DYDDIAD: 01/05/2024
LLEOLIAD: Prifysgol Metropolitan Caerdydd
Bydd y cwrs hwn dan ofal Dyddgu Hywel o fudd i unrhyw fyfyriwr sy’n cyflawni rhywfaint o ddyletswyddau addysgu neu ddarlithio wrth astudio ar gyfer gradd uwchraddedig.
AMCANION Y GWEITHDY
- Datblygu eich gwybodaeth am y pwnc y byddwch yn ei ddysgu;
- Cyflwyniad i theori sy'n sail i ddysgu ac arferion addysgu;
- Gwybodaeth sefydliadol: safonau a rheoliadau, rheolau ac arferion, normau a gwerthoedd.
CYNNWYS
Rhan 1: Dysgu ac Addysgu
- Deall rhinweddau personol tiwtor da;
- Deall canfyddiadau myfyrwyr o diwtor da;
- Deall y sgiliau cyfathrebu allweddol sydd eu hangen ar diwtor da;
- Dysgu'r sgiliau allweddol sy'n ymwneud â chynllunio gwaith addysgu;
- Dysgu'r amrywiaeth o sgiliau cwestiynu sy'n hwyluso'r broses addysgu.
Rhan 2: Gwaith grŵp ac asesu
- Dod yn gyfarwydd ag amrywiaeth o ddulliau addysgu gyda grwpiau bach;
- Dod i ddeall rhai egwyddorion allweddol sy'n ymwneud ag asesu.
Cofrestra drwy'r ddolen isod erbyn 17 Ebrill 2024