Cynhelir Cynhadledd Ymchwil y Coleg Cymraeg ar 25–26 Mehefin 2026 yn y Llyfrgell Genedlaethol, Aberystwyth.
Caiff y gynhadledd hefyd ei ffrydio ar sianel YouTube y Coleg (nid oes angen cofrestru i ymuno ar-lein).
Mae’r gynhadledd ryngddisgyblaethol flynyddol hon yn agored i bawb sydd yn cynnal ac sydd â diddordeb mewn ymchwil academaidd trwy gyfrwng y Gymraeg, beth bynnag yw’r maes a'r ddisgyblaeth.
Amserlen:
Dydd Iau 25 Mehefin
- 2:30pm - 4:15pm: Hyfforddiant ar Gyhoeddi Academaidd
- 4:30pm - 6pm: Y Gynhadledd Ymchwil
Dydd Gwener 26 Mehefin
- 9:30am – 4:00pm: Y Gynhadledd Ymchwil
Dyma'r papurau a gyflwynir yn ystod deuddydd y gynhadledd:
- 'I don’t feel like any of these learners will count towards a million speakers': Profiadau athrawon o addysgu'r Gymraeg mewn ysgolion cynradd cyfrwng Saesneg Jonathan Davies (Prifysgol Caerdydd)
- Beth sy’n gwneud sgwrs yn ‘llwyddiannus’ i ddysgwyr ieithoedd? Cymhariaeth o leferydd a phrofiadau dysgu rhithiol ac wyneb yn wyneb ymhlith dysgwyr Cymraeg a Ffrangeg Quebec Emma Grigorian (Prifysgol Met Caerdydd)
- O Lygad y Ffynnon: Canfyddiadau Cyfranogwyr Anne Uruska (Prifysgol Aberystwyth)
- A yw datganoli cyllidol yn gysylltiedig â thwf economaidd yn y Deyrnas Unedig? Guto Rhys Hughes (Prifysgol Bangor)
- Rheoleiddio Corff y Dyn Cristnogol: Sut mae ‘corff-lunio’, diwylliant ffitrwydd ac estheteg yn gweithredu fel ffurfiau cyfoes o ‘Gristnogaeth Gyhyrol’ ddisgyblaethol Tomos Owen (Prifysgol Bangor)
- Hawl i farw yn y Gymraeg Maisie Edwards (Prifysgol Abertawe)
- Datblygu adnodd mesur a dull gweithredu newydd o hunanasesu lles pobl ifanc yn eu harddegau (14-16 oed) Cerys Reynolds (Prifysgol Met Caerdydd)
- Canfod effaith ïonau metel trwm ar ensym sy'n gysylltiedig â Chlefydau Storio Lysosomal prinEllis Evan Jones (Prifysgol Caerdydd)
- Cunard, White Star, y Gymraeg a’r Eisteddfod Genedlaethol: Llygad-wasanaeth yn unig?Ifan Erwyn Pleming (Prifysgol Bangor)
- Hunaniaeth Geltaidd ym mhêl-droed Llydaw: tebygrwydd a gwahaniaethau rhwng Llydaw a ChymruJonathan Ervine (Prifysgol Bangor)
- Bywiogrwydd Ieithyddol yn yr Oes Ddigidol: Rôl Deallusrwydd Artiffisial ac Addysg Beca Wyn Owen (Prifysgol Bangor)
Cynhelir hefyd gystadleuaeth Posteri Ymchwil.
Dewch i gefnogi'r to nesaf o academyddion Cymraeg wrth iddynt drafod ffrwyth eu hymchwil. Mae'r gynhadledd hefyd yn gyfle euraid i'r gymuned ymchwil yng Nghymru gwrdd â'i gilydd, rhannu syniadau a phrofiadau, a hyrwyddo astudiaethau ysgolheigaidd trwy gyfrwng y Gymraeg.
Am ragor o wybodaeth cysylltwch â m.james@colegcymraeg.ac.uk.
Dyddiad cau i gofrestru: 17 Mehefin 2026