Skip to main content Skip to footer
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Cwrs sgiliau ymchwil i fyfyrwyr ôl-radd (4/4)

Dydd Mawrth, 30 Ionawr 2024 - Dydd Mercher, 31 Ionawr 2024
Mân lun rhaglen Sgiliau Ymchwil

Dyddiad: 30–31 Ionawr 2024

Lleoliad: Prifysgol Bangor

 

Mae'r cwrs wedi ei anelu yn benodol at fyfyrwyr ymchwil sy'n dod tuag at ddiwedd eu hastudiaethau, ac mae gweithdai’r cwrs yn cynnwys:

 

Ymdopi â newid: gorffen yn y brifysgol – Gwawr Roberts

Bydd y gweithdy hwn yn eich paratoi wrth i chi ddod at ddiwedd eich cyfnod yn y brifysgol a symud ymlaen i'r cam nesaf yn eich gyrfa.

 

Paratoi at y Viva – Dr Hefin Jones

Nod y gweithdy hwn yw eich paratoi at gwblhau arholiad y Viva yn llwyddiannus.

 

Yr ymchwilydd mentrus: adnabod eich sgiliau

Bydd y gweithdy hwn o ddiddordeb i fyfyrwyr ôl-radd sydd yn awyddus i adnabod sgiliau a fyddai’n cyfoethogi eich CV a cheisiadau am swyddi.   

 

Cyfrannu at waith tîm – Nia Meacher

Amcanion y gweithdy hwn yw rhoi’r cyfle i adnabod arddulliau gweithio mewn tîm er mwyn deall sut rydym yn debyg ac yn wahanol i eraill, ac o ddeall hyn, sylweddoli sut gallwn gyfathrebu a gweithio’n fwy effeithiol ag eraill. 

 

Cynllunio gyrfa a chwilio am swyddi – Mari Price ac Elinor Churchill

Yn y gweithdy yma, bydd cyfle i ystyried y broses o gynllunio eich gyrfa, p’un a ydych chi’n gwybod beth hoffech chi ei wneud yn y dyfodol neu heb wneud penderfyniad eto. Gan gwblhau ymarferion hunanasesu, bydd cyfle i chi gynyddu eich hunanymwybyddiaeth o’ch sgiliau cyflogadwyedd. Byddwn hefyd yn edrych ar strategaethau defnyddiol i chwilio am swyddi.  

 

Paratoi CV a chais effeithiol am swydd – Mari Price ac Elinor Churchill

Yn y gweithdy yma, byddwn yn edrych ar sut i baratoi CV a chais effeithiol, a chael cyfle i ddadansoddi'r hyn mae cyflogwr yn chwilio amdano am wrth hysbysebu swyddi.

 

Cyfathrebu a rhwydweithio digidol effeithiol – Mari Price ac Elinor Churchill

Yn y gweithdy yma byddwn yn edrych ar sut i rwydweithio’n effeithiol, gan gynnwys defnydd effeithiol o gyfryngau cymdeithasol wrth chwilio am swyddi, wrth hyrwyddo’ch gwaith ymchwil, ac fel rhan o’ch datblygiad proffesiynol. Byddwn yn edrych ar wahanol blatfformau digidol i hwyluso'r broses o rwydweithio a chodi eich proffil ar-lein.  

 

Cyflwyno eich hun yn broffesiynol mewn cyfweliad – Mari Price ac Elinor Churchill

Yn y gweithdy yma byddwn yn edrych ar wahanol fathau o gyfweliadau, dysgu mwy am sut i ddarparu’n effeithiol, a dulliau i ymateb i wahanol steiliau o gwestiynau cyfweliad.

 

Cofrestra drwy'r ddolen isod erbyn 18 Ionawr 2024