Skip to main content Skip to footer
22 Ionawr 2024

Blog Siwan: Y Brif Ysgoloriaeth gwerth £3000

ADD ALT HERE

Helo! Siwan ydw i ac rydw i’n ddisgybl ym mlwyddyn 13 yn ysgol Gyfun Gymraeg Bro Myrddin. Ar hyn o bryd rwy’n astudio Hanes, Cymraeg, Drama a’r BAC, yn y gobaith o fynd ‘mlan i astudio Hanes a Chymraeg yn y brifysgol, a’r cwbl trwy gyfrwng y Gymraeg.

Mae gymaint o fanteision o astudio trwy gyfrwng y Gymraeg, a’n rôl ni fel llysgenhadon yw hyrwyddo’r manteision hynny i chi. Yn gwybod bod dyddiad cau'r brif ysgoloriaeth yn agosáu, dyma 3 rheswm pam ddylech chi geisio amdano!

 

  1. Nid oes angen i chi ei dalu yn ôl

Nid yw’r ysgoloriaeth yn cael ei weld fel benthyciad, ond mwy fel gwobr am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Rydych yn medru ennill £1000 y flwyddyn am hyd at 3 blynedd yr ydych yn y brifysgol os rydych yn astudio o leiaf 66% o’ch cwrs yn Gymraeg. £3000, a dim un geiniog o ad-daliad! ‘Sdim da chi i golli.

 

  1. Nid oes unrhyw gyfyngiadau

Gallwch chi wneud beth fynnoch chi gyda’r arian. Mae’r rhyddid gyda chi i’w wario ar beth bynnag hoffech. Mae nifer o’r Llysgenhadon wedi rhannu’r hyn fydden nhw’n gwneud gyda’r arian yn barod. Mwynhau yn y brifysgol, teithio, costau byw, arbed, popeth dan haul! Ma fe gwbl lan i chi.

Mae gallu astudio trwy gyfrwng y Gymraeg yn ddigon o fraint yn barod, heb feddwl am gael eich talu i wneud!

3. Does dim gennych i golli

Mae’n broses byr ar y cyfan. Llenwi eich manylion gan rannu eich rheswm personol chi o pam ddylech chi dderbyn yr ysgoloriaeth. Ni fydd yn cymryd amser maith i’w wneud, sydd yn fwy o reswm i ymgeisio!

Yn bendant, fe fyddai’n mynd am y cyfle, a dylech chi hefyd! Ymgeisiwch nawr a chyn Ionawr y 24ain! Ewch amdani!

Dilynwch y ddolen yma i ymgeisio