Skip to main content Skip to footer
29 Awst 2023

"Mae gwaith ymchwil cyfrwng Cymraeg yn gyfoethog a chymysg"

ADD ALT HERE

Llion Carbis, myfyriwr PhD yn Ysgol Newyddiaduraeth, Cyfathrebu a Diwylliant, Prifysgol Caerdydd yn adlewyrchu nol ar ei brofiadau yn cyflwyno yng Nghynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg a Chynhadledd WISERD ym Mhrifysgol Bangor.

Prin iawn yw’r profiadau sy’n cwmpasu diffyg isadeiledd Cymru yn well na threulio dros naw awr mewn deuddydd yn teithio ar drenau. I fwyafrif llethol o bobl, mae’r Haf yn dynodi diwedd y flwyddyn academaidd, heulwen a chyfle i orffwyso dros beint neu BBQ. Ond, i’r rheini sydd yn rhan o gylchoedd academaidd, mae’r Haf yn dynodi cyfnod pwysig yn y calendr – cynadleddau!

Fel myfyriwr PhD o dan nawdd y Coleg Cymraeg Cenedlaethol bues yn ffodus i dderbyn gwahoddiadau i gyflwyno yng nghynhadledd WISERD ym Mhrifysgol Bangor a chynhadledd ymchwil flynyddol y Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn y Llyfrgell Genedlaethol.

Cyfrannais at symposiwm ar wleidyddiaeth a Covid-19 ym Mhrifysgol Bangor, yn seiliedig ar fy ngwaith gyda’r Athro Stephen Cushion yn edrych ar sut y gohebir ar ddatganoli gan y cyfryngau ym Mhrydain ym misoedd cynnar y pandemig. Profiad gwerthfawr ydoedd i gyflwyno ymysg academyddion uchel eu parch a rhai sydd wedi cyflawni toreth o ymchwil allweddol ar hyd eu gyrfaoedd. Mewnwelediad gwych ydoedd i’r broses o gyflwyno ac esbonio arwyddocâd fy ymchwil, ynghyd â fy arfogi â phrofiad gwerthfawr fel darpar ddarlithydd.

Ar ôl fy ymweliad cyntaf erioed i Fangor – dw i’n gwybod, dw i ddim yn helpu diwygio’r ystrydeb o rai sydd wedi’u magu yng Nghaerdydd – roedd hi’n amser i ddychwelyd i Aberystwyth am y tro cyntaf mewn dros ddegawd ar gyfer Cynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.

Treuliais sawl Haf hapus (a gwlyb) yng Ngheredigion yn ystod fy mhlentyndod a chefais i dipyn o sioc cymaint roeddwn i’n cofio o’r dyddiau hapus wrth gyrraedd gorsaf drên Aberystwyth. Yn anffodus, yr hyn fe anghofiais i oedd pa mor heriol oedd cerdded lan y bryn i gyrraedd y Llyfrgell Genedlaethol, yn enwedig gyda bag drwm ar fy ysgwydd a’r glaw yn disgyn.

Dros y blynyddoedd diwethaf, mae adfywiad y Gymraeg - yn enwedig ymysg y to ifanc -wedi’i phriodoli i’r sin cerddorol, yn enwedig gyda chymaint o fandiau newydd, sy’n perfformio’n wych yn fyw. Ond yr hyn a darodd fi yn Aberystwyth oedd clywed pa mor gyfoethog a chymysg oedd gwaith academaidd trwy’r Gymraeg.

Fel cyflwynydd olaf y diwrnod, pleser ydoedd i gael eistedd nôl, traed lan, a gwrando ar y llu o waith ymchwil hanfodol oedd yn cael eu cynnal neu eu cyflwyno drwy gyfrwng y Gymraeg. Rhaid i mi gyfaddef, fel un sy’n glynu’n dynn at y dyniaethau, doeddwn i ddim yn deall sawl agwedd o’r cyflwyniadau gwyddonol – ond pob tegwch i’r cyflwynwyr am esbonio cysyniadau a phrosesau cymhleth mewn modd mor ddealladwy a hygyrch.

Cefais cymaint o hwyl yn cyflwyno fy ymchwil ar ddatblygiad YesCymru a thwf cynyddol annibyniaeth i Gymru yn seiliedig ar fy nhraethawd hir MA. Doeddwn i ddim yn disgwyl un o gyd-sylfaenwyr y mudiad i fod yn bresennol yn ystod y cyflwyniad, ond llwyddodd i ychwanegu at hwyl a hiwmor y cyflwyniad. Yn wir, mwynheais y profiad yn fawr, a dw i’n edrych ymlaen at gynhadledd ymchwil flwyddyn nesaf yn barod – gan obeithio bydd yr haul yn gwenu!

Gallwch wylio cyflwyniad Llion a chyflwynwyr eraill y Gynhadledd Ymchwil yma