Skip to main content Skip to footer
Mân lun celf a dyunio ar y map 2024

Celf a Dylunio ar y MAP 2024

Dydd Mercher, 28 Chwefror 2024 - Dydd Iau, 29 Chwefror 2024
Mân lun celf a dyunio ar y map 2024

Bydd Celf a Dylunio ar y MAP 2024 yn cael ei gynnal eleni yn Theatr Volcano, Abertawe ar 28 a 29 Chwefror, 2024

Croesawir myfyrwyr israddedig Celf a Dylunio cyfrwng Cymraeg o brifysgolion De Cymru, Y Drindod Dewi Sant, MET Caerdydd a Choleg Sir Gâr. 

Bydd yr ŵyl yn cynnwys:

  • dosbarthiadau meistr a chyflwyniadau gan artistiaid a dylunwyr proffesiynol
  • cyfleoedd i greu gwaith celf
  • ymweliadau â lleoliadau celfyddydol (orielau ac amgueddfeydd yn Abertawe)
  • cyfleoedd arbennig i gymdeithasu a rhwydweithio.

Mae'r ŵyl am ddim, a bydd cludiant, llety a bwyd yn cael eu darparu. Archebwch eich lle cyn 9fed Chwefror.