Skip to main content Skip to footer
10 Hydref 2023

“Heb siarad a gofyn am help, mae’n anodd iawn i unrhyw beth wella”

ADD ALT HERE

Mae Reagan McVeigh newydd ddechrau eu hail flwyddyn yn astudio Cymraeg ac Ysgrifennu Creadigol ym Mhrifysgol Caerdydd. Fel llysgennad y Coleg Cymraeg, mae Reagan wedi cael nifer o gyfleoedd i drafod materion ynghylch LHDTC+ ac iechyd meddwl trwy gyfrwng y Gymraeg, pynciau sy’n agos iawn at eu calon.  Yn ddiweddar ym mhabell y Coleg Cymraeg ar faes yr Eisteddfod Genedlaethol, bu’n rhan o sgwrs banel ‘Iechyd Meddwl a Fi’ a oedd yn blatfform i fyfyrwyr ac arbenigwyr drafod y pwnc yn agored.

Ar ddiwrnod Iechyd Meddwl y Byd, dyma flog gan Reagan yn adlewyrchu ar eu blwyddyn gyntaf yn y brifysgol ac fel llysgennad y Coleg Cymraeg.

Nid yw’n anghyffredin i fyfyrwyr prifysgol ddioddef o broblemau iechyd meddwl oherwydd mae symud o adref i brifysgol a byw ar ben eich hun am y tro cyntaf yn newid mawr. Mae’r cynnydd mewn straen a chyfrifoldebau yn llawer i ddelio â nhw, ac yn gallu bod yn waeth i unigolion sydd wedi bod yn dioddef o broblemau iechyd meddwl cyn mynd i’r brifysgol.

Ers dechrau yn y brifysgol, dwi’n treulio mwy o amser ar ben fy hun ac felly dwi wedi dysgu delio gyda fy emosiynau a meddyliau mewn ffordd newydd.

Dwi dal yn mwynhau yn y brifysgol: dwi wedi gwneud ffrindiau newydd ac wedi dechrau gweithio, dwi’n astudio pwnc dwi yn ei fwynhau a dwi wedi cael profiadau newydd. Mae elfennau da a drwg yn dod gydag unrhyw newid yn eich bywyd, ac mae’n bwysig i gael system cymorth o’ch cwmpas, cymryd amser i’ch hun, a gwneud ymdrech i agor i fyny a gofyn am gymorth pan mae angen.

Dwi wedi bod yn agored gyda fy nheulu a ffrindiau am amser maith, sydd yn fy helpu i ymdopi. Os nad ydym ni’n gwneud ymdrech i siarad â’n gilydd, a bod yn agored ac onest am ein problemau, does dim ffordd i unrhyw beth wella. Dim ond yn ddiweddar dechreuais i fynd i weld therapydd oherwydd roeddwn yn teimlo’n euog am ofyn am help proffesiynol. Am ryw reswm, teimlais fod eraill mewn sefyllfaoedd gwaeth ac felly byddwn i’n gwastraffu eu hamser. Dwi’n sylweddoli nawr bod angen i mi ddileu’r meddylfryd yma, a derbyn fy mod yn deilwng i dderbyn help.

Roedd yn ddiddorol clywed barn myfyrwyr eraill sydd yn yr un sefyllfa â fi yn ystod sgwrs banel yn yr Eisteddfod a drefnwyd gan y Coleg Cymraeg. Roeddem yn mynegi ein barn ar bwysigrwydd gallu cyfathrebu a rhannu emosiynau yn yr iaith rydych fwyaf cyfforddus ynddo oherwydd mae esbonio eich teimladau yn gallu bod yn anodd. Mae’n bwysig felly annog mwy o siaradwyr Cymraeg i ddilyn gyrfa yn y maes a'u hannog i ddilyn cyrsiau trwy gyfrwng y Gymraeg neu’n ddwyieithog er mwyn cael mwy o therapyddion a chwnselwyr sydd yn medru rhoi gwasanaeth trwy gyfrwng y Gymraeg. Dyma pam mae gwaith y Coleg Cymraeg yn datblygu darpariaeth Cymraeg yn y prifysgolion mor bwysig.

Byddai’n hawdd darllen fy mlog a’i weld fel cymorth gwag, ond nid yw agor i fyny yn hawdd. Mae’n gam pwysig er mwyn cychwyn eich siwrne i wella eich iechyd meddwl. Fy nghyngor i i unrhyw un ydy byddwch yn agored i ddweud pan mae rhywbeth yn wael. Does dim cywilydd yn hynny. Heb siarad â heb ofyn am help, mae’n anodd iawn i unrhyw beth wella.