Skip to main content Skip to footer
2 Hydref 2023

“Doedd dim son am fis Hanes Pobl Du yn Alabama achos mae nhw’n llawer gwell na ni am ddathlu eu hanes trwy gydol y flwyddyn.”

ADD ALT HERE

Emily Pemberton, Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg sy’n adlewyrchu ar ei thaith i Alabama fel rhan o ymgyrch Neges Heddwch ac Ewyllys Da Urdd Gobaith Cymru.

Mae hiliaeth yn bodoli yng Nghymru, ac mae 2020 yn cael ei hadnabod fel y flwyddyn y gwnaeth pawb ddeffro i hynny. Ond drigain mlynedd yn ôl, yn 1963, cafwyd gweithred arbennig o solidariaeth gan bobl Cymru mewn ymateb i ymosodiad hiliol yn Alabama. Ar y cyfan mae’r weithred wedi ei anghofio, ond diolch i'r Urdd, mae cyfle i ni gofio amdano a nawr mae angen i ni ddysgu ohono.

Yn ddiweddar dychwelais o daith arbennig i Alabama gydag Urdd Gobaith Cymru ble cefais brofiadau fydd yn aros gyda fi am byth.

Dechreuodd fy ngwaith gyda'r Urdd ar ddechrau’r flwyddyn pan gefais y cyfle i gyd-weithio ar ei Neges Heddwch ac Ewyllys Da. Y neges eleni oedd gwrth-hiliaeth, a fydd unrhyw un sy’n fy nabod yn tystio bod hwn yn achos dwi’n frwdfrydig iawn drosto. Pwrpas y Neges yw ymarfer egwyddorion o wrth-hiliaeth ymhob man - galw allan geiriau o gasineb, stereoteipio, a rhagfarnau. Dyma oedd neges pobl ifanc Cymru i’r byd y flwyddyn hon. Mae’r neges hefyd yn adlewyrchu ethos fy rôl i fel Cydlynydd Cydraddoldeb, Amrywiaeth a Gwrth-hiliaeth y Coleg Cymraeg. Roedd yn fraint felly i dderbyn gwahoddiad gan yr Urdd i fynd i Alabama gyda chriw o Gymry ym mis Medi i ddysgu mwy am ddigwyddiadau mawr yn hanes Mudiad Hawliau Sifil America a chael fy ysbrydoli.

 

Doeddwn i ddim yn siŵr beth i ddisgwyl o ran y daith. Cefais restr o amseroedd a lleoliadau wedi rhannu rhwng Birmingham a Montgomery (sef prifddinas y dalaith) ac roedd yr wythnos yn jam-packed, ond yn y ffordd gorau posib. Ar y diwrnod cyntaf aethom i Gaston Motel, lle buodd Dr Martin Luther King a’i gyd-weithwyr yn trefnu protestiadau a oedd yn gysylltiedig â’r Mudiad Hawliau Sifil wrth iddynt deithio trwy Birmingham, Alabama. Roedd gan Birmingham rôl benodol yn y Mudiad Hawliau Sifil - nid oedd yn debyg i ddinasoedd eraill yn America. Derbyniodd Birmingham y llysenw ‘Bombing-ham’ am gyfnod, ac roedd yn cael ei hadnabod fel y ddinas fwyaf gwahanedig yn yr Unol Daleithiau. Meddylfryd  arweinwyr y Mudiad Hawliau Sifil oedd: os ydym yn medru llwyddo yn Birmingham, gallwn lwyddo yn unrhyw le.

A dyma lle ddysgon ni am y drychineb hiliol chwedeg mlynedd yn ôl ar Fedi 15, 1963 - y prif reswm tu ôl taith yr Urdd i Alabama. Yn ôl llygad dyst yno, nid oedd bom yn ffrwydro yn Birmingham yn dod fel sioc i’r trigolion erbyn 1963 - roedd ffrwydradau yn digwydd yn gyson. Ond 18 o ddiwrnodau yn dilyn araith ‘Mae Gen i Freuddwyd’ Dr Martin Luther King yn Washington D.C. - pan deimlodd nifer o bobl obaith, cafodd Addie Mae Collins, Cynthia Wesley, Carole Robertson a Denise McNair eu lladd gan fom a osodwyd gan y Ku Klux Klan yn Eglwys y Bedyddwyr, 16th Street.

