Skip to main content Skip to footer
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Cwrs sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd (2/4)

Dydd Mawrth, 14 Tachwedd 2023 - Dydd Mercher, 15 Tachwedd 2023
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Dyddiad: 14–15 Tachwedd 2023

Lleoliad: Bangor

Cwrs preswyl ar gyfer myfyrwyr ôl-radd i ddysgu a datblygu sgiliau ymchwil.

Gweithdai'r cwrs: 

 

Rhoi graen ar eich gwaith

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr ymchwil sy’n dymuno archwilio dulliau o fireinio, golygu a phrawf-ddarllen eu gwaith ysgrifenedig. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn ymwybodol o wahanol strategaethau a thechnegau i’w defnyddio wrth olygu a phrawf-ddarllen, yn medru adnabod eich gwallau cyffredin er mwyn eu canfod a’u datrys ar gyfer tro nesaf, ac yn medru rhoi trefn ar eich syniadau drwy ddefnyddio gwahanol dechnegau.

 

Cymraeg ar y cyfrifiadur

Amcanion y gweithdy hwn yw darparu cyflwyniad ymarferol i’r adnoddau cyfrifiadurol sydd ar gael i hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg yng nghyd-destun Addysg Uwch. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn gyfarwydd â gwahanol arfau iaith cyfrifiadurol ac yn hyderus i’w defnyddio.

 

Sgiliau cyflwyno a chyfathrebu

Nod y gweithdy hwn yw deall sut i gyfathrebu’n effeithiol, ystyried technegau denu a chadw sylw a diddordeb eraill, a datblygu gwybodaeth o sut i ddefnyddio technoleg i gefnogi cyflwyniad. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn ymwybodol o sut i ymglymu cynulleidfa drwy sianeli di-eiriau a geiriol, yn adnabod elfennau allweddol cyflwyno’n llwyddiannus, ac yn fwy hyderus i fynd ati i baratoi, cyflawni a myfyrio ar effeithiolrwydd eich cyflwyniadau.

 

Cydweithio ar gyfer ymchwilwyr

Drwy gyfrwng cyfres o gemau a thasgau hwyliog ac anffurfiol, bydd y gweithdy ymarferol hwn yn rhoi cyfle i ystyried beth sy’n ein galluogi i gydweithio’n llwyddiannus, gwahanol ddulliau o gydweithio fel ymchwilwyr, beth yw’r prif anawsterau sy’n codi wrth gydweithio, a sut mae mynd ati i wella’r modd yr ydym yn cydweithio.

 

Cyfieithu, trawsieithu a rheoli termau

Nod y gweithdy hwn yw eich galluogi i gynhyrchu deunydd Cymraeg academaidd yn hyderus mewn amgylchedd dwyieithog. Erbyn diwedd y gweithdy byddwch yn deall sut mae’r Saesneg yn dylanwadu ar Gymraeg academaidd a sut mae osgoi hynny, yn medru defnyddio’r Gymraeg yn fwy hyderus i ysgrifennu a chyflwyno deunyddiau academaidd, ac yn gallu defnyddio offer iaith megis cymhorthion sillafu a gramadeg, a geiriaduron.

 

Methodoleg dyfynnu a chyfeirio at ffynonellau

Mae gwybod sut i ddyfynnu a chyfeirio yn iawn yn rhan bwysig o arfer da academaidd. Mae'n eich galluogi i gydnabod gwaith awduron eraill yn eich maes astudio, ac yn eich helpu i osgoi cyhuddiadau o lên-ladrad. Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr ôl-raddedig sydd eisiau trosolwg o gyfeirio a dyfynnu. Amcan gweithdy hwn yw rhoi cyflwyniad cyffredinol i arddulliau dyfynnu a systemau cyfeirio,

 

Hawlfraint ac eiddo deallusol

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i unrhyw un sydd yn ymdrin â gweithiau sydd wedi’u creu gan eraill, yn paratoi gwaith i’w gyhoeddi mewn unrhyw gyfrwng, neu sydd am wneud defnydd o unrhyw ddarn o waith rhywun arall wrth ddysgu, mentora neu baratoi adnoddau ar gyfer myfyrwyr. Amcanion y gweithdy hwn yw datblygu ymwybyddiaeth o hawlfraint, Ystyried rôl awdur, y cyhoeddwr ac ambell asiantaeth yn y gwaith o warchod hawlfraint, cynnig ffyrdd o weithredu’n gyfreithlon wrth greu gwaith i’w gyhoeddi, ac ystyried goblygiadau hawlfraint ym maes dysgu ac arholiadau

 

Rheoli amser a phwysau gwaith

Nod y gweithdy hwn yw ceisio newid o leiaf un arfer drwg sy’n effeithio ar eich gallu i reoli amser. Ar ddiwedd y cwrs byddwch yn gallu adnabod problemau a chynhyrchu rhaglen weithredu, adnabod y ffyrdd amlycaf o wastraffu amser, gweithio yn well trwy gynllunio a blaenoriaethu, gwneud defnydd effeithiol o’ch dyddiadur a’ch trefnydd personol, cael gwared â phentwr o waith papur a negeseuon e-bost, a gwneud defnydd effeithiol o amser gydag eraill.

 

Cofrestra drwy'r ddolen isod erbyn 2 Tachwedd 2023