Skip to main content Skip to footer
poster Cynhadledd Cemeg 27 Mai 2026, Prifysgol Caerdydd

Cynhadledd Cemeg, Caerdydd 2026

Dydd Mercher, 27 Mai 2026
poster Cynhadledd Cemeg 27 Mai 2026, Prifysgol Caerdydd

Cynhadledd Cemeg Caerdydd 2026 ar 27 Mai 2026 ym Mhrifysgol Caerdydd. Bwriad y gynhadledd yw creu fforwm ar gyfer ymchwilwyr cemeg boed mewn prifysgolion neu ddiwydiant i drafod darganfyddiadau diweddaraf yn y maes.

Bydd cyflwyniadau ar amryw o destunau cemegol gan ymchwilwyr gyrfa cynnar a phrofiadol gan gynnwys ein siaradwyr gwadd. Dyma gyfle arbennig i gemegwyr led-led Cymru a thu hwnt i arddangos eu gwaith ymchwil trwy gyfrwng y Gymraeg.

Cyfieithu

Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Bydd y gynhadledd hefyd yn cael ei recordio a’i darlledu’n fyw ar y we. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau cemegol i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod.

Galwad i gyfrannu

Gofynnir am bapurau o unrhyw ddisgyblaeth gemegol. Croesawn gyflwyniadau gan fyfyrwyr ôl-radd neu ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ogystal ag academyddion profiadaol. 

Dylai’r cyflwyniadau fod yn 10 munud o hyd a bydd 5 munud o gwestiynau gan y gynulleidfa yn dilyn.

Gofynnir i bawb sy’n dymuno cyflwyno eu gwaith yn y gynhadledd i ddarparu crynodeb o’u cyflwyniad (nid mwy na 300 gair) drwy lenwi’r ffurflen gofrestri erbyn 24 Mawrth 2026.

Cystadleuaeth posteri

Ceir cystadleuaeth posteri i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol. Gofynnir i bawb sy’n dymuno cyflwyno poster i ddarparu crynodeb o’u poster (nid mwy na 250 gair) drwy lenwi’r ffurflen gofrestri erbyn 31 Mawrth 2026. Croesawn ymgeisiadau i gyflwyno poster a chyflwyniad llafar.

Bydd gwobr o £100 ar gyfer y poster gorau a gwobr o £50 am yr ail safle.

Er mwyn cofrestru dilynwch y ddolen yma os gwelwch yn dda: Cofrestru/Registration Cynhadledd Cemeg Caerdydd 2026 – Llenwi'r ffurflen.