Cafodd Dr Seren Evans ei geni a’i magu yn y Bala ac yn ystod ei hamser yn y chweched dosbarth, roedd hi’n mwynhau chwarae rygbi i’r tîm lleol.
Ond bu’n rhaid iddi roi’r gorau iddi ar ôl profi anafiadau cyson, a dyna pryd y dechreuodd ei diddordeb mewn ‘trwsio’ pobl.
Aeth Seren i Brifysgol Bangor i wneud gradd mewn Gwyddorau Chwaraeon, gyda’r nod yn y pendraw o fod yn ffisiotherapydd chwaraeon.
Cawsom air gyda Seren yn ddiweddar ar ôl iddi dderbyn tystysgrif am gyflawni doethuriaeth dan nawdd y Coleg Cymraeg ar anafiadau o fewn rygbi’r Undeb.
“Dw i wedi bod â diddordeb mawr mewn rygbi erioed, ac wedi cael cyfnod yn chwarae, er fy mod wedi fy anafu yn amlach na pheidio! Pan es i’r brifysgol i wneud fy ngradd, mi fues i yn ddigon ffodus i dreulio blynyddoedd yn gweithio gyda thîm Rygbi Gogledd Cymru ar ochr y cae.
“Roeddwn yn ymwybodol nad oedd llawer o ymchwil wedi ei wneud ar chwaraewyr semi-broffesiynol, er ei fod yn gam pwysig i’r rhai sy’n symud o chwarae yn y gymuned i chwarae yn broffesiynol.
“Roedd gen i hefyd ddiddordeb mawr i ymchwilio i’r anafiadau sydd yn digwydd ar y cae, yn enwedig yr anafiadau digyswllt - hynny ydy, y rhai oedd yn digwydd heb gyswllt gydag unrhyw un arall, ac yn debygol o gael eu hatal os yn eu dal yn ddigon buan.
“Felly’r peth cyntaf oedd angen i mi wneud oedd arsylwi, dros bedair blynedd, yr holl anafiadau oedd yn digwydd o fewn y tîm. Nes i ddarganfod fod nifer yr anafiadau yn y gêm semi broffesiynol yn cyfateb i’r rhai yn y gêm broffesiynol a bod angen gwneud mwy i warchod y chwaraewyr yma yn well.
“Yn ail ran yr ymchwil, mi fues i yn edrych ar sut mae hyfforddi o flaen llaw cyn i’r tymor ddechrau (preseason) yn gallu effeithio ar ba mor debygol ydy chwaraewr o gael anaf digyswllt ar y cae yn ystod y tymor ei hun.
“Roeddwn yn gwybod fod hyfforddiant cyn i’r tymor ddechrau yn cyflyru chwaraewyr ac yn eu paratoi ar gyfer y gemau ond doedd dim ymchwil yn dweud ei fod yn atal anafiadau.
“A beth wnaethom ni ei ddarganfod yn ystod fy ngwaith oedd eich bod bedair gwaith yn fwy tebygol o gael anaf digyswllt yn ystod y tymor os nad oeddech wedi hyfforddi digon cyn i’r tymor ddechrau.
“Yna, trwy greu model ‘adnabod patrwm’ gan ddefnyddio deallusrwydd artiffisial (artificial intelligence), llwyddom hefyd i ddarganfod mai un o’r elfennau oedd yn gallu arwain at anaf digyswllt, yn benodol y ffêr, mewn chwaraewyr oedd os oeddynt wedi cael cyfergyd (concussion) yn y gorffennol.
“Os nad ydym ni yn adfer y chwaraewyr yn ddigon da ar ôl cael anaf i’r pen - yna rydym yn tybio y bydd balans, y cydsymud ac unrhyw anafiadau eraill dan yr wyneb yn effeithio ar berfformiad ar y cae ac yn gallu arwain at anaf digyswllt.”
Ar hyn o bryd mae Seren yn Ddarlithydd Cysylltiol y Coleg Cymraeg ym maes Gwyddorau Chwaraeon ym Mhrifysgol Bangor, ac mae hi’n ddiolchgar iawn am y cyfleoedd mae wedi eu derbyn trwy astudio trwy gyfrwng y Gymraeg. Meddai:
“Roedd gwneud ymchwil ar anafiadau o fewn rygbi’r Undeb yn ystod Covid yn heriol, ond bues i’n lwcus o’r gefnogaeth a dderbyniais gan y Coleg a arweiniodd at gyfleoedd nad oeddwn erioed wedi’u dychmygu. Erbyn hyn rwy’n Ymchwilydd Cysylltiol efo World Rugby, ac yn fy misoedd olaf o astudio cwrs Ffisiotherapi. Rwy’n edrych ymlaen at barhau gyda’r darlithio, ymchwilio, ac i fod yn ffisiotherapydd yn y dyfodol agos!”
Derbyniodd Dr Seren Evans ei thystysgrif am gyflawni ei doethuriaeth dan nawdd y Coleg yng Nghynulliad Blynyddol y Coleg Cymraeg ar yr 19 o Fawrth, 2024. Ewch i sianel You Tube y Coleg i wylio’r seremoni.