Dyddiad: 12 –13 Tachwedd 2025
Lleoliad: Bangor
Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.
Gweithdai'r cwrs:
Rhoi graen ar eich gwaith - Dr Leila Griffiths
Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr ymchwil sy’n dymuno archwilio dulliau o fireinio, golygu a phrawf-ddarllen eu gwaith ysgrifenedig. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn ymwybodol o wahanol strategaethau a thechnegau i’w defnyddio wrth olygu a phrawf-ddarllen, yn medru adnabod eich gwallau cyffredin er mwyn eu canfod a’u datrys ar gyfer tro nesaf, ac yn medru rhoi trefn ar eich syniadau drwy ddefnyddio gwahanol dechnegau.
Rheoli amser a phwysau gwaith - Mari Ellis Roberts
Nod y gweithdy hwn yw ceisio newid o leiaf un arfer drwg sy’n effeithio ar eich gallu i reoli amser. Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn gallu adnabod problemau a chynhyrchu rhaglen weithredu, adnabod y ffyrdd amlycaf o wastraffu amser, gweithio yn well trwy gynllunio a blaenoriaethu, gwneud defnydd effeithiol o’ch dyddiadur a’ch trefnydd personol, cael gwared â phentwr o waith papur a negeseuon e-bost, a gwneud defnydd effeithiol o amser gydag eraill.
Cymraeg ar y cyfrifiadur - Dr Llion Jones
Amcanion y gweithdy hwn yw darparu cyflwyniad ymarferol i’r adnoddau cyfrifiadurol sydd ar gael i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yng nghyd-destun Addysg Uwch. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn gyfarwydd â gwahanol arfau iaith cyfrifiadurol ac yn hyderus i’w defnyddio.
Cydweithio ar gyfer ymchwilwyr
Drwy gyfrwng cyfres o gemau a thasgau hwyliog ac anffurfiol, bydd y gweithdy ymarferol hwn yn rhoi cyfle i ystyried beth sy’n ein galluogi i gydweithio’n llwyddiannus, gwahanol ddulliau o gydweithio fel ymchwilwyr, beth yw’r prif anawsterau sy’n codi wrth gydweithio, a sut mae mynd ati i wella’r modd yr ydym yn cydweithio.
Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu - Gwyn Ellis
Nod y gweithdy hwn yw deall sut i gyfathrebu’n effeithiol, ystyried technegau denu a chadw sylw a diddordeb eraill, a datblygu gwybodaeth o sut i ddefnyddio technoleg i gefnogi cyflwyniad. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn ymwybodol o sut i ymglymu cynulleidfa drwy sianeli di-eiriau a geiriol, yn adnabod elfennau allweddol cyflwyno’n llwyddiannus, ac yn fwy hyderus i fynd ati i baratoi, cyflawni a myfyrio ar effeithiolrwydd eich cyflwyniadau.
Methodoleg dyfynnu a chyfeirio at ffynonellau - Angharad Simpson
Mae gwybod sut i ddyfynnu a chyfeirio yn iawn yn rhan bwysig o arfer da academaidd. Mae'n eich galluogi i gydnabod gwaith awduron eraill yn eich maes astudio, ac yn eich helpu i osgoi cyhuddiadau o lên-ladrad. Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd eisiau trosolwg o gyfeirio a dyfynnu. Amcan gweithdy hwn yw rhoi cyflwyniad cyffredinol i arddulliau dyfynnu a systemau cyfeirio.
Cyfieithu, trawsieithu a rheoli termau - Dr Tegau Andrews
Nod y gweithdy hwn yw eich galluogi i gynhyrchu deunydd Cymraeg academaidd yn hyderus mewn amgylchedd dwyieithog. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn deall sut mae’r Saesneg yn dylanwadu ar Gymraeg academaidd a sut mae osgoi hynny, yn medru defnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus i ysgrifennu a chyflwyno deunyddiau academaidd, ac yn gallu defnyddio offer iaith megis cymhorthion sillafu a gramadeg, a geiriaduron.
Deallusrwydd artiffisial - Dr Cynog Prys
Bydd y ffurflen gofrestru yn ymddangos ar y dudalen hon yn fuan.