Dyddiad: 26 - 27 Ionawr 2027
Lleoliad: Bangor
Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.
Gweithdai'r cwrs:
Rhoi graen ar eich gwaith - Dr Leila Griffiths
Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr ymchwil sy’n dymuno archwilio dulliau o fireinio, golygu a phrawf-ddarllen eu gwaith ysgrifenedig. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn ymwybodol o wahanol strategaethau a thechnegau i’w defnyddio wrth olygu a phrawf-ddarllen, yn medru adnabod eich gwallau cyffredin er mwyn eu canfod a’u datrys ar gyfer tro nesaf, ac yn medru rhoi trefn ar eich syniadau drwy ddefnyddio gwahanol dechnegau.
Methodoleg dyfynnu a chyfeirio at ffynonellau - Angharad Simpson
Mae gwybod sut i ddyfynnu a chyfeirio yn iawn yn rhan bwysig o arfer da academaidd. Mae'n eich galluogi i gydnabod gwaith awduron eraill yn eich maes astudio, ac yn eich helpu i osgoi cyhuddiadau o lên-ladrad. Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd eisiau trosolwg o gyfeirio a dyfynnu. Amcan gweithdy hwn yw rhoi cyflwyniad cyffredinol i arddulliau dyfynnu a systemau cyfeirio.
Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu - Gwyn Ellis
Nod y gweithdy hwn yw deall sut i gyfathrebu’n effeithiol, ystyried technegau denu a chadw sylw a diddordeb eraill, a datblygu gwybodaeth o sut i ddefnyddio technoleg i gefnogi cyflwyniad. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn ymwybodol o sut i ymglymu cynulleidfa drwy sianeli di-eiriau a geiriol, yn adnabod elfennau allweddol cyflwyno’n llwyddiannus, ac yn fwy hyderus i fynd ati i baratoi, cyflawni a myfyrio ar effeithiolrwydd eich cyflwyniadau.
Cyfieithu, trawsieithu a rheoli termau - Dr Tegau Andrews
Nod y gweithdy hwn yw eich galluogi i gynhyrchu deunydd Cymraeg academaidd yn hyderus mewn amgylchedd dwyieithog. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn deall sut mae’r Saesneg yn dylanwadu ar Gymraeg academaidd a sut mae osgoi hynny, yn medru defnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus i ysgrifennu a chyflwyno deunyddiau academaidd, ac yn gallu defnyddio offer iaith megis cymhorthion sillafu a gramadeg, a geiriaduron.
Deallusrwydd artiffisial - Dr Cynog Prys
Mae’r gweithdy hwn yn cyflwyno egwyddorion sylfaenol deallusrwydd artiffisial (DA) ac yn esbonio sut mae’r dechnoleg yn gweithio yng nghyd-destun y byd academaidd Cymraeg. Bydd yn trafod cyfleoedd a heriau DA mewn ymchwil ac addysgu, gan ddangos enghreifftiau ymarferol o sut y gall technolegau diweddaraf gefnogi astudiaethau, ymchwil ac addysgu drwy gyfrwng y Gymraeg. Erbyn diwedd y gweithdy, bydd cyfranogwyr yn gallu egluro’r cysyniadau sylfaenol sy’n sail i DA, gwerthuso ei effaith ar y sector academaidd, a defnyddio technolegau newydd yn effeithiol yn eu gwaith eu hunain.
A mwy!
Bydd y ffurflen gofrestru yn ymddangos ar y dudalen hon yn fuan.