Mae’r Eglwys erbyn hyn wedi ei ail-adeiladu, ac mae’n glir bod hanes yr Eglwys yn bwysig i bob person sy’n cerdded trwy’r drws. Fe ddaeth pobl a phlant Cymru, dan arweiniad John Petts o Lansteffan, at ei gilydd er mwyn danfon rhodd i’r Eglwys - mewn ffurf ffenestr newydd - un sydd yn portreadu Crist Du, yn gwthio casineb oddi wrtho, ac sydd yn agor ei law i faddeuant. Mae’r “Wales Window” yn bwysig i’r Eglwys fel gweithred o solidariaeth gan bobl Cymru yn dilyn y ffrwydrad.

Mae’r geiriau ar waelod y ffenest yn darllen: “You do it to me” sy’n dod o Matthew 25:40 yn y Beibl: “as you did it to one of the least of these my brothers, you did it to me!” (Yn y Gymraeg: A bydd y Brenin yn eu hateb, ‘Yn wir, rwy'n dweud wrthych, yn gymaint ag ichwi ei wneud i un o'r lleiaf o'r rhain, fy nghymrodyr, i mi y gwnaethoch.’)

Mae’r ffenestr yn sefyll ym mlaen yr Eglwys, fel darn o gelf eiconig ddaeth allan o’r trasiedi gwaethaf gall unrhyw un ddychmygu.

Roeddwn ni, dan arweiniad yr Urdd, wedi teithio i nifer o lefydd gan gynnwys Prifysgol Alabama yn Birmingham, Miles College (sef HBC – Historically Black College), Y Legacy Museum, a thŷ Rosa Parks hyd yn oed. Roeddwn i’n teimlo fel fy mod yng nghanol gwers hanes fyw, ond mae’n rhaid i ni gofio nid oedd y cyfnod mor bell yn ôl a hynny – fe gwrddom â phobl oedd yn cofio’r cyfnod ac wedi bod yn gorymdeithio efo Dr King fel plant.

Er bod nifer o bethau wedi gwella, mae cyfiawnder yn weithred, ac mae’n rhaid sicrhau bod y gwelliannau rydym wedi gweld yn symud ymlaen bob tro.

Er roedd y daith yn anodd ac emosiynol iawn ar adegau, roedd hefyd yn un llawn cyfeillgarwch a chwerthin. Mae’n sicr byddai byth yn anghofio’r nosweithiau ar ôl diwrnod o waith yn trafod beth ddigwyddodd dros bowlen o waffle fries. Dwi wir methu egluro pa mor ddiolchgar ydw i i’r Urdd am yr atgofion a’r profiad.

Yng Nghymru, er bod y cyd-destun yn wahanol iawn, mae gennym yr un problemau o ran hiliaeth. Mae’n addawol bod ffocws wedi bod ar y weithred o solidariaeth daeth allan o drychineb 1963. Nawr mae angen ail-ffocysu ar yr hyn sydd angen i ni ei wneud yma er mwyn adeiladu Cymru decach. Er bod nifer o bethau wedi gwella, mae cyfiawnder yn weithred, ac mae’n rhaid sicrhau bod y gwelliannau rydym wedi gweld yn symud ymlaen bob tro.

Mae mis Hydref yn fis Hanes Pobl Du, ond mae’r daith wedi atgyfnerthu’r pwysigrwydd i gofio trwy gydol y flwyddyn. Fe ddysgodd y daith imi fod Cymru fel cenedl yn dda wrth ymestyn solidariaeth i eraill, ond mae gennym gyfrifoldeb i ddangos hynny i’n gilydd hefyd, bob dydd.

Ond beth nesaf i mi? Efallai mae’n swnio bach yn cliché ond fel roeddwn i’n disgwyl, roedd y daith wedi ail-ysgogi rhywbeth ynof fi o ran fy ngwaith i sicrhau bod pobl Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig ddim yn wynebu’r un heriau o un genhedlaeth i’r llall. Mae angen bod yn weithgar er mwyn cael gwelliant. Yn amlwg os byswn i’n gallu troi’r cloc yn ôl bydden i’n gwneud y daith eto, ond tan fy mod i’n cael y cyfle i fynd nôl, bydd angen i fi sicrhau fy mod i’n defnyddio fy ngwybodaeth newydd yn fy ngwaith bob-dydd er mwyn gweithio tuag at Gymru decach i bawb.