Gyda chwmni ffasiwn enwog ‘Vogue’ wedi ei hysgrifennu ar ei CV, mae’n wir dweud fod Megan Davies sydd yn wreiddiol o Abertawe wedi cael profiadau eang a diddorol fel newyddiadurwr. Yn ogystal â gweithio i gwmni Vogue fel newyddiadurwr ffasiwn, erbyn hyn mae Megan yn gweithio fel newyddiadurwr aml blatfform i BBC Cymru. Ers cyflawni ei chwrs M.A. Newyddiaduraeth a Darlledu ym Mhrifysgol Caerdydd yn 2019, mae Megan wedi achub ar bob cyfle, ac yn ddiweddar rhannodd ei phrofiadau o weithio tramor fel newyddiadurwr yng nghyfres y Coleg Cymraeg, Newyddiaduraeth o Bedwar Ban Byd.
Gadewch i ni ddod i adnabod Megan ychydig yn well...
Disgrifia dy fagwraeth?
Ges i fy magu ym Mhontarddulais gyda Llyw, fy mrawd. Ges i fagwraeth hapus iawn. Roedd gwersi ballet, nofio, gemau'r Scarlets a chinio bob dydd Sul gyda fy nheulu yn llenwi fy niwrnodau.
Pa fath o blentyn oeddet ti yn yr ysgol?
Roeddwn i’n ferch fach gyda gwallt melyn oedd yn ceisio plesio pawb! Doeddwn i byth yn anghofio fy ngwaith cartref, yn gwirfoddoli i wneud popeth, ac ychydig yn annoying!
Rwyt ti’n rhugl yn Ffrangeg. O ble gododd y diddordeb i ddysgu’r iaith?
Pan es i’r ysgol uwchradd, roedd yr athrawes Ffrangeg yn hollol anhygoel. Mae'r fath angerdd yn heintus. Dwi wastad mor ddiolchgar i Anna Vivian Jones. Es i astudio Ffrangeg a Llenyddiaeth Saesneg ym Mhrifysgol Caerwysg cyn mynd ymlaen i gyflawni gradd M.A. mewn Newyddiaduraeth yng Nghaerdydd.
Beth oedd wedi dy ddenu i newyddiaduraeth?
O'n i wastad wedi caru ysgrifennu a siarad. Dwi ddim yn siŵr beth arall fyddwn i wedi gwneud i fod yn 'onest! Mae hi'n teimlo braidd yn ystrydebol i ddweud ond dwi wrth fy modd gyda straeon pobl, felly mae newyddiaduraeth yn siwtio i'r dim.
Sut gododd y cyfle i fynd i Ffrainc i weithio fel newyddiadurwr i Vogue?
Doedd y daith i Vogue Paris ddim yn un amlwg. Es i weithio ym Mharis yn 2016 ar gyfer cylchgrawn bwyd fel rhan o'r cynllun Erasmus. Ar ôl 3 mis gyda'r cwmni, ges i e-bost yn dweud bod y swyddfa yn newid a fy nghyfnod yn dod i ben. Wedi noswaith o grio lawr y ffon i Mam yn Abertawe, fe benderfynais hala cant a mil o geisiadau i gwmnïoedd amrywiol. Wedi wythnosau o aros, daeth Vogue Paris yn ôl. Nes i sefyll arholiad er mwyn profi safon fy Ffrangeg ac wedyn ges i e-bost yn cynnig cyfweliad.
Sut wnes di elwa o’r cyfle?
Ar lefel sylfaenol iawn, mae cael Vogue Paris ar dy CV yn eitha' cŵl. Ond ar lefel bersonol, roedd treulio amser mewn swyddfa fyd enwog yn gyfle i wireddu breuddwyd. Doedd y profiad ddim yn fel i gyd, wrth gwrs. Roedd yr oriau yn hir, y gwaith yn anodd a'r pwysau yn heriol. Er y blinder mawr, dwi'n falch iawn nes i fachu ar y cyfle.
Beth oeddet ti’n hoffi orau am fyw yno?
Mae byw ym Mharis fel byw mewn amgueddfa. Ti'n troi'r gornel a ma' na ddarn o gelf byd enwog yno neu ti'n gweld sêr y byd ffasiwn ar y Metro. Roedd yr holl beth mor gyffrous a swrrealaidd. Ond, wrth gwrs, weithiau ti'n dyheu am fod adre gyda dy deulu yn cael cinio dydd Sul. Dwi'n cofio bod yn dost yno a mam yn bygwth hedfan mas i edrych ar fy ôl i.
Pwy sydd yn dy ysbrydoli?
Fy nheulu. Fy ffrindiau. Anna Vivian Jones, fy athrawes Ffrangeg. Mishal Husain. Zadie Smith. Taylor Swift.
Beth yw’r wlad orau rwyt ti wedi teithio iddi?
Elounda, Ynys Creta, Groeg.
Beth yw dy uchelgais i’r dyfodol?
Dwi eisiau 'sgwennu nofel, mynd i'r Eidal, codi'n gynt y bore, dysgu gwneud dillad. Yn y gwaith, dwi eisiau cynhyrchu rhaglenni, creu podlediadau newydd a dod i 'nabod mwy o bobl.
Oes gen ti gyngor i rhywun sy’n ystyried gyrfa mewn newyddiaduraeth?
Mae'r byd newyddion yn ofnus ac yn galed ond os wyt ti'n troi lan ar amser, yn gweithio'n galed ac yn gwrtais, mae 'na siawns 'da ti. Os wyt ti'n methu'r tro cyntaf, trïa 'to. Os yw pethau'n flêr yn dy waith, cer i dy wely. A'r peth dwi'n trio cofio yn ddyddiol: dwyt ti ddim yn gorfod cael dy werth o dy waith. Mae bywyd tu hwnt i dy swyddfa.