Skip to main content Skip to footer
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Cwrs sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd (1/4)

Dydd Mawrth, 14 Hydref 2025 - Dydd Mercher, 15 Hydref 2025
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Dyddiad: 14–15 Hydref 2025

Lleoliad: Aberystwyth

Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.

 

Gweithdai'r cwrs: 

Cyflwyniad i ymchwil - Dr Elin Royles

Cyflwyniad i wneud gwaith ymchwil doethuriaethol. Yn ystod y gweithdy bydd cyfle i drafod rhai o’ch disgwyliadau am eich gwaith ymchwil a chwestiynau sy’n codi am 3-4 blynedd nesaf eich bywyd.

 

Rheoli’ch goruchwyliwr - Dr Hanna Binks a Gwenllian Jenkins 

Yn ystod y gweithdy trafodir sut i feithrin perthynas dda â’ch goruchwyliwr o’r cychwyn, a sut allwch chi gael y gorau o’r berthynas oruchwylio.

 

Dulliau ymchwil yn y gwyddorau - yr Athro Huw Morgan

Amcanion y gweithdy hwn yw codi ymwybyddiaeth o'r elfennau sy'n arwain at lwyddiant mewn gyrfa ymchwil, darparu gwybodaeth a fydd yn hwyluso'r broses o gyhoeddi eich ymchwil , a chynyddu eich hyder i drafod a chyflwyno eich gwaith i'ch cyfoedion neu yn gyhoeddus.

 

Dulliau ymchwil yn y celfyddydau a’r dyniaethau - Dr Sian Lloyd-Williams 

Trafodir gwahanol ddulliau ansoddol a meintiol a ddefnyddir yn y celfyddydau a'r dyniaethau, a'u manteisio ac anfanteision, gan ganolbwyntio yn bennaf ar holiaduron, grwpiau ffocws a chyfweliadau. Rhoddir sylw hefyd i samplu, dadansoddi'r data, sut i lunio cwestiynau addas, a thrawsgrifio. 

 

Cynllunio a chyflwyno posteri ymchwil - Ellis Evan Jones 

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn debygol o fod yn cyflwyno poster ymchwil mewn cynhadledd yn ystod y blynyddoedd nesaf ac sydd eisiau dysgu mwy am gyflwyno ymchwil mewn dull effeithiol a deniadol.

 

Moeseg ymchwil - Dr Tamsin Davies

Bydd y gweithdy hwn yn sicrhau bod myfyrwyr ôl-radd yn deall y safonau academaidd a phroffesiynol wrth gynllunio a chynnal ymchwil. Bydd yn cynnwys pynciau fel uniondeb academaidd, trin data’n gyfrifol a chydsyniad moesegol gan gyfranogwyr.

 

Cyflwyniad a thaith - y Llyfrgell Genedlaethol

Cyn mynd ar daith dywys o amgylch yr adeilad, cyflwynir yr ystod eang o ffynonellau sydd ar gael i ymchwilwyr ar draws y gwahanol feysydd academaidd. Bydd trafodaeth ar sut i fynd ati i werthuso'r wybodaeth, i rannu arferion da, ac edrych ar strategaethau chwilio.

 

Llunio adolygiad o’r llenyddiaeth - Dr Andrew James Davies

Bydd y sesiwn yn ystyried pwrpas a rôl adolygiadau o fewn prosiectau ymchwil, yn trafod meini prawf cynnwys deunydd, amlinellu dulliau chwilota, ac yn edrych ar sut i ddidoli, trefnu a chydblethu casgliadau sy’n deillio o’ch adolygiad o’r llenyddiaeth.

 

Bydd y ffurflen gofrestru ar y dudalen hon yn fuan.