Skip to main content Skip to footer
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Cwrs sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd (1/4)

Dydd Mercher, 16 Hydref 2024 - Dydd Iau, 17 Hydref 2024
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Dyddiad: 16–17 Hydref 2024

Lleoliad: Aberystwyth

Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.

Cofrestra drwy'r gwblhau'r ffurlfen isod.

 

Gweithdai'r cwrs: 

Cyflwyniad i ymchwil - Dr Elin Royles

Cyflwyniad i wneud gwaith ymchwil doethuriaethol. Yn ystod y gweithdy bydd cyfle i drafod rhai o’ch disgwyliadau am eich gwaith ymchwil a chwestiynau sy’n codi am 3-4 blynedd nesaf eich bywyd.

 

Dod o hyd i wybodaeth - Non Jones a Dr Lloyd Roderick

Bwriad y sesiwn yw cyflwyno’r ystod eang o ffynonellau sydd ar gael i ymchwilwyr ar draws y gwahanol feysydd academaidd. Bydd trafodaeth ar sut i fynd ati i werthuso'r wybodaeth, i rannu arferion da, ac edrych ar strategaethau chwilio.

 

Hawlfraint ac eiddo deallusol - Dr Dafydd Tudur

Amcanion y gweithdy hwn yw datblygu ymwybyddiaeth o hawlfraint, ystyried rôl yr awdur, y cyhoeddwr ac ambell asiantaeth yn y gwaith o warchod hawlfraint, cynnig ffyrdd o weithredu’n gyfreithlon wrth greu gwaith i’w gyhoeddi, ac ystyried goblygiadau hawlfraint ym maes dysgu ac arholiadau.

 

Taith a chyflwyniad i’r Llyfrgell Genedlaethol

Cyflwyniad i’r Llyfrgell, a thaith dywys o amgylch yr adeilad.

 

Rheoli’ch goruchwyliwr - Dr Hanna Binks

Yn ystod y gweithdy trafodir sut i feithrin perthynas dda â’ch goruchwyliwr o’r cychwyn, a sut allwch chi gael y gorau o’r berthynas oruchwylio.

 

Llunio adolygiad o’r llenyddiaeth - Dr Andrew James Davies

Bydd y sesiwn yn ystyried pwrpas a rôl adolygiadau o fewn prosiectau ymchwil, yn trafod meini prawf cynnwys deunydd, amlinellu dulliau chwilota, ac yn edrych ar sut i ddidoli, trefnu a chydblethu casgliadau sy’n deillio o’ch adolygiad o’r llenyddiaeth.

 

Dulliau ymchwil yn y gwyddorau - yr Athro Huw Morgan

Amcanion y gweithdy hwn yw codi ymwybyddiaeth o'r elfennau sy'n arwain at lwyddiant mewn gyrfa ymchwil, darparu gwybodaeth a fydd yn hwyluso'r broses o gyhoeddi eich ymchwil , a chynyddu eich hyder i drafod a chyflwyno eich gwaith i'ch cyfoedion neu yn gyhoeddus.

 

Dulliau ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau - Dr Rhian Hodges

Trafodir cysyniadau allweddol ym maes dulliau ymchwil a’r camau allweddol wrth greu cynllun ymchwil, megis pwrpas ymchwil gymdeithasol, persbectifau, strategaethau a chwestiynau ymchwil, a dadansoddi a dehongli data.

 

Cynllunio a chyflwyno posteri ymchwil - Dr Hywel Griffiths

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn debygol o fod yn cyflwyno poster ymchwil mewn cynhadledd yn ystod y blynyddoedd nesaf ac sydd eisiau dysgu mwy am gyflwyno ymchwil mewn dull effeithiol a deniadol.