Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Sonny - Cerddoriaeth Perfformio yn CCAF

ADD ALT HERE

Sonny ydw i. Rwyf yn astudio cerddoriaeth perfformio yn Coleg Caerdydd ar Fro, yn fy ail flwyddyn a dwyn dymuno i orffen fy nghwrs yn yr haf.

Wnes i fynychu ysgol gynradd ac eilradd Cymraeg felly ddysgais sut i siarad Cymraeg yn fy ieuenctid. Mae’r iaith yn dod yn naturiol i mi. 
Mae’n adfywiol i astudio mewn awyrgylch lle mae’r Gymraeg yn cael ei chefnogi i’w siarad, yn hytrach na cael eich cosbi am siarad Saesneg sydd yn arwain at ragrith amlwg.

Rwyf yn mwynhau mynychu perfformiadau cerddoriaeth fyw. Rwy’n mynd i wylio llawer o fandiau Cymraeg chwarae mewn lleoliadau fel Clwb a gwyliau fel Tafwyl. Mae rhai o fy hoff fandiau rydw i wedi gweld yn cynnwys Hyll, Mellt, Papur Wal, Los Blancos a SYBS. Rwyf hefyd yn gwario llawer o fy amser yn dilyn a chefnogi fy nghlwb, Dinas Caerdydd a gwlad ym mhêl-droed. Rwyf yn mynychu pob gem gartre gyda fy ffrindiau o ysgol, tra hefyd yn teithio ar draws Lloegr i’w cefnogi pan rydym yn chwarae oddi gartre.

Oherwydd fy angerdd am gerddoriaeth, wnes i ddysgu fy hunain sut i chwarae gitâr yn ystod 2020. Ers hynny rwyf wedi dal ati a phennu fyny gallu astudio cerddoriaeth perfformio yn y coleg, fel gwnes i sôn yn gynharach. Rydw i wedi bod yn chwarae am dros dair blynedd nawr ac yn ystyried chwarae gitâr fel hobi i mi, daw llawer o ysbrydoliaeth o fy nheulu a’r ffaith bod llawer ohonynt wedi pennu fyny i fod yn gerddorion.

Rwyf yn gobeithio un ddydd allwn i ddilyn fy nyheadau a bod yn gerddor proffesiynol fy hun.

Sonny Gitar