Skip to main content Skip to footer
17 Ebrill 2024

“Pwysigrwydd yr Iaith Gymraeg i mi fel unigolyn sydd yn astudio cwrs Gofal Plant: Emily Desmond, Coleg Ceredigion Aberystwyth”

ADD ALT HERE

Helo Shwmae, Emily yw fy enw i a dw i’n astudio Gofal Plant Lefel 3 yng Ngholeg Ceredigion Aberystwyth. Yn benodol, cwrs cyfrwng Cymraeg ydyw, gyda safon uwch o ddwyieithrwydd yn dod mewn yn gryf iawn gan ei fod yn hanfodol i ni fel unigolion o dan y cwricwlwm newydd gael ein haddysgu’n ddwyieithog.

Fel rhan o'r cwrs gofal plant, mae disgwyl i ni ddysgu nifer o unedau sydd yn bendant yn rhan hanfodol o stori ddysgu plentyn, ac yn hanfodol i ni ar gyfer dyfodol yn y sector.  Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â datblygiad plant, iechyd a diogelwch, rheoli ymddygiad, technegau addysg gynnar, a mwy.  Mae’n darparu'r arbenigedd sylfaenol sydd ei angen i greu amgylchedd diogel, sydd yn annog plant, ac yn sicrhau eu lles a'u datblygiad cyfannol.  Teimlaf fod y cwrs yn fy mharatoi ar gyfer gyrfa yn y sector plentyndod cynnar.
Yn amlwg, mae gan bawb eu hoff agweddau ar wahanol bethau, ac ar y cwrs hwn fy hoff agwedd yw'r ffaith bod fy nhiwtoriaid dosbarth yn siarad Cymraeg ac yn cyflwyno'r gwaith yn Gymraeg.  Mae'r cwrs yn fy ngalluogi i fynd â gwybodaeth theori i mewn i leoliad, ac mae gweld y canlyniadau yn gallu bod yn wych.  Mae'r cwrs wedi rhoi amrywiaeth o brofiadau hyfryd i mi.  Un o fy hoff brofiadau hyd yn hyn oedd y cyfle i fynd ar daith dosbarth ychydig wythnosau yn ôl i ysgol bywyd gwyllt leol.  Roedd bod yn yr awyr agored ac archwilio o safbwynt plentyn yn eithriadol.  Fe ddysgais i ffyrdd gwahanol o sut i greu gweithgareddau hwylus yn yr awyr agored gan ddefnyddio deunyddiau, megis darn o frigyn gyda glanhawyr peipiau a chlychau o’i gwmpas i greu cloch Nadolig ar gyfer y cyngerdd.  Roedd y cysyniad mor syml ond effeithiol ac roedd hwn yn rhan fuddiol o’r cwrs wrth i ni ddysgu sgiliau newydd i'w rhoi ar waith yn y lleoliad.

Yn ogystal ag astudio’r cwrs hwn, dw i hefyd yn mynychu lleoliad profiad gwaith mewn ysgol leol bob yn ail wythnos, sydd yn brofiad anhygoel.  Lleoliad cyfrwng Cymraeg ydyw sydd yn bendant yn gadarnhaol i mi fy hun fel siaradwr Cymraeg rhugl.  Mae mynychu lleoliad Cymraeg yn golygu fy mod yn cael mwy o gyfleoedd yn y lleoliad a dw i’n gallu ymgysylltu a chyfathrebu â phob unigolyn oherwydd bod safon eu Cymraeg yn uchel iawn.  Teimlaf fod defnyddio'r Gymraeg yn y lleoliad yn fy ngalluogi i feithrin perthnasoedd cryf gyda staff, plant a theuluoedd.  Mae’r lleoliad fel arfer yn 6 awr neu fwy y dydd gan ddibynnu ar amserlen a digwyddiadau’r ysgol. Mae’r amser hwn yn rhoi’r dealltwriaeth a’r pwysigrwydd gorau i mi fel unigolyn o’r byd go iawn yn y sector gofal plant.  Mae hyn wedi datblygu fy hyder a’m sgiliau yn fawr, ac mae’n gyfle i mi fel unigolyn fynegi fy hun a fy nysgu yn well.

Mae lleoliadau gofal plant yn cynnig profiadau ymarferol i ni fel myfyrwyr sydd yn cefnogi datblygiad pellach.  Mae'n rhoi'r cyfle i ni ddeall sut mae plant yn datblygu mewn sawl ffordd, ond yr un mwyaf effeithiol dw i wedi dod ar ei draws, yw darparu profiad uniongyrchol o weithio gyda phlant, gan gymhwyso gwybodaeth ddamcaniaethol mewn sefyllfaoedd go iawn.

Ydych chi wedi ystyried beth yw pwysigrwydd yr iaith Gymraeg wrth weithio gyda phlant?  Mae'r Gymraeg wrth weithio gyda phlant yn hynod o bwysig.  Yn fy lleoliad i, dw i'n gweithio gyda phlant 3-5 oed.  Mae’r gallu i gyfathrebu a chynnal addysg yn y Gymraeg i unigolion mor fach yn sgil dw i'n ffodus iawn ohono. Mae'r iaith Gymraeg yn cael ei gwerthfawrogi’n fawr iawn ac mae’n rhan hanfodol o ddatblygiad plentyn, yn enwedig yng Ngheredigion. 

Dw i wedi darganfod yn fy lleoliad bod y Gymraeg yn cael ei defnyddio i lefel uchel drwy gyfathrebu, dysgu a chwarae a’i bod yn iaith fuddiol gan fod cymaint o brofiadau ar gael. Yn amlwg, mae pob unigolyn yn wahanol o ran lefel eu Cymraeg llafar, ond mae pob unigolyn yn datblygu ei sgiliau yn wythnosol sy’n hybu ac yn ymgysylltu â’r iaith yn fwy ac yn rhoi hwb i hyder y plant heb fod yn rhwystr.

Yn ogystal â defnyddio’r Gymraeg yn y dosbarth a’r lleoliad, mae hefyd agweddau cymdeithasol y coleg yn bwysig!  Mae yna ystafell ymneilltuo ar y campws, lle gallwn ni fel myfyrwyr fynd i eistedd ar y soffa ac ymlacio.  Yn bendant mae ganddi'r pethau cadarnhaol gan ein bod yn gallu mynd allan o'r ystafell ddosbarth a bod mewn amgylchedd gwahanol.  Mae'r Gymraeg yn cael ei defnyddio'n naturiol trwy sgwrsio a gwrando ar gerddoriaeth a dw i bob amser yn clywed cân Gymraeg yn chwarae.

Yn bersonol, mae’r iaith Gymraeg wedi rhoi llawer o gyfleoedd i mi yn fy mywyd ac ar hyn o bryd mae'n rhoi'r cyfle i mi ddysgu ac annog eraill i ddysgu Cymraeg.  Beth am astudio trwy gyfrwng y Gymraeg?  Beth sydd i’w golli? Ewch amdani!