Skip to main content Skip to footer
20 Ebrill 2023

Dathlu Eid gyda’n llysgennad ôl-radd, E’zzati Ariffin

ADD ALT HERE

Dewch i ni ddod i adnabod E’zzati ychydig yn well...  

Symudodd E’zzati Ariffin i Gymru yn 2013 o Frwnei er mwyn astudio gradd Cyfrifeg a Chyllid ym Mhrifysgol Aberystwyth.  Yn ystod ei chyfnod yno, cyfarfu â’i gŵr, Rhodri a phenderfynodd roi cynnig ar ddysgu’r Gymraeg. Bron i ddeng mlynedd yn ddiweddarach, mae E’zzati yn rhugl yn yr iaith, yn fam i Idris, ac erbyn hyn yn llysgennad ôl-radd y Coleg Cymraeg ac yn astudio M.A. mewn dwyieithedd ac amlieithrwydd. Gyda dathliadau’r ŵyl Islamaidd, Eid al-Fitr, ar y gorwel, mae E’zzati’n gyffrous i ddathlu gyda’i theulu yn ei chynefin yn Sir Gaerfyrddin. 

1. Eid Mubarak! Sut wyt ti’n mynd i ddathlu? 

Ni’n dathlu Eid al-Fitr ar ôl 30 neu 29 diwrnod o ymprydio yn ystod Ramadan. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr i wisgo’n smart, bwyta bwyd blasus a dathlu gyda fy nheulu! Rwy’n gyffrous eleni yn enwedig oherwydd mae fy rhieni yn dod draw o Frwnei i aros gyda ni. Hefyd mae cymuned fach o Fwslemiaid wedi ein gwahodd i ddathlu gyda nhw, felly rwy’n edrych ymlaen yn fawr at yr holl ddathliadau! 

2. Pa mor bwysig ydy Ramadan i ti? 

Mae Ramadan yn bwysig iawn i mi oherwydd mae’n gyfle i ganolbwyntio, deall a dysgu mwy am Islam.  

3. Disgrifia dy fagwraeth 

Ces fy magu yn Bandar Seri Begawan, prif ddinas Brwnei. Dw i’n dod o deulu mawr, mae gen i dri brawd ac un chwaer. Ces blentyndod hapus iawn yn chwarae tu fas bob amser achos roedd yr haul o hyd yn disgleirio! 

4. Wyt ti’n cael cyfle i fynd nôl i Frwnei yn aml? 

Ges i gyfle i fynd nôl i Frwnei amser yma llynedd i ddathlu Eid. Ond eleni, bydd fy rhieni yn dod draw i Gymru atom ni. 

5. Sawl iaith wyt ti’n medru siarad? 

Rwy’n siarad tair iaith yn aml: Cymraeg; Bruneieg a Saesneg!  

6. Pam oedd dysgu Cymraeg yn bwysig i ti? 

Dwi wedi dysgu Cymraeg ers chwe blynedd bellach. Un o’r prif resymau dros ddysgu’r iaith oedd oherwydd bod gen i blentyn sy’n siarad Cymraeg a dwi am fod yn enghraifft dda iddo fe.  

7. Beth wyt ti’n hoffi am ddiwylliant Cymru? 

Dwi’n hoffi dysgu am ddiwylliant Cymru a dathlu’r traddodiadau. Mae hanes Cymru a’r iaith yn ddiddorol iawn i mi, ac rwy’n mwynhau ymweld â chestyll.   

8. Beth wyt ti’n hoffi fwyaf am ddiwylliant Brwnei? 

Dwi’n hoffi diwylliant priodas ym Mrwnei. Hefyd mae traddodiadau yn bwysig iawn i ni, ac maent yn cael eu pasio o genhedlaeth i genhedlaeth. Mae’n wlad gymharol fach, ond mae saith grŵp brodorol gwahanol ym Mrwnei felly mae saith diwylliant gwahanol! 

 

 9. Beth sydd yn dy wneud yn hapus? 

Mae llawer o bethau yn fy ngwneud i’n hapus. Fy nheulu, ffrindiau, darllen, ysgrifennu, a hufen ia! 😊 

10. Pam oeddet ti am fod yn lysgennad ôl-radd y Coleg Cymraeg?

Fel llysgennad rwy’n annog pobl eraill i ddysgu Cymraeg ac i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg a rwyf yn frwdfrydig dros hynny. Hefyd mae bod yn lysgennad yn rhoi’r cyfle i fi gwrdd â phobl newydd a gwneud ffrindiau sydd hefyd yn astudio ôl-radd.  

11. Beth yw dy uchelgais i’r dyfodol?  

Gyda llawer o gefnogaeth dwi wedi ei dderbyn yn barod ac y parhau i dderbyn, dwi’n gobeithio astudio un o fy modiwlau drwy gyfrwng y Gymraeg. 

 

Ewch ar dudalen You Tube E’zzati i glywed hi’n defnyddio’i Chymraeg. Neges E’zzati ydy y gall bawb roi cynnig ar yr iaith, yn ogystal a mynd ati i astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.  

 

E'zzati ym Mrwnei