Skip to main content Skip to footer
15 Tachwedd 2022

Dod i adnabod... Natalie Jones

ADD ALT HERE

Mae Natalie o dras Jamaicaidd ac fe symudodd gyda'i theulu i Bwllheli o Firmingham i fyw pan oedd hi'n 9 oed.  

Erbyn hyn, mae Natalie yn rhugl yn y Gymraeg, yn wraig, ac yn fam i ddau o fechgyn. Mae Natalie yn athrawes gyflenwi yng Ngorllewin Cymru, yn golofnydd cyson gyda chylchgrawn Golwg, ac yn cydweithio â Llywodraeth Cymru i greu cwricwlwm mwy cynhwysol. 

Bydd Natalie yn cyfrannu sesiwn ar gyfer 'Hunaniaethau: Cymreictod', sef cyfres newydd o sgyrsiau ar-lein a drefnir gan y Coleg Cymraeg a Phrifysgol Bangor i fynd i’r afael â hunaniaeth cenedlaethol o bersbectif amrywiol megis crefydd, hil, rhywedd, a LHDTC+ yng Nghymru. 

Mae ei sesiwn, ‘Mae yn fy DNA’, yn cael ei darlledu'n fyw ar 13 Hydref 18:00 ac ar gael i’w gwylio yma (bydd dolen ar gael o 15 Hydref) ar ôl ei darlledu.

Ond, yn y cyfamser, gadewch i ni ddod i adnabod Natalie ychydig yn well... 

 

  1. Disgrifia dy fagwraeth
    Ges i blentyndod Cristnogol iawn, ond hefyd un a oedd yn llawn cariad tuag at gerddoriaeth, bwyd a chwaraeon. Fi oedd yr hynaf o 5.   
  2. Pa fath o blentyn oeddet ti?
    O'n i’n dawel iawn mewn grwpiau mawr ond yn parablu siarad oherwydd nerfau gyda grwpiau bach, ac yn hoff iawn o ddarllen. 
  1. Beth oeddet ti eisiau bod pan oeddet ti'n hŷn?
    O'n i eisiau bod yn athrawes, nyrs neu ysgrifennydd. 
  1. Oes gen ti gyfrinach ti'n dal i'w chadw rhag dy fam? 😉
    Wnes i gael tro ar wneud cylchoedd mwg gyda sigarét. Dwi’n cofio poeni bod rhywun wedi cymryd llun ac y buasai Mam yn ei weld a meddwl fy mod i’n ysmygu.  
  1. Beth oedd dy argraff gyntaf o Gymru pan symudes di yma yn blentyn?
    Roedd hi mor dywyll a thawel yn y nos. O'n i wedi arfer mynd i'r gwely gyda goleuadau stryd, sŵn pobl yn siarad, miwsig, ceir.  Roedd hynny yn rhyfedd i ddechrau. 
  1. Oedd hi'n anodd ymgartrefu mewn lle hollol newydd?
    Ges i fy atgoffa yn aml fy mod i’n edrych yn wahanol. Yn enwedig sylwadau negyddol am fy ngwallt. Roedd llawer o bobl yn gofyn o ble o'n i’n dod a rhai yn syllu arna i a fy nheulu. Wnaeth hyn gael effaith wael ar fy iechyd meddwl. Ond, gwnaeth harddwch Cymru les i mi. A dechreuais i weithio yn Woolworths yn 14 oed a gwnaeth y staff fy helpu fi i gael yr hyder i siarad Cymraeg. Gwnaeth hyn fy helpu fi i deimlo'n rhan o’r gymuned. 
  1. Pwy sydd yn dy ysbrydoli?
    Fy nain, Kate. Mae hi’n gryf, yn hwylus ac wedi fy ngwthio fi i goelio yn fy hun. Mae hi wedi dathlu bob llwyddiant efo fi ac wedi bod yn gymorth os nad oedd pethau mor dda. Wnaeth hi adael Jamaica yn 21 oed am fywyd newydd ym Mhrydain. 
  1. Pwy fydde ti’n hoffi bod am 24 awr?
    Rhywun sy'n gallu canu! 
  1. Beth yw dy hoff gân karaoke?
    Pass the Dutchie ... 
  1. Beth sydd yn dy wneud yn grac?
    Pobl hunanol. 
  1. Beth sydd yn dy wneud yn hapus?
    Babis, caws a chreision, a reggae. 
  1. Sut wyt ti’n teimlo nawr bod y cwricwlwm newydd yn fwy cynhwysol, a pha wahaniaeth fydd hyn yn ei wneud?
    Mae addysgu am hanes pobl Ddu, Asiaidd, ac ethnig lleiafrifol i blant yn yr ysgol yn allweddol er mwyn addysgu plant bod eu hil, crefydd a’u cefndir mor bwysig â'i gilydd. Fel plentyn yn tyfu i fyny yng Nghymru, roeddwn i’n teimlo’n unig iawn oherwydd doedd neb yn deall pam oeddwn i’n edrych yn wahanol. O hyn ymlaen, pan fydd plant o gefndir lleiafrifol ethnig yn ymadael â’r ysgol, mawr obeithiaf y byddant yn teimlo eu bod yn perthyn i gymdeithas yng Nghymru. Hefyd, mae’r cwricwlwm newydd yn rhoi cyfle i bob plentyn yng Nghymru gael addysg mwy cyflawn a chywir.    
  1. Pa werthoedd gest ti gan dy rieni wyt ti’n eu pasio ymlaen i dy blant dy hun heddiw?
    I fod yn garedig i bobl eraill ac i weithio’n galed a gwneud ymdrech i gael y pethau ti eu heisiau. 

 

Gall unrhyw un ymuno ar-lein i wylio’r sgyrsiau ac i gymryd rhan yn y trafodaethau. Cliciwch yma am yr holl wybodaeth.