Bydd Celf a Dylunio ar y MAP 2024 yn cael ei gynnal eleni yn Theatr Volcano, Abertawe ar 28 a 29 Chwefror, 2024
Croesawir myfyrwyr israddedig Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg o brifysgolion De Cymru, Y Drindod Dewi Sant, MET Caerdydd a Choleg Sir Gâr.
Bydd yr ŵyl yn cynnwys:
- dosbarthiadau meistr a chyflwyniadau gan artistiaid a dylunwyr proffesiynol
- cyfleoedd i greu gwaith celf
- ymweliadau â lleoliadau celfyddydol (orielau ac amgueddfeydd yn Abertawe)
- cyfleoedd arbennig i gymdeithasu a rhwydweithio.
Mae'r ŵyl am ddim, a bydd cludiant, llety a bwyd yn cael eu darparu. Archebwch eich lle cyn 9fed Chwefror.