Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

Blog Sorrel - Coleg Gwent

ADD ALT HERE

Helo! Fy enw fi ydy Sorrel, dwi yn 17 mlwydd oed ac yn byw yn Ne Cymru. Dwi’n astudio Theatr Gerdd lefel 3 yn Coleg Gwent. Dwi wedi bod yn siarad ac astudio trwy yr iaith Cymraeg ers i fi ddechrau yn yr ysgol, a pan nes i gyrraedd coleg o ni yn ofn colli’r iaith fel cymaint o bobl fi yn adnabod sydd wedi anghofio sut i siarad yr iaith yn gyfan gwbl oherwydd fod nhw wedi mynd i goleg Saesneg. Pan nes i ffeindio allan bod na ffordd i fi gario ymlaen siarad Cymraeg yn y coleg oeddwn i mor hapus.
 
Ers dechrau bod yn lysgennad dwi wedi cael llawer o brofiadau o ddefnyddio fy Nghymraeg yn y dosbarth a hefyd o gwmpas y coleg yn hyrwyddo’r iaith. Dwi hefyd wedi cael llawer o brofiadau gwych fel canu yn y Gymraeg yn y coleg. Dwi yn credu fod yr iaith wedi bod yn help mawr i fi yn enwedig yn ystod coleg oherwydd mae o wedi gadael i fi ffeindio ffyrdd gwahanol o fynegi fy hyn a ffeindio ffyrdd newydd o feddwl yn greadigol a sut all fwy o bethau bod yn fwy ‘accessible’ i bobl sydd yn siarad Cymraeg tu fewn i’r coleg.