Dyddiad: 25 Mehefin 2026
Amser: 12:30 - 16:00
Lleoliad: Y Drwm, Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth
Prynhawn o gyflwyniadau a phanel yn rhannu gwybodaeth a chyngor am gyhoeddi academaidd, yn rhan o ddeuddydd y Gynhadledd Ymchwil.
Cynnwys:
- Cyflwyniad i Gwerddon - Dr Hywel Griffiths
- Cyflwyniad i Wasg Prifysgol Cymru - Dr Llion Wigley
- Panel trafod gyda'r Athro Huw Morgan, Dr Hannah Sams, Dr Sam Parry, Dr Geraint Palmer-Liyu a Dr Rhiannon Marks.
Mae'r digwyddiad wedi ei anelu at fyfyrwyr ymchwil, ond mae croeso mawr i unrhyw un sydd â diddordeb mewn cyhoeddi academaidd i ymuno â ni.
Bydd y ddolen i gofrestru ar y dudalen hon ym mis Ebrill.