Helo, Alwena ydw i, a dwi’n gweithio fel Uwch-ddarlithydd Cyfrwng Cymraeg mewn Biofeddgaeth ym Mhrifysgol Abertawe, a dwi hefyd yn Arweinydd y Gymraeg yng Nghyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd y brifysgol.
Dwi wedi bod â diddordeb mewn gwyddoniaeth ers pan oeddwn yn ferch fach. Roeddwn wrth fy modd gydag anifeiliaid, edrych ar gerrig, a dysgu am y corff.
Cefais fy magu yn Llandrindod tan oeddwn i’n 9 oed a wedyn symudon ni i Lanymddyfri. Mae fy nhad yn Gymro di-Gymraeg ac roedd fy mam yn athrawes Gymraeg, felly roedd ein tŷ ni yn hollol ddwyieithog. Roeddwn wrth fy modd â’r gwersi gwyddoniaeth yn Ysgol Gyfun Pantycelyn yn Llanymddyfri. Rwy’n cofio bod ym mlwyddyn saith a gwneud cwis holiadur i ddarganfod fy ngyrfa ddelfrydol, a Biocemegydd a ymddangosodd yn y canlyniadau! Dyma oedd wedi tanio fy niddordeb i ddatblygu gyrfa yn y pwnc.
Ar ôl gadael yr ysgol, es i i Brifysgol Caerdydd yn 2002 i astudio gradd mewn Biocemeg gyda Biocemeg Feddygol. Yn draddodiadol, Saesneg oedd iaith y Gwyddorau ar y pryd felly doedd dim opsiwn i mi astudio’r Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg, ond wnes i ddim ystyried ar y pryd a oedd hynny’n deg ai peidio; roedd yn rhywbeth wnes i jyst derbyn. Roeddwn wrth fy modd â’r cwrs, yn gwneud arbrofion yn y labordai ac yn dod i adnabod pobl â’r un diddordeb â fi.
Ar ôl cyflawni doethuriaeth a gweithio fel gwyddonydd clinigol ac ymchwilydd ôl-radd am rai blynyddoedd, yn 2015 cefais swydd gyda’r Coleg Cymraeg a oedd yn cyllido a datblygu darlithwyr cyfrwng Cymraeg i addysgu a datblygu cyrsiau drwy gyfrwng y Gymraeg.
Roeddwn wrth fy modd yn achub ar y cyfle oherwydd do'n i byth wedi dychmygu gyrfa ble fydden i wedi gallu cyfuno gwyddoniaeth a’r Gymraeg. Erbyn hyn, mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi datblygu cyrsiau Biocemeg, Geneteg, Gwyddorau Meddygol Cynhwysol, Ffarmacoleg Meddygol ac Iechyd Poblogaethau yn ddwyieithog. Mae hyn wedi agor y drysau i fyfyrwyr i barhau i astudio’r Gwyddorau drwy gyfrwng y Gymraeg mewn prifysgolion, a rhoi’r sgiliau iddynt drafod y pwnc yn y ddwy iaith yn hyderus, cyn parhau â’u sgiliau yn y byd gwaith yn nes ymlaen.
Ers i mi gael plant fy hun, rwy’n teimlo'n llawer mwy angerddol dros yr iaith Gymraeg, ac yn ymfalchïo yn y posibiliadau a’r cyfleoedd dwyieithog sydd nawr ar gael nad oedd yn bodoli pan oeddwn i’n dechrau ar fy astudiaethau. Felly, fel rhan o fy ngwaith gyda’r Coleg Cymraeg, dwi’n cynnal gweithgareddau ar gyfer disgyblion ysgol gynradd a blynyddoedd 12 a 13 mewn ysgolion uwchradd er mwyn codi ymwybyddiaeth am y manteision o allu astudio a gweithio’n ddwyieithog.
Yn bersonol, dwi wedi gwireddu breuddwyd oherwydd pan on i’n ferch fach yn yr ysgol, feddylies i byth y byddwn i’n gallu dilyn gyrfa oedd yn cyfuno gwyddoniaeth a’r Gymraeg, ac erbyn hyn dwi’n medru gwneud hynny. Dwi’n teimlo mor falch fy mod i nawr yn gallu defnyddio fy sgiliau i feithrin y genhedlaeth nesa o wyddonwyr fydd yn medru gweithio’n ddwyieithog. Mae’n gyfnod hynod o gyffrous a dwi mor ddiolchgar i’r Coleg am gynnig y cyfleoedd hyn i mi a’r myfyrwyr sy’n elwa.
Gwyliwch Dr Alwena Morgan yn sôn am fanteision addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg.