Skip to main content Skip to footer
poster Cynhadledd Cemeg 27 Mai 2026, Prifysgol Caerdydd

Cynhadledd Cemeg, Caerdydd 2026

Dydd Mercher, 27 Mai 2026
poster Cynhadledd Cemeg 27 Mai 2026, Prifysgol Caerdydd

Cynhadledd Cemeg Caerdydd 2026 ar 27 Mai 2026 ym Mhrifysgol Caerdydd. Bwriad y gynhadledd yw creu fforwm ar gyfer ymchwilwyr cemeg boed mewn prifysgolion neu ddiwydiant i drafod darganfyddiadau diweddaraf yn y maes. 

Cofrestru: Cofrestru/Registration Cynhadledd Cemeg Caerdydd 2026 – Llenwi'r ffurflen 

Rhaglen y Dydd

09:30 - 09:45 Croeso a Chofrestru (SCLT)
09:45 - 10:00 Agor y Gynhadledd

Sesiwn 1 - Cadeirydd: Yr Athro Dewi Lewis (SCLT)

10:00  Siaradwr Gwadd: Yr Athro Ifan Stephens, Coleg Imperial Llundain - Galluogi Lleihau Nitrogen Electrocemegol Detholus

10:30  Rhodri Jenkins, Prifysgol Caerdydd - Hydro-Oxy: Darparu H2O2 in situ yn Effeithlon ar gyfer Prosesau Ocsidiad Diwydiannol Gwyrdd

10:45  Jacob Isaac, Prifysgol Abertawe - Effaith Mandylledd Polymerau ar Uwchraddio Ffotogemegol 

11:00  Ellis Evan Jones, Prifysgol Caerdydd - Ystyried Metelau Trwm yn Nhriniaeth Clefydau Lysosomal Prin


11:15 - 11:45 Egwyl (Oriel VJ)

Sesiwn 2 - Cadeirydd: Dr James Redman (SCLT)

11:45 Siaradwr Gwadd: Dr Guto Rhys, Prifysgol Caerdydd - Optimeiddio Adwaith Mizoroki-Heck Mewnfoleciwlaidd tuag at Gydnawsedd Ensym

12:15 Gwenno Rowlands, Prifysgol Caerdydd - Defnyddio Seramidas Asid fel Targed Therapiwtig i Drin Amryw o Glefydau

12:30 Mali Bleddyn Evans, Prifysgol Caerdydd - Synthesis o Atalydd FtsZ i Ymladd Ymwrthedd Gwrthficrobaidd

12:45 Suzannah Monica Siân Hartill, Prifysgol Caerdydd - Peirianeg Ensymau ar gyfer Ffurfio Bondiau Carbon-Nitrogen tuag at Ddewis Amgen i Adwaith Buchwald-Hartwig 

13:00-14:00 CINIO (Oriel VJ)

Sesiwn 3 - Cadeirydd: Yr Athro Ifan Stephens (SCLT)

14:00  Siaradwr Gwadd: Dr Siôn Edwards, Pharamon a Dr Rhydian Beddow, CatSci - Radiolabelu Titriwm

14:45  Siaradwr Gwadd: Elin Rhys, Cwmni Cynyrchu Telesgop - Sesiwn ar sut i gyfathrebu gwaith Gwyddonol i'r Cyhoedd

15:30-16:30 Sesiwn Posteri (Oriel VJ)

  • Defnyddio Seramidas Asid fel Targed Therapiwtig i Drin Amryw o Glefydau - Gwenno Rowlands
  • Ystyried Metelau Trwm yn Nhriniaeth Clefydau Lysosomal Prin - Elis Evan Jones
  • Hydro-Oxy: Darparu H2O2 in situ yn Effeithlon ar gyfer Prosesau Ocsidiad Diwydiannol Gwyrdd - Rhodri Jenkins
  • Synthesis o Atalydd FtsZ i Ymladd Ymwrthedd Gwrthficrobaidd - Mali Bleddyn Evans

16:30 - 17:00 Cloi r Gynhadledd a Gwobrau (SCLT)

Lleoliadau:
SCLT Darlithfa Fach Cemeg, Ystafell 1.122
Oriel VJ Oriel Viramu Jones, Llawr Gwaelod Prif Adeilad

Cyfieithu

Cynhelir y gynhadledd yn y Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar y pryd ar gael. Bydd y gynhadledd hefyd yn cael ei recordio a’i darlledu’n fyw ar y we. Mae croeso cynnes i bawb sy’n ymddiddori yn y gwyddorau cemegol i gofrestru ar gyfer y gynhadledd drwy ddilyn y ddolen isod.

Cystadleuaeth Bosteri

Ceir cystadleuaeth posteri i fyfyrwyr ôl-radd ac ymchwilwyr ôl-ddoethurol. 

Bydd gwobr o £100 ar gyfer y poster gorau a gwobr o £50 am yr ail safle.

Crynodeb o'r Cyflwyniadau