers meithrin felly pan oeddwn wedi dewis mynd I CCAF oeddwn yn poeni ychydig byddai yn colli'r siawns i ysgrifennu a dysgu yn y Gymraeg.

Ond cefais sioc fawr, mae fy athro wedi fy annog i ddefnyddio Cymraeg yn fy ngwaith ac yn hapus i roi cymorth, yn ogystal i’r cwrs fi’n neud, oedd rhaid i mi ail wneud TGAU màths, oherwydd oeddwn yn astudio màths yn y Gymraeg yn yr ysgol, oeddwn yn credu bydd rhaid i fi ddysgu termau eto yn Saesneg ond oedd y coleg yn hapus i roi defnyddiau i helpu, er enghraifft copy or prawf yn Gymraeg.

Yn fy mlwyddyn gyntaf daeth band Cymraeg mewn i’r coleg, dagrau tân, felly oedd hwnna wedi helpu myfyrwyr i glywed yr iaith Gymraeg, hefyd mae gan y Coleg magazine sŵn ble mae’n trafod cerddoriaeth Gymraeg, digwyddiadau a llawer mwy, sydd am ddim i unrhyw un i yn y coleg.

Dim ond yn ddiweddar cefais wybodaeth am y Coleg Cymraeg, felly pan wnes i weld swydd llysgennad o ni’n hapus i wneud, a chreu CCAF yn goleg fwy Cymraeg.

Fi’n gobeithio gallu cyfuno gwaith ffotograffiaeth music a digwyddiadau Cymraeg i mewn gyda’r coleg a dangos bod yr iaith yn gallu helpu yn y dyfodol, byddai byth yn gallu gwneud ambell swydd fi wedi gwneud nawr os oeddwn i ddim yn siarad Cymraeg. A hefyd cael pobl yn gyffrous am yr iaith, miwsig, digwyddiadau , er enghraifft Eisteddfod, Tafwyl, Gŵyl Fach y Fro